Prif feysydd cydymffurfiaeth busnes y bydd angen i chi eu hystyried
Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol sy'n berthnasol i'ch busnes cymdeithasol. Mae amrywiaeth o ofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â gwahanol agweddau ar weithgareddau eich busnesau, gan gynnwys:
- Trefniadau llywodraethu fel y'u nodir yn eich llyfr rheolau neu'ch dogfen lywodraethol
- Gofynion rheoleiddio penodol a nodir gan reoleiddiwr eich busnesau (Comisiwn Elusennau, Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol, Tŷ'r Cwmnïau, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol)
- Gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â rheoli pobl yn eich busnes (AD - Adnoddau Dynol)
- Gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â rheoli eich arian
- Gofynion iechyd a diogelwch
- Gofynion diogelu data a chyfathrebu
- Gofynion cytundebol
- Rheoliadau sy'n ymwneud â gweithgareddau penodol, e.e. yr angen am drwyddedau ac ati.
Yn yr adran hon:
- Cydymffurfiaeth busnes: Dogfen lywodraethol
- Cydymffurfiaeth busnes: Rheoleiddwyr
- Cydymffurfiaeth busnes: Ariannol
- Cydymffurfiaeth busnes: Adnoddau dynol
- Cydymffurfiaeth busnes: Iechyd a diogelwch
- Cydymffurfiaeth busnes: Data a chyfathrebu
- Cydymffurfiaeth busnes: Cytundebol
- Cydymffurfiaeth busnes: Rheoleiddio sy'n benodol i weithgaredd
Eisiau trafod ymhellach? Cysylltwch â sbwenquiries@wales.coop neu eich Cynghorydd Busnes penodedig.