Mae prynu gan weithwyr yn lliniaru llawer o’r risgiau olyniaeth fusnes ac yn osgoi llawer o anfanteision llwybrau ymadael eraill, fel cynigion cyhoeddus cychwynnol (IPOs) a gwerthiannau masnach.
Gall perchnogaeth gan weithwyr gyflawni rhai o nodau allweddol cynlluniau olyniaeth effeithiol. Gall ddiogelu parhad, cynnig cynaliadwyedd tymor hir, sicrhau trosglwyddo’n raddol a realeiddio ecwiti’r perchnogion.
Mae perchnogaeth gan weithwyr yn fath o berchnogaeth fusnes lle mae’r gweithwyr yn dal cyfran reolaethol o fusnes, naill ai trwy berchen ar gyfranddaliadau’n uniongyrchol, perchnogaeth anuniongyrchol (ymddiriedolaeth neu gyfrwng arall) neu drwy gyfuniad o’r ymagweddau hyn.
Dylai’r broses brynu sefydlu gwerth teg ar gyfer eich busnes trwy broses ddiwydrwydd sy’n debyg i honno y byddai prynwr allanol yn ei defnyddio. Yn y pen draw, mae gwerthu busnes yn dibynnu ar b’un a yw anghenion y gwerthwr/gwerthwyr yn cyfateb i barodrwydd neu allu’r prynwyr i dalu.
Fe allai fod yn bosibl cael pris uwch trwy werthu’n allanol, ond bydd gwerthu i’r gweithwyr yn sicrhau pris teg, parhad busnes a chyfle i’r gweithwyr dyfu’r busnes yn y dyfodol.
Maen nhw’n sefydlog iawn. Mae ystadegau’r Gymdeithas Perchnogaeth gan Weithwyr yn awgrymu bod cynhyrchedd, elw a gwerthiannau I gyd wedi cynyddu mewn busnesau a berchnogir gan weithwyr yn y Deyrnas Unedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae busnesau a berchnogir gan weithwyr wedi gwneud yn well na busnesau bach a chanolig (BBaChau) tebyg ac wedi dangos eu bod yn fwy cydnerth yn ystod y dirywiad ariannol.
Gallai gweithwyr ddymuno cynnal eich busnes am sawl rheswm. Gallent ddymuno gwneud cyfraniad a chael llais yn y ffordd y mae’r busnes yn cael ei gynnal. Trwy ddatblygu syniadau a gwneud gwahaniaeth i berfformiad busnes, gall gweithwyr rannu yn ei lwyddiant.
Gall perchnogaeth gan weithwyr olygu newid mawr mewn ymagwedd a ffordd o feddwl i rai grwpiau gweithwyr, ond mae’r buddion yn gallu bod yn enfawr.
Os ydych yn ystyried symud i berchnogaeth gan weithwyr, mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i baratoi eich gweithwyr. Dechreuwch drwy ystyried sgiliau ac uchelgeisiau eich aelodau staff presennol. Bydd hyn yn eich helpu i werthuso eu hanghenion hyfforddi a dechrau rhannu penderfyniadau strategol a dirprwyo tasgau.
Dylech annog pob aelod o staff i gyfrannu at ddatblygu’r sefydliad trwy gyfathrebu agored a chymhellion. Mae symud tuag at ddull ‘llyfr agored’ o reoli’r busnes yn ffordd wych o baratoi am berchnogaeth gan weithwyr hefyd.
Rhesymau i ystyried perchnogaeth gan weithwyr
Mae llawer o berchnogion busnes yn disgwyl gallu gwerthu eu busnes pan fyddant yn ymddeol. Mae perchnogaeth gan weithwyr yn sicrhau bod y busnes yn cael ei gymryd drosodd gan bobl sydd â diddordeb yn ei ddatblygu a’i gynnal. A gall gwerthu i’r gweithwyr fod yn haws i’w dderbyn na gwerthu i gystadleuwr!
Mae llawer o fusnesau teuluol yn wynebu problemau olyniaeth pan na fydd y genhedlaeth nesaf eisiau cymryd y busnes drosodd. Gallai gwerthu’r busnes i weithwyr fod yn gyfle i’w drosglwyddo i ‘deulu ehangach’ o weithwyr sydd wedi buddsoddi llawn cymaint yn ei lwyddiant.
Gallai perchnogion busnes ddymuno gadael y busnes cyn oedran ymddeol, ond cymryd swm ariannol sy’n cyfateb i’r gwerth maen nhw’n credu eu bod wedi’i ychwanegu ato. Efallai y bydd y gweithwyr yn gallu dod at ei gilydd i brynu’r cwmni ac ychwanegu mwy o werth ato.
Hyd yn oed os yw perchnogion busnes eisiau gadael y busnes, byddant yn aml yn teimlo’n gyfrifol am eu gweithwyr a’r gymuned y mae’r busnes wedi’i leoli ynddi. Yn aml, byddant yn parhau i fyw yn y gymuned honno ar ôl ymddeol. Mae perchnogaeth gan weithwyr yn caniatáu i’r gweithwyr reoli eu cwmni a’u swyddi. Bydd y strwythur perchnogaeth hefyd yn ei gwneud hi’n anodd iawn gwerthu’r cwmni i brynwr allanol, gan sicrhau bod y cwmni, a’r swyddi, yn aros yn yr ardal leol.
A hoffech chi siarad â rhywun am berchnogaeth gan weithwyr?
Cysylltwch â Busnes Cymru trwy ffonio 03000 603 000 a dyfynnu ‘EO2016’. Byddwn yn falch o drefnu trafodaeth anffurfiol ag un o arbenigwyr Busnes Cymdeithasol Cymru ar berchnogaeth gan weithwyr.