Y Genhadaeth
Amcan yr adran hon yw eich cynorthwyo i ysgrifennu datganiad cenhadaeth cryno sy’n disgrifio diben eich busnes cymdeithasol.
Mae pob busnes cymdeithasol yn cychwyn gyda gweledigaeth – sef syniad ynghylch sut gallai’r byd fod yn lle gwell pe gellir sefydlu prosiect yn seiliedig ar gyfres o werthoedd a gyda nodau penodol.
I ddechrau, mae’n bosibl na fydd y weledigaeth wedi’i diffinio’n dda. Man cychwyn da fyddai gwneud eich gorau i ddisgrifio’r gwerthoedd a’r nodau hynny – bydd hyn o gymorth o ran canolbwyntio a gloywi eich gweledigaeth.
Mae gweledigaeth ar ei phen ei hun yn un heb unrhyw sylwedd. Mae gwireddu’r prosiect yn weithred greadigol, sef crisialu’r weledigaeth o gwmpas hedyn. Yr hedyn yw’r datganiad cenhadaeth. Bydd llunio datganiad cenhadaeth yn eich galluogi i rannu eich gweledigaeth yn eglur â phobl eraill fel y gellir adeiladu menter gydlynol.
Os byddwch yn ei chael hi’n anodd ysgrifennu datganiad cenhadaeth byr, efallai bod gennych nifer o amcanion sy’n anghyson â’i gilydd a phethau rydych chi eisiau eu cyflawni. Ceisiwch chwilio am themâu cyffredin sy’n uno’r amcanion hyn. Efallai y gallwch fynegi’r genhadaeth o ran yr effaith gymdeithasol fwriadedig neu, ar gyfer cwmni cydweithredol, y buddion i’r aelodau.
Ysgrifennwch eich datganiad cenhadaeth gyda hirhoedledd mewn golwg. Bydd yn arwain datblygu’r fenter y tu hwnt i’r dyfodol agos felly dylech ei ddrafftio’n ofalus iawn - ystyriwch bob gair - a gwnewch yn siŵr bod cymaint o randdeiliaid â phosibl yn cytuno.
Wedi i chi gytuno ar ddatganiad cenhadaeth, gosodwch y datganiad ar y wal. Mae’n bwysig bod pawb sy’n cymryd rhan yn gyfarwydd â’r datganiad cenhadaeth – bydd hyn yn helpu cadw gweithgarwch wedi’i ganolbwyntio ar y genhadaeth, a datrys gwrthdaro a chamddealltwriaeth, a llywio cynllunio strategol.
Gwiriwch unrhyw weithgarwch newydd arfaethedig yn erbyn y datganiad cenhadaeth. Os ystyrir ei fod y tu hwnt i’r genhadaeth, dylech fod â rheswm da dros ben – a chonsensws – cyn symud ymlaen.
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn sefydliad a arweinir gan werthoedd. Gallwch lawrlwytho gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd y Ganolfan isod.
