Rheoli asedau: Diogelu data

Rhaid i chi ddilyn rheolau ar ddiogelu data os yw eich busnes cymdeithasol yn storio neu'n defnyddio gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn berthnasol i wybodaeth a gedwir am staff, cwsmeriaid a defnyddwyr.

Rhaid i fusnes gadw at ofynion cyfreithiol Deddf Diogelu Data 2018 a gofynion GDPR.

Canllawiau pellach:

Diogelu Data

Diogelu Data a'ch Busnes

Rhaid i chi gofrestru eich busnes gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a thalu ffi flynyddol. Bydd lefel y ffi yn dibynnu ar faint y busnes ond fel arfer mae rhwng £40 a £60 i rai llai. Byddwch yn derbyn tystysgrif cofrestru diogelu data.

Canllawiau pellach:

Ffi Diogelu Data: Dechreuwch Yma

Dogfennwch eich polisïau o ran diogelu data, cyfrinachedd a data diogel.

Rhowch brosesau a gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel ac mai dim ond gwybodaeth berthnasol a chyfredol sy'n cael ei chadw. Sicrhewch fod ffurflenni caniatâd ar gael lle bo hynny'n briodol.

Canllawiau pellach:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Ar gyfer GDPR Sefydliadau