Rheoli asedau: Adeiladau ac offer

Mae angen rheoli unrhyw adeilad ac offer a ddefnyddir neu sy'n eiddo i'ch busnes cymdeithasol yn briodol.

Sicrhewch fod eich swyddfeydd neu leoliadau sydd wedi'u llogi’n bodloni gofynion iechyd a diogelwch. Cynhaliwch asesiadau risg priodol o'r holl safleoedd a ddefnyddir.

Canllawiau pellach:

Gweler Cydymffurfiaeth busnes: Adran iechyd a diogelwch uchod

Sicrhewch fod unrhyw offer yr ydych yn berchen arno yn cael ei gynnal a'i gadw'n rheolaidd ac y gall staff a gwirfoddolwyr ei ddefnyddio’n hawdd.

Sicrhau bod gan staff a gwirfoddolwyr yswiriant priodol ar gyfer defnyddio ceir.

Sicrhewch ddiogelwch personol eich staff a'ch gwirfoddolwyr, yn enwedig os ydych yn gweithio ar eich pen eich hun neu gyda chleientiaid sy'n agored i niwed.

Sicrhewch ddiogelwch ffisegol safleoedd ac asedau er mwyn lleihau'r risg o ddwyn ac ati.

Canllawiau pellach:

HSE: Diogelu Gweithwyr Unigol

HSE Gweithwyr Unigol: Sut i Reoli Risg

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae angen i chi sicrhau eich bod yn gwneud addasiadau rhesymol i'ch gweithle ar gyfer pobl ag anableddau.

Mae angen i chi hefyd sicrhau mynediad addas i'ch defnyddwyr a'r gymuned ehangach.

Canllawiau pellach:

HSE: Pobl ag Anableddau