Dogfennau ffurfio cwmni a chamau nesaf
Cam 1
Mae angen i chi sefydlu dogfennau ffurfio eich cwmni. Gelwir hyn yn Gofrestr eich Cwmni. Bydd angen i chi lenwi’r ffurflenni syml hyn a’u cadw mewn man diogel. Hefyd, mae’n werth cadw copi wrth gefn yn rhywle ar y ffeil.
Mae Cofrestr Cwmni yn cynnwys y ffurflenni canlynol:
Mae angen i enw a chyfeiriad pawb sy’n aelod o’r busnes cymdeithasol a’r dyddiad y gwnaethant ymuno a gadael fod ar y gofrestr. Gwnewch nodyn o’u rhif Tystysgrif Cyfranddaliadau os yw’n berthnasol.
Enw a chyfeiriad eich Aelodau Bwrdd (h.y. Cyfarwyddwyr Cwmni ac Ymddiriedolwyr Elusen) a’r dyddiad y gwnaethant ymuno a gadael. Bydd angen iddynt lofnodi’r gofrestr yn eich cyfarfod cyntaf.
Enw a chyfeiriad eich ysgrifennydd a’r dyddiad y gwnaeth ymuno/gadael. Bydd angen iddo/iddi lofnodi ei fod/bod yn derbyn y swydd yn y golofn olaf. Gwnewch hyn yn eich cyfarfod cyntaf.
Mae hyn yn cofnodi unrhyw fuddiannau sydd gan Aelodau’r Bwrdd mewn busnesau a sefydliadau eraill. Mae’n bwysig cofnodi a diweddaru’r gofrestr oherwydd gall buddiannau newid ac weithiau gall gwrthdaro buddiannau ddigwydd.
Rhestr yw hon o unrhyw un sydd ag arwystl cyfreithiol yn erbyn y cwmni neu eiddo. Gall fod yn forgais neu’n ddyfarniad hyd yn oed. Mae angen diweddaru’r gofrestr hon gan eu bod yn dod i ben dros gyfnod.
Rhestr o bobl â dros 25% o’r cyfranddaliadau neu hawliau pleidleisio. Nodwch yma hefyd unrhyw un sydd â’r awdurdod i benodi neu ddiswyddo’r mwyafrif o’r Bwrdd.






Cam 2
Cofrestrwch gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM). Os nad ydych chi wedi gwneud hyn yn barod, gwnewch hynny nawr, oherwydd gallech gael eich dirwyo os gadewch i 3 mis fynd heibio heb wneud.
Cam 3
Cam 4
Mae pethau’n newid, ond peidiwch â phoeni. Os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau, dyma’r ffurflenni mwyaf cyffredin y gall fod eu hangen arnoch chi:
- Newid Cyfeiriad Swyddfa Gofrestredig – AD01
- Penodi Cyfarwyddwr – AP01
- Penodi Ysgrifennydd – AP03
- Terfynu Penodiad Cyfarwyddwr – TM01
- Terfynu Penodiad Ysgrifennydd – TM02
- Newid Manylion Cyfarwyddwr – CH01
- Newid Manylion Ysgrifennydd – CH03
Os ydych wedi ymuno â gwasanaeth ar-lein Tŷ’r Cwmnïau, byddwch yn gallu diweddaru gwybodaeth allweddol am gwmnïau ar-lein trwy wefan Tŷ’r Cwmnïau.
Cam 5
Cadwch mewn cysylltiad â’ch Cynghorydd Busnes gan ei fod/bod ar gael i’ch helpu ac i ateb unrhyw ymholiadau neu cysylltwch â sbwenquiries@wales.coop