Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau a chofnodion llywodraethu
Sefydlu a gofynion parhaus. Camau gweithredu:
Cytuno ar amserlen cyfarfodydd y Bwrdd
Cytuno ar amserlen cyfarfodydd y Bwrdd (ac unrhyw is-bwyllgorau) ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae'n arfer da cynllunio ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd y Bwrdd drwy gydol y flwyddyn gan gynnal cyfarfodydd chwarterol o leiaf.
Adnoddau:

Cofrestrau o aelodau, aelodau'r Bwrdd ac ati.
Sefydlwch eich cofrestrau ar gyfer cofnodi manylion aelodau, aelodau'r Bwrdd a swyddogion. Gall y rhain fod yn electronig neu ar bapur.
Yr allwedd bob amser yw cadw’r wybodaeth yn gyfredol er budd ffurflenni blynyddol ac adroddiadau'r rheoleiddiwr.
Adnoddau:
Templedi ar gyfer cofrestr eich cwmni:





Cofrestr buddiannau
Sefydlwch gofrestr buddiannau ar gyfer aelodau eich Bwrdd fel rhan o'ch gwaith o fonitro gwrthdrawiad buddiannau. Dylai pob aelod Bwrdd ddarparu ffurflen ddatganiad yn nodi eu buddiannau unigol mewn sefydliadau eraill fel bod eich busnes yn ymwybodol o’r dechrau o unrhyw wrthdaro posibl a allai godi.
Dylai aelodau'r Bwrdd gwblhau datganiad blynyddol i sicrhau bod y gofrestr buddiannau’n gyfredol.
Adnoddau:

Dirprwyaethau ysgrifenedig - dirprwyaethau ariannol
Nodwch unrhyw is-bwyllgorau a dirprwyaethau sydd eu hangen a datblygwch y cylch gorchwyl priodol ac awdurdodau dirprwyo ysgrifenedig.
Calendr o ddyddiadau llywodraethu busnes a gweithredol allweddol
Sefydlwch galendr sy'n mapio dyddiadau allweddol dros gyfnod o 12 mis. Cynhwyswch gyfarfodydd y Bwrdd, Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, terfynau amser adrodd rheoleiddiol, dyddiadau adnewyddu ar gyfer contractau a pholisïau allweddol, dyddiadau adrodd prosiectau ac ati.
Adnoddau:

Yn yr adran hon:
- Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau a chofnodion llywodraethu
- Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau a rheolaethau ariannol - gofynion sefydlu
- Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau a rheolaethau ariannol - gofynion parhaus
- Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau a gweithdrefnau AD
- Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau AD - Sylw ar 'Reoli pobl'
- Sicrhau cydymffurfiaeth: Rheoli asedau ac adnoddau - Sylw ar 'Asedau'