Un o elfennau sylfaenol llwyddiant i fusnes cymdeithasol yw cryfder ei lywodraethu.

Llywodraethu yw’r systemau a’r prosesau sy’n gysylltiedig â sicrhau cyfeiriad, goruchwyliaeth ac atebolrwydd cyffredinol sefydliad.  

Y ffordd fwyaf effeithlon i sicrhau a chynnal cryfder eich llywodraethu yw darparu hyfforddiant, gwybodaeth a chymorth yn rheolaidd i bawb dan sylw. 


Datblygu aelodau eich busnes cymdeithasol

Mae rôl yr aelodau yn bwysig yma. Mae aelodau yn yr achos hwn yn golygu’r 'rheiny sydd â phleidlais', sydd â’r pŵer i newid y dogfennau llywodraethu, creu a newid polisi corfforaethol ac ethol (neu ddiswyddo) cyfarwyddwyr. Mae’r ddogfen lywodraethu yn diffinio pwy sy’n cymhwyso am aelodaeth, ond mater polisi a gweithdrefn yw’r dulliau cymhwyso, derbyn a sefydlu.  

Mae hyn yn rhoi lle sylweddol i fusnes cymdeithasol symud wrth osod cyfnodau prawf a phroses ar gyfer sefydlu sy’n darparu gwybodaeth am y busnes cymdeithasol y maent yn caffael cymaint o bŵer drosto, yn ogystal â hyfforddiant ac addysg ar eu rôl.  

Mae’r broses i ddatblygu hyfforddiant a sefydlu da yn dechrau â datblygu’r dogfennau sylfaen – swydd-ddisgrifiad, cytundeb aelodaeth iddynt ei lofnodi i ddweud y byddant yn cyflawni’r rôl honno, ac yn gwneud hynny yn unol â’r polisïau sydd ar waith, a chymhwyster ar gyfer aelodaeth (fel mynychu’r hyfforddiant, llofnodi’r cytundeb a darllen y polisïau o ddifrif).  

Mae pendantrwydd y busnes cymdeithasol wrth osod safonau ar gyfer aelodaeth yn allweddol i greu proses ansawdd. Gosodwch y safon ar gyfer sut beth yw aelod rhagorol, a datblygwch brosesau i alluogi aelodau prawf neu ddarpar aelodau i fodloni’r safon honno. 

Y cam nesaf yw datblygu’r mecanweithiau ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r aelodau cymwys hyn am berfformiad a materion sy’n effeithio ar eu busnes cymdeithasol fel eu bod wedi eu grymuso i ymgymryd â’u swydd-ddisgrifiad. O ystyried bod eu cyllidebau amser yn debygol o fod yn gyfyngedig, bydd rheolau sylfaenol fel ychydig bach, yn aml, yn gryno, a defnyddio fformatau rheolaidd i hwyluso cymharu a deunydd gweledol fel graffiau, yn helpu.  Mae cyfathrebu sy’n canolbwyntio ar y cwsmer bob amser yn dal sylw’r gynulleidfa (dywedwch wrthynt yr hyn y mae wir angen iddynt ei wybod yn y ffurf hawsaf bosibl iddynt ddeall).

Datblygu Bwrdd Cyfarwyddwyr eich busnes cymdeithasol 

Gan amlaf, caiff cyfarwyddwyr eu penodi o blith yr aelodau, felly mae proses ansawdd ar gyfer recriwtio a sefydlu aelodau yn golygu bod eich busnes cymdeithasol hanner ffordd at gael carfan briodol i ethol y cyfarwyddwyr hynny (neu gyfwerth) o’u plith. Yn achos busnes cymdeithasol ar y cyd, rhaid i’r cymhwyster ar gyfer aelodaeth gynnwys cymhwyster ar gyfer swydd cyfarwyddwr. 

Mae rolau’r aelod a’r cyfarwyddwr yn wahanol, ac o’r herwydd, yn gofyn am swydd-ddisgrifiadau a chynlluniau hyfforddi gwahanol.

Mae gan bob cyfarwyddwr gyfrifoldebau cyffredinol (wedi’u codeiddio yn Neddf Cwmnïau 2006). Mae rheoleiddwyr yn rhoi statws cyfreithiol ychwanegol i sefydliadau, fel sefydliadau neu elusennau gwasanaeth ariannol, gyda chodau ymddygiad ychwanegol a chyngor ar eu rôl swydd. 

Y tu hwnt i sicrhau bod cyfarwyddwyr yn cael hyfforddiant digonol ar gyfer eu rôl gyffredinol, mae llawer o fusnesau cymdeithasol yn rhoi cyfrifoldebau penodol i rai neu bob un o’u cyfarwyddwyr am oruchwylio gwahanol swyddogaethau o fewn y busnes, fel marchnata, adnoddau dynol, ac ati. Mae hyn yn gwella gallu llywodraethu ar unwaith trwy wneud rhywun yn gyfrifol am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am ddatblygiadau a materion yn eu meysydd cyfrifoldeb. Po fwyaf y gellir eu hyfforddi a rhoi cymorth, mentora a gwybodaeth arbenigol iddynt, yna gorau i gyd. 

Po fwyaf o’r rolau goruchwylio hyn sy’n cael eu pennu, y mwyaf y mae busnes cymdeithasol yn diffinio’r arbenigedd y mae ei angen ar gyfer llywodraethu da, ac felly y mwyaf y mae wedi’i rymuso i ofyn amdano. Er enghraifft, efallai y gallwch gael mentora wedi’i gyflenwi gan fentrau mwy trwy eu rhaglenni cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR).  

Mae’r un broses yn helpu nodi meysydd lle mae bylchau o fewn y strwythur llywodraethu cyffredinol. Mae hyn yn ei dro yn gyrru datblygiad swydd-ddisgrifiadau ar gyfer y canlynol: 

  • recriwtio aelodau sydd ar goll o’r tîm o blith yr aelodaeth bresennol 
  • cyd-ethol aelodau sydd ar goll o’r tîm o blith rhanddeiliaid (os yw’r ddogfen lywodraethu yn caniatáu) 
  • recriwtio aelodau sydd ar goll o’r tîm o sefydliadau gwirfoddoli, cymdeithasau masnach a’u tebyg 

Caiff pobl sy’n gwasanaethu ar lefel Bwrdd ond nad oes ganddynt unrhyw hawl i bleidleisio eu hadnabod fel Cyfarwyddwyr Cysgodol. Yn gyfreithiol, gallent fod â rhai o ddyletswyddau a chyfrifoldebau cyfarwyddwyr, hyd yn oed os nad ydynt wedi cofrestru fel y cyfryw. 

Cyfraniadau eraill at lywodraethu da

Y tu allan i fforymau aelodaeth a chyfarwyddwyr, gallai fod yna ffyrdd eraill o baratoi cyfraniadau at lywodraethu da. Mae rhai busnesau cymdeithasol yn cynnwys is-grwpiau a gweithgorau, sy’n aml yn cael eu harwain gan gyfarwyddwr gyda chyfranwyr cyfetholedig, i gynorthwyo â goruchwylio swyddogaethau a phrosiectau penodol, neu ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau.  

Mae mentrau cymdeithasol eraill yn defnyddio grwpiau arbenigol a/neu fforymau eraill i ddarparu monitro ychwanegol o ran darpariaeth gwasanaeth, yn ogystal ag adborth a chyngor i’r Bwrdd. Eto, mae’n bwysig egluro swyddogaeth is-grwpiau a fforymau trwy ddarparu swydd-ddisgrifiadau manwl. Oni bai bod y ddogfen lywodraethu neu gynrychiolwyr y Bwrdd yn dirprwyo pŵer penodol i’r grwpiau hyn, maent yn gynghorol o ran natur.  

Lawrlwythwch ein holiadur i helpu i chi ddechrau â datblygu gallu eich llywodraethu.