Cydymffurfiaeth busnes: Dogfen lywodraethol

Mae eich dogfen lywodraethol yn nodi'r rheolau cyfreithiol perthnasol wrth sefydlu eich busnes cymdeithasol. RHAID i chi weithredu o fewn y rheolau hyn. Mae'r meysydd allweddol sydd wedi'u cynnwys yn y ddogfen lywodraethol fel a ganlyn:

Mae'r rhain yn nodi'r hyn y sefydlwyd eich busnes cymdeithasol i'w wneud a'r hyn y gallwch ac na allwch ei wneud i gyflawni eich gweithgareddau.

Mae'r rheolau aelodaeth yn nodi pwy all ac na all fod yn aelodau o'r busnes cymdeithasol. Gallant gynnwys:

  • y gwahanol gategorïau o aelodaeth
  • proses ymgeisio
  • terfynu aelodaeth
  • ffioedd aelodaeth a lefelau tanysgrifio.

Gwybodaeth am y Bwrdd a'i aelodau:

  • penodi aelodau'r Bwrdd
  • cymhwysedd aelodau'r Bwrdd
  • ymddiswyddiadau a diswyddiadau
  • hyd gwasanaeth
  • gwrthdrawiad buddiannau
  • penodi swyddogion
  • sut y gwneir penderfyniadau.

Manylion unrhyw ddirprwyaethau cyffredinol a / neu benodol y mae'r Bwrdd yn eu caniatáu a'r broses ar gyfer dirprwyo. Er enghraifft, mae dirprwyaethau ariannol sy’n caniatáu cymeradwyo gwariant, o fewn terfynau penodol, wedi'i nodi mewn dogfen dirprwyo ariannol.

Rheolau gweinyddol ar gyfer meysydd gan gynnwys:

  • cyfarfodydd bwrdd
  • cyfarfodydd aelodau a Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol (CCB)
  • bodloni gofynion hysbysiadau
  • cworwm (isafswm y niferoedd sy'n bresennol mewn cyfarfodydd cyn y gellir gwneud penderfyniadau ffurfiol)
  • cofnodion cyfarfodydd
  • cofrestrau o aelodau, aelodau'r bwrdd a swyddogion.

Gweler Canllaw i gyfarfodydd aelodaur Bwrdd.

Mae templedi ar gyfer Cofrestr eich Cwmni ar gael yma

Cyfeirir at y cofnodion hyn yn aml fel cofnodion statudol y busnes.

  • gofynion adrodd rheoleiddiol, ariannol ac archwilio.

Mae hwn yn nodi sut y penderfynir cau'r busnes a beth sy'n digwydd i asedau ac eiddo'r busnes pan fydd yn cau.