Fel busnes cymdeithasol, eich cyfrifoldeb chi yw diffinio amcanion cymdeithasol eich menter, ac amlinellu sut byddwch yn mesur llwyddiant, ac yn adrodd amdano.
Bydd angen i chi gael system cyfrifo cymdeithasol hyfyw, rhesymegol gyson, a thrylwyr, i adrodd am eich nodau busnes.
Cyfrifo ar gyfer mentrau cymdeithasol
Megis dechrau y mae cyfrifo cymdeithasol, neu gyfleu’r ffordd y mae gweithredoedd eich sefydliad yn effeithio ar y gymuned, o gymharu â chyfrifo ariannol. Gall y rhan fwyaf o fusnesau cymdeithasol ddewis y dull cyfrifo cymdeithasol sy’n gweddu iddynt orau, a’r effaith gymdeithasol y maent yn ceisio’i chyflawni.
Edrychwch ar y modd y mae sefydliadau eraill sy’n ymgymryd â gweithgareddau tebyg yn cyflwyno eu cyfrifon cymdeithasol i gael syniad gwell o’r hyn a allai weithio i’ch busnes cymdeithasol.
Sut i drefnu cyfrifo cymdeithasol ar gyfer eich menter?
Dechreuwch lunio eich cyfrifo busnes cymdeithasol trwy ystyried y canlynol:
- Beth yw’r effaith yr ydych yn dymuno’i chyflawni? Sut mae eich busnes cymdeithasol yn helpu’r gymuned? Mae hyn yn cyfateb i’ch nodau a’ch gweledigaeth, a gallai fod yn yr hirdymor. Gellir cyflawni’r effaith trwy gydweithio a/neu rymuso, a chan eich sefydliad yn uniongyrchol yn ogystal.
- Beth yw’r deilliannau rydych chi’n ceisio eu creu? Mae deilliannau yn disgrifio eich gweithgarwch o fewn rhychwant amser diffiniedig. Maent yn gamau angenrheidiol sy’n haws eu mesur, ac yn cyfrannu at effaith gyffredinol eich menter gymdeithasol.
- Beth yw’r allbynnau y byddwch yn eu cyflawni? Sut maent yn cyfrannu at eich deilliant?
Er enghraifft: Os mai eich effaith gymdeithasol yw economi leol fwy gwydn, deilliant posibl fydd lansio busnes newydd sy’n darparu gwasanaeth lleol ac yn hybu cyflogaeth. Efallai mai’r allbynnau yw cyflwyno hyfforddiant busnes i’r bobl a’i sefydlodd.
Gofynion cyfrifo menter gymdeithasol
I ateb y cwestiynau hyn, defnyddiwch yr un dull ag y byddech ar gyfer eich amcanion masnachol. Isod, rydym yn rhannu’r camau sy’n ymwneud â threfnu cyfrifo cymdeithasol ar gyfer eich busnes yn ddarnau llai:
Proses gyfrifo’r busnes cymdeithasol
Canllaw fesul cam i ddiffinio nodau eich busnes cymdeithasol, gosod targedau a diffinio’r ffordd orau o fesur eich nodau, yn ogystal â’r dulliau gorau ar gyfer adrodd canlyniadau i randdeiliaid, ac archwilio eich data.
Sicrhewch fod eich nodau cymdeithasol yn glir – dyma’ch maniffesto cymdeithasol.
Mae’n ymwneud â’r hyn rydych chi’n ei ddefnyddio i gael cefnogaeth rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar gyfer yr achos. Mae’n eich galluogi i beidio â gwyro oddi wrth y genhadaeth, ond mae hefyd yn pennu gweddill eich cynllunio – gan eich galluogi i osod amcanion busnes y gellir eu nodi a’u hadolygu’n rheolaidd.
Gosodwch dargedau cyflawni, a diffinio’r rhain yn ôl natur, swm, ansawdd a chost.
Pan fydd eich amcanion yn glir, gallwch gyfrifo nifer darged o unedau i’w cyflawni, a’r gost a’r amser. Dyma fydd y waelodlin ar gyfer mesur eich cyflawniadau.
Mesur
Ceisiwch ddod o hyd i ffordd o fesur os byddwch wedi bodloni’r targedau a sut byddwch yn cofnodi’r llwyddiannau hyn i’w harchwilio yn ddiweddarach. Un cyngor da yma yw y dylech geisio defnyddio neu addasu ffrydiau data presennol eraill fel cofnodion gwaith, adborth cleientiaid, ac ati, i roi data defnyddiadwy i chi. Gall cofnodion gwaith sefydlu bod allbwn hyfforddiant wedi cael ei gyflwyno i rywun a oedd yn ymgymryd â rôl cyfrifydd cymdeithasol mewn busnes cymdeithasol. Gallai adborth cleientiaid ar yr adeg honno ddangos yr ansawdd ('teimlai’r cleient fod ganddo’r grym i').
Gallai arolwg dilynol flwyddyn yn ddiweddarach bennu p’un a oedd yna ddeilliant (busnes cymdeithasol yn cadw cyfrifon cymdeithasol, ac yn adrodd amdanynt) a gallai trafodaeth gyda nhw 3 blynedd yn ddiweddarach bennu p’un a gafodd hyn unrhyw effaith (gall y sefydliad dargedu a chyflwyno gwasanaethau cymunedol yn well, a chael mwy o gyllid i wneud mwy ohono).
Mae cyfrifo cymdeithasol yn defnyddio llawer o adnoddau, ac mae’n bwysig nad yw’r gost yn niweidio gallu’r sefydliad i gyflawni budd cymdeithasol.
Mae angen casglu data yn syml ac yn economaidd. Mae sefydliadau sy’n gallu bod yn glir iawn ynglŷn â’r hyn y maent yn ei wneud a pham maent yn ei wneud yn tueddu i’w chael yn haws cyfrif nifer yr adegau y maent wedi’i wneud, a gofyn cwestiynau syml ynglŷn â ph’un a weithiodd.
Gosodwch broses ar gyfer archwilio – pwy, pryd a sut?
Mae archwiliad yn gwirio bod y system cadw llyfrau yn addas at ei diben abod y data wedi cael ei gasglu a’i gofnodi’n briodol a’r niferoedd wedi’u hadio’n gywir at ddiben adrodd. Gallai fod yna randdeiliaid allanol a allai ddarparu gwasanaeth o’r fath, yn ogystal ag ymgynghorwyr.
Gosodwch broses ar gyfer adrodd.
Mae o leiaf 2 ystyriaeth, yn gyntaf, sut gellir trefnu’r canlyniadau ar ffurf tabl, a’u cyflwyno mewn ffordd i’w cymathu a’u defnyddio yn y ffordd hawsaf fel offeryn rheoli.
Yn ail, beth yw pryderon rhanddeiliaid eraill? Gallai fod angen i gyrff ariannu a buddsoddwyr cymdeithasol weld yn glir ac yn hawdd pa allbynnau a deilliannau a gyflawnwyd gyda’u cymorth ariannol.
Lledaenu’r canlyniadau i randdeiliaid
Pan fydd menter yn adrodd yn unol â thargedau cymdeithasol, mae’n ceisio ateb cwestiynau gan randdeiliaid mewnol ac allanol sy’n debyg i’r rheiny a atebwyd gan archwiliad ariannol. A wnaeth y fenter gyflawni unrhyw un o’r amcanion cymdeithasol y gwnaethant gofrestru i’w cefnogi? A wnaeth y fenter hon y rhoesant grant iddi unrhyw beth ar gyfer eu cymuned?
Wedi i chi ateb y cwestiynau hyn yn eich archwiliad cymdeithasol, gallwch ddefnyddio’r ddogfen ddilynol i hyrwyddo eich busnes cymdeithasol ar draws sianelau amrywiol.
Gellir defnyddio’r archwiliad cymdeithasol fel offeryn marchnata i:
- Wella morâl, balchder ac ymroddiad staff
- Codi proffil y fenter
- Sefydlu sefydliad y mae’n werth ei gefnogi
Felly, mae’n bwysig cael strategaeth ledaenu:
- Rhowch y strategaeth ar y wefan
- Rhowch y strategaeth yn yr adroddiad blynyddol
- Rhowch y strategaeth mewn cylchlythyr
- Dywedwch wrth y cyfryngau
- Rhannwch y strategaeth ymhlith rhanddeiliaid
Mae adnoddau mwy defnyddiol ar safonau diwydiant, a diffinio sut beth yw eich allbynnau a’ch deilliannau eich hun, yn cynnwys: