Rheoli asedau: Eiddo deallusol, trwyddedau, cofrestru

Meysydd i’w hystyried:

Mae cael y math cywir o ddiogelwch eiddo deallusol yn helpu eich busnes i atal pobl rhag dwyn neu gopïo:

  • enwau eich cynnyrch neu frandiau
  • eich dyfeisiadau
  • dyluniad neu olwg eich cynnyrch
  • y pethau rydych chi'n eu hysgrifennu, eu gwneud neu eu cynhyrchu.

Mae hawlfraint, patentau, dyluniadau a nodau masnach i gyd yn ffyrdd o ddiogelu eiddo deallusol. Cewch rai mathau o ddiogelwch yn awtomatig, ac mae eraill y mae'n rhaid i chi wneud cais amdanynt. Dylech ystyried a oes angen i'ch busnes cymdeithasol ddiogelu ei enw, ei logo neu ei weithgareddau yn ffurfiol a cheisio yswiriant eiddo deallusol priodol.

Dylech ystyried a oes angen i'ch busnes cymdeithasol ddiogelu ei enw, ei logo neu ei weithgareddau yn ffurfiol a cheisio yswiriant eiddo deallusol priodol./p>

Canllawiau pellach:

Eiddo Deallusol: Trosolwg

Mae angen trwyddedu rhai gweithgareddau. Mae llawer o drwyddedau'n cael eu rhoi gan eich Cyngor lleol gan gynnwys trwyddedau safleoedd bwyd, trwyddedau safleoedd, trwyddedau digwyddiadau dros dro a thrwyddedau alcohol.

Efallai y bydd angen trwyddedau arnoch hefyd ar gyfer rhai mathau o fasnach, chwarae cerddoriaeth a gwneud copïau o ddeunydd o dan gyfreithiau hawlfraint.

Defnyddiwch adnodd canfod trwydded Llywodraeth y DU i ganfod pa drwyddedau y bydd angen i chi eu cael wrth sefydlu gweithgaredd newydd.

Canllawiau pellach:

Llywodraeth y DU: Canfod Trwydded

Mae rhai gweithgareddau'n cael eu rheoleiddio ac yn ei gwneud yn ofynnol i'ch busnes fod wedi’i gofrestru a'i archwilio. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau gofal a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru a gwasanaethau ariannol (er enghraifft undebau credyd) a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Further guidance:

Arolygiaeth Gofal Cymru: Darparu Gwasanaeth Gofal

Gofal Cymdeithasol Cymru

Awdurdod Ymddygiad Ariannol