Mae busnesau cymdeithasol ar flaen y gad o ran llywodraethu da, gan gyfuno gofynion gweinyddu da o ran busnes masnachol â darparu buddion i aelodau a chymunedau.
Mae llywodraethu da nid yn unig yn helpu sicrhau bod eich busnes yn rhedeg yn effeithlon ac o fewn yr holl ofynion cyfreithiol, ond mae hefyd yn helpu cadw eich effaith gymdeithasol ar flaen y gad bob amser, gan sicrhau bod yr holl benderfyniadau’n cael eu gwneud gyda budd pennaf eich achos cymdeithasol mewn cof.
Mae nifer o elfennau yn cyfrannu at lywodraethu eich busnes yn dda: o gynnwys rhanddeiliaid mewnol (Bwrdd, aelodau, staff) ac allanol, i strategaeth, cynllunio a chyflawni. Wrth gynnal eich busnes, mae’n allweddol cofio bod y rhain yn gysylltiedig â’i gilydd; wedi’r cyfan, mae sefydliad dim ond yr un mor gryf â’i ddolen wannaf.
Strwythurau busnes ar gyfer menter gymdeithasol
Sicrhewch fod llywodraethu da o fewn eich menter gymdeithasol trwy roi sylw penodol i’r meysydd a restrir isod. Ystyriwch bob adran yn ei thro i nodi meysydd i’w gwella a diffiniwch y camau gweithredu a fydd yn cryfhau eich busnes cymdeithasol.
Bwrdd cyfarwyddwyr menter gymdeithasol a datblygu gallu i lywodraethu
Trosolwg o’r modd y gall y sefydliad sicrhau bod y rheiny sy’n gyfrifol am lywodraethu yn cael eu hysbysu, eu hyfforddi a’u cefnogi’n dda, fel y gallant ddarparu’r llywodraethu busnes gorau posibl.
Bodloni gofynion adrodd cyfreithiol
Cyngor pwysig ar sut gall y sefydliad warchod ei ffurf gyfreithiol, ei statws, ei atebolrwydd cyfyngedig a’i hawl i fasnachu.
Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer menter gymdeithasol
Sut i ddarparu fframwaith sy’n ei gwneud yn glir i bawb sy’n gysylltiedig â’r sefydliad sut mae pethau’n gweithredu. Gallwch ddefnyddio’r fframwaith hwn i ddwyn pob aelod o’r fenter i gyfrif.
Strwythurau busnes ar gyfer menter gymdeithasol: darparu rheolaeth a goruchwyliaeth
Y mecanweithiau a ddefnyddir gan y rheiny sy’n llywodraethu’r sefydliad i sicrhau eu bod yn gwybod beth sy’n digwydd a gwneud penderfyniadau cyfreithiol, cymdeithasol gyfrifol a masnachol hyfyw.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid ac aelodau
Sut mae’r sefydliad yn mynd ati i weithio i hysbysu a chynnwys y rheiny sydd â pherchnogaeth neu hawliau i ymresymu yn y broses lywodraethu.