Mae’r rhan fwyaf o fentrau’n creu a chofrestru strwythur cyfreithiol newydd ar wahân, i fod y cyfrwng cyfreithiol ar gyfer y fenter, trwy’r broses gorffori. 

Bydd gan yr endid cyfreithiol newydd hwn fodolaeth ar wahân i’w aelodau, sy’n:

  • cyfyngu ar atebolrwydd personol y rhai hynny sy’n gysylltiedig (fel Aelodau neu Gyfarwyddwyr)
  • caniatáu i’r fenter lunio contractau yn enw’r fenter
  • rhoi mwy o ddewis o ran cyllid
  • efallai gwneud i bobl roi ystyriaeth fwy difrifol i’r fenter

Strwythurau cyfreithiol busnesau

Mae gan gwmnïau Aelodau a Chyfarwyddwyr, sy’n aml yr un bobl mewn mentrau bach. Yng nghyd-destun busnes cymdeithasol, mae cwmnïau naill ai’n gyfyngedig trwy gyfranddaliadau neu warant.

Nodweddion gwahanol fathau o strwythurau cyfreithiol ar gyfer sefydliadau

Rhestrir isod y ffurfiau cyfreithiol corfforedig cyffredin yn y Deyrnas Unedig (DU) a ddefnyddir gan fusnesau cymdeithasol:

Cwmni Preifat

Mae Cwmnïau Preifat yn ffurfiau cyfreithiol cyffredin a ddeellir yn dda. Dogfen lywodraethu cwmni yw ei Femorandwm a’i Erthyglau Cymdeithasu. Mae dau fath o Gwmni Preifat: 

  • Cwmni Preifat cyfyngedig trwy gyfranddaliadau: Mae aelodau’r cwmni’n gyfranddalwyr sydd wedi buddsoddi arian yn y busnes. Mae maint y cyfranddaliadau’n cyfateb i rym pleidleisio’r cyfranddaliwr. Mae cyfranddaliadau’r aelodau yn agored i risg.
  • Cwmni Preifat cyfyngedig trwy warant: Mae gan y cwmni aelodau, ond nid cyfranddalwyr. Mae’r aelodau’n gwarantu cyfrannu at ddyledion y cwmni gyda swm enwol (£1).

Cwmni preifat cyfyngedig trwy warant yw’r ffurf gyfreithiol fwyaf cyffredin ar gyfer busnes cymdeithasol. 

Cwmni Buddiannau Cymunedol (CBC)

Mae CIC yn fath o gwmni sydd â darpariaethau yn ei Femorandwm a’i Erthyglau Cymdeithasu sy’n: 

  • Cloi asedau’r busnes. Mae hyn fel arfer yn atal yr asedau rhag cael eu gwaredu am lai na’u gwerth llawn ac yn atal asedau gweddilliol y busnes rhag cael eu rhannu ymhlith yr aelodau os caiff ei ddirwyn i ben.
  • Cyfyngu ar ddosbarthu elw i’r aelodau neu’n atal hynny. 

Mae’n rhaid i CICs hefyd ddangos eu budd i’r gymuned ac adrodd arno. 

Cymdeithas Gofrestredig

Yn draddodiadol, mae Cymdeithasau Cofrestredig, sef Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus yn flaenorol, yn ffurf gyfreithiol ddemocrataidd â nifer fawr o aelodau. Dros amser, maen nhw wedi sefydlu enw da am fod yn fath o fusnes cydweithredol, dyngarol a chymdeithasol gyfrifol.

Er eu bod wedi’u seilio ar gyfranddaliadau, mae cymdeithasau cofrestredig yn ddemocrataidd. Yn lle’r system ‘un cyfranddaliad, un bleidlais’ a ddefnyddir gan ffurfiau cyfreithiol eraill sydd wedi’u seilio ar gyfranddaliadau, maen nhw wedi mabwysiadu dull ‘un aelod, un bleidlais’. Mae cymdeithasau’n cael eu cofrestru â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a’u rheoleiddio ganddo.

Mae 2 fath o Gymdeithas Gofrestredig: 

1. Cymdeithas Gydweithredol

Cymdeithasau Cydweithredol yw’r unig strwythur cyfreithiol yn y DU y mae’n rhaid iddo fod yn gydweithredol (busnes democrataidd a berchnogir ac a gynhelir gan y bobl sy’n masnachu ag ef). Mae cwmni cydweithredol yn bodoli er budd cydfuddiannol ei aelodau, sy’n masnachu ag ef ac yn cael cyfran o’r elw. 

2. Cymdeithas Budd Cymunedol

Er bod gan Gymdeithasau Budd Cymunedol aelodaeth gymunedol fawr, maen nhw’n wahanol i Gymdeithasau Cydweithredol oherwydd eu bod yn bodoli’n bennaf i fod o fudd i’r gymuned ehangach yn hytrach na’u haelodau, a gallant ddefnyddio eu helw er budd y gymuned yn unig. Nid yw hyn yn eu hatal rhag talu llog cyfyngedig ar gyfranddaliadau aelodau ac, yn wir, mae’r ffurf gyfreithiol hon yn cael ei defnyddio’n aml ar gyfer busnesau a ariennir trwy fuddsoddiad cymunedol. 

Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO)

Ffurf gyfreithiol gymharol newydd yw hon sy’n elusennol yn ôl ei diffiniad. Yn flaenorol, er mwyn creu elusen gorfforedig, roedd angen ffurfio cwmni ac yna gwneud cais i’r Comisiwn Elusennau am statws elusennol. Mae CIO yn cael ei gofrestru’n uniongyrchol â’r Comisiwn Elusennau ac yna’n cael ei reoleiddio ganddo. 


Strwythur cyfreithiol partneriaeth 

Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (LLP)

Yn draddodiadol, mae partneriaethau’n ffurf gyfreithiol anghorfforedig, lle mae’r partneriaid yn rhannu’r elw a’r risg. Mewn LLP, mae’r partneriaid yn parhau i rannu’r elw yn unol â’u cytundeb LLP, ond mae eu hatebolrwydd personol yn gyfyngedig.

Mae LLPs yn cyflwyno ffurflenni treth, ond nid oes rhaid iddynt dalu Treth Gorfforaeth. Yn lle hynny, mae’n rhaid i’r partneriaid dalu treth ar eu cyfran o unrhyw elw. Mae LLPs yn cael eu cofrestru â Thŷ’r Cwmnïau, ac yn cael eu defnyddio’n bennaf ar gyfer consortia o fusnesau. 


Y cam nesaf yn y broses gychwyn yw dewis y strwythur ar gyfer eich busnes cymdeithasol.


Pros and Cons and Key Features of the different incorporated legal forms

To view the contents in the table, please swipe left and right.

Legal Form Governing Document Registrar/ Regulator Can issue shares? Can be a charity? Has an asset lock?

Yn yr adran hon:

Perchnogaeth gan Weithwyr

Mae perchnogaeth gan weithwyr yn golygu bod gan yr holl weithwyr ran arwyddocaol ac ystyrlon mewn busnes.