Beth yw’r strategaeth ymadael orau i mi, fy nghleientiaid a’m gweithwyr?
Mae’r rhan fwyaf o berchnogion busnes cymdeithasol yn wynebu rhai dewisiadau cyfyngedig pan fyddant yn ystyried eu strategaeth ymadael. Mae’r rhain yn cynnwys trosglwyddo’r busnes i aelodau’r teulu, annog rheolwyr i’w brynu, gwerthu’r busnes i gystadleuwr neu gau’r busnes a gwerthu ei asedau. Gall rhai busnesau mwy o faint ystyried ‘mynd yn gyhoeddus’, ond nid yw’r dewis hwn ar gael i’r rhan fwyaf o fusnesau bach a chanolig (BBaChau).
Gall pob un o’r strategaethau ymadael hyn fod yn ddewis addas, yn dibynnu ar yr hyn y mae perchennog y busnes yn gobeithio ei gyflawni trwy olyniaeth a’i ddyheadau ar gyfer dyfodol y busnes.
Mae perchnogaeth gan weithwyr yn ddewis arall sy’n cynnig cyfle i ymadael sy’n effeithlon o ran treth. Mae hefyd yn cynorthwyo gweithwyr y busnes a’u teuluoedd am y dyfodol rhagweladwy, yn ogystal â rhoi sicrwydd y bydd y busnes yn aros yn ei gymuned leol.
Yn yr adran hon, dangoswn rai o fuddion perchnogaeth gan weithwyr o gymharu â’r dewisiadau eraill mwyaf cyffredin.
- Mynd yn gyhoeddus: Na fydd, ond gallai perchennog y busnes fod yn gymwys i gael gostyngiad entrepreneur.
- Gwerthiant masnach: Na fydd, ond gallai perchennog y busnes fod yn gymwys i gael gostyngiad entrepreneur.
- Diddymu: Na fydd.
- Prynu gan Reolwyr: Na fydd, ond gallai perchennog y busnes fod yn gymwys i gael gostyngiad entrepreneur.
- Prynu gan Weithwyr: Os yw 51% neu fwy o’r busnes yn cael ei werthu i weithwyr yn ystod un flwyddyn, efallai y bydd perchennog y busnes yn gallu hawlio Gostyngiad Treth Enillion Cyfalaf 100% ar gyfran y cyfranddaliadau a werthwyd. Mae’n rhaid defnyddio Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr gymwys i gael yr eithriad hwn.
- Mynd yn gyhoeddus: Efallai, yn dibynnu ar y cyfranddaliadau a gedwir ac awydd y bwrdd cyfarwyddwyr newydd.
- Gwerthiant masnach: Efallai y gofynnir i berchennog y busnes aros yn rheolwr yn ystod cyfnod trosglwyddo estynedig. Gellid disgwyl iddo ymatal rhag sefydlu busnes tebyg am gyfnod penodol yn rhan o’r cytundeb hefyd.
- Diddymu: Amherthnasol.
- Prynu gan Reolwyr: Gallai’r perchennog gadw buddiant yn y busnes. Byddai hyn yn dibynnu ar safbwynt y tîm prynu.
- Prynu gan Weithwyr: Fwy na thebyg. Mae llawer o gyllidwyr yn chwilio am barhad busnes mewn cytundebau perchnogaeth gan weithwyr, a gall ymrwymiad gan berchennog i aros yn rheolwr neu mewn swydd gynghori daledig fod yn atyniadol iddynt. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i’r tîm rheoli newydd fanteisio ar wybodaeth a pherthnasoedd busnes y perchennog.
- Mynd yn gyhoeddus: Bydd, ond bydd gwerth unrhyw gyfranddaliadau a gedwir yn ddarostyngedig i newidiadau yn y farchnad.
- Gwerthiant masnach: Mae’n dibynnu ar drafodaethau a faint o ddiddordeb a ddangosir gan brynwyr.
- Diddymu: Na fydd. Bydd y pris a geir yn cynrychioli gwerth cyfalaf yr asedau hynny yn unig. Ni roddir ystyriaeth i werth y llyfr archebion, enw da, ewyllys da nac eiddo deallusol. Bydd rhaid cynnwys costau dileu swydd hefyd.
- Prynu gan Reolwyr: Mae’n dibynnu ar drafodaethau.
- Prynu gan Weithwyr: Byddai’r pris gwerthu terfynol yn dibynnu ar drafodaethau a’r ymagwedd at berchnogaeth gan weithwyr. Byddai’r cytundeb yn annhebygol iawn o symud ymlaen oni bai bod y perchennog sy’n ymadael yn teimlo ei fod yn cael gwerth priodol ohono.
- Mynd yn gyhoeddus: Does dim modd gwybod. Bydd y cwmni’n cael ei gynnal gan fwrdd a fydd yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar anghenion cyfranddalwyr.
- Gwerthiant masnach: Does dim modd gwybod. Gallai’r prynwr benderfynu gwerthu asedau’r safle a diswyddo gweithwyr neu symud y broses gynhyrchu i rywle arall.
- Diddymu: Na fyddant. Byddant yn cael eu diswyddo.
- Prynu gan Reolwyr: Mae’n debygol y byddai’r rhan fwyaf o weithwyr yn cadw eu swyddi.
- Prynu gan Weithwyr: Byddant – a byddant yn elwa o fwy o ymgysylltiad a’r cyfle i gyfrannu at ddatblygiad y cwmni a rhannu yn ei lwyddiant.
- Mynd yn gyhoeddus: Does dim modd gwybod. Bydd y cwmni’n cael ei gynnal gan fwrdd a fydd yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar anghenion cyfranddalwyr.
- Gwerthiant masnach: Does dim modd gwybod. Gallai’r prynwr ddewis symud y busnes yn agosach i’w ganolfan weithredu ei hun.
- Diddymu: Na fydd.
- Prynu gan Reolwyr: Fwy na thebyg, ond mae hyn yn dibynnu ar ddyheadau’r tîm rheoli newydd.
- Prynu gan Weithwyr: Bydd. Yn wir, gallai prynu gan weithwyr ei gwneud hi’n fwy anodd o lawer i’r cwmni gael ei werthu i brynwr allanol yn y dyfodol, gan sicrhau ei fod yn debygol o aros yn y gymuned leol.
Gan eich bod chi bellach yn gyfarwydd â buddion perchnogaeth gan weithwyr fel strategaeth ymadael, dysgwch fwy am y broses o drosglwyddo i berchnogaeth gan weithwyr.
A hoffech chi siarad â rhywun am berchnogaeth gan weithwyr?
Cysylltwch â Busnes Cymru trwy ffonio 03000 603 000 a dyfynnu ‘EO2016’. Byddwn yn falch o drefnu trafodaeth anffurfiol ag un o arbenigwyr Busnes Cymdeithasol Cymru ar berchnogaeth gan weithwyr