Gallai uno a chaffael busnesau swnio fel proses o gamfanteisio na fyddai busnesau cymdeithasol yn ymgymryd â hi, ond mae yna sefyllfaoedd pan mae’n werth ei hystyried fel strategaeth twf.

Er enghraifft, gallai busnes arall yn eich marchnad ddod ar gael i’w brynu gan berchnogion sy’n ymddeol.  

Beth yw uno mewn busnes? 

Pan fydd un o’r sefydliadau dan sylw yn caffael asedau, atebolrwyddau a rhwymedigaethau’r sefydliad arall/sefydliadau eraill, caiff yr uno ei adnabod fel cymryd yr awenau mewn ffordd gyfeillgar. Dewis arall o ran uno yw sefydlu sefydliad newydd sy’n caffael asedau, atebolrwyddau a rhwymedigaethau’r sefydliadau presennol.  

Gallai fod angen cymorth technegol arnoch i reoli strwythurau cyfranddaliadau, gwneud cytundebau ar gyfer y cyfranddaliadau newydd, neu gydlynu’r gwahanol reoleiddwyr sydd gan sefydliadau, e.e. Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.  

Gallai caffael o’r fath ddarparu cyfle ar gyfer twf cyflymach, gan sicrhau adnoddau dynol gyda sgil a phrofiad, cyfleusterau a chyfran y farchnad ar yr un pryd. 

Gofalwch fod gwerthoedd a chenhadaeth gymdeithasol eich busnes cymdeithasol yn cael eu hadlewyrchu yn strwythur cyfreithiol y sefydliad sy’n uno o’r broses.


Y gost a’r risg wrth uno mentrau cymdeithasol 

Barnwch y cyfle i gaffael menter arall yn unol â chost a risg. Ystyriwch a oes capasiti rheoli a chyfalaf gweithio ar gael i ymgymryd â phroses integreiddio busnes. Os ydych yn trosglwyddo staff ynghyd â’r busnes, bydd rhwymedigaethau sy’n dod gyda hynny.  

Hefyd, gallai fod angen delio â mater sioc diwylliant os yw’r ffordd y mae eich busnes cymdeithasol yn gweithredu, ei werthoedd craidd ac ymgysylltu â gweithwyr yn wahanol i’r cyflogwr blaenorol a disgwyliad y gweithwyr.  

Efallai na fydd cwsmeriaid yn hoffi’r fenter wedi’i hatgyfnerthu yn naturiol. Ystyriwch y broses, a chost uno brandiau, yn ogystal â chyfleusterau a gweithlu. Bydd angen cynllun integreiddio â chostau wedi’u pennu’n llawn ar eich busnes cymdeithasol, gan gynnwys costau diswyddo o bosibl.


Anawsterau wrth uno 

Os bydd y ddau sefydliad yn gweld yr uno fel ffordd o ddianc rhag problemau yn eu model llywodraethu, rheoli neu fodel busnes, gallai hyn arwain at sefydliad â nifer o broblemau. Hefyd, gallai achosi problemau integreiddio a diffyg cyfalaf gweithio.  


Strategaeth caffael busnes cymdeithasol 

Y fethodoleg orau yw modelu’r fersiwn orau posibl o fusnes cymdeithasol y gellid ei gael o ganlyniad i’r uno. Bydd hyn yn dangos y gwelliant tebygol mewn allbwn cymdeithasol a phroffidioldeb. Y cynnydd hwn yw’r enillion cymdeithasol ac ariannol ar fuddsoddiad y bydd Bwrdd y busnes cymdeithasol yn barnu costau prynu, integreiddio a chyfalaf gweithio cynyddol yn unol â nhw.

Cymharwch yr enillion hyn ar fuddsoddiad â’r cyfalaf sydd ei angen gan eich busnes cymdeithasol. Os yw’r amcanestyniadau o ran enillion yn ddigon uchel, mae’n cyfiawnhau codi’r gofyniad buddsoddi o’r ffynonellau cyllid a ddefnyddir gan eich menter gymdeithasol.


A yw uno yn dda ar gyfer mentrau cymdeithasol?  

Mae uno yn fecanwaith y gellir ei ddefnyddio ar gyfer twf. Byddai mentrau sy’n darparu gwasanaethau tebyg yn yr un farchnad, neu mewn ardaloedd cyfagos, yn gallu darparu gwasanaeth gwell yn fwy economaidd pe baent yn integreiddio, gan roi’r un capasiti cyflwyno gyda gorbenion is.  

Bydd y model busnes gwell hefyd yn ei gwneud yn haws cynyddu lefel y gwasanaeth. Yn y cyfamser, mae proffidioldeb gwell yn ei gwneud yn haws creu cyfalaf mewnol a chodi buddsoddiad allanol i ariannu twf pellach.  

Cymharwch yr opsiwn uno â’r opsiwn consortia, yn enwedig os ydych chi wedi nodi bod y potensial am lawer o sioc diwylliant yn ffactor risg uchel. Gallai hyn ddigwydd mewn achos o uno rhwng busnes cymdeithasol sefydledig a busnes preifat, neu fenter yn deillio o elusen neu awdurdod statudol. Bydd yr opsiwn gweithio consortia yn ei gwneud yn haws i’r busnes cymdeithasol gadw ei genhadaeth gymdeithasol a’r system lywodraethu y mae’n ei ffafrio. 

Cyn bwrw ymlaen â chaffael busnes cymdeithasol, sicrhewch fod y model busnes newydd yn fwy tebygol o fod yn gynhyrchiol ac yn broffidiol yn gymdeithasol na’r ddau fusnes yn gweithio’n annibynnol.