Beth yw buddion treth perchnogaeth gan weithwyr? 
pen hovering above a printout of a spreadsheet

Er nad buddion treth yw’r ffactor pwysicaf wrth ystyried perchnogaeth gan weithwyr, mae newidiadau diweddar i’r gyfraith dreth yn golygu y gallai perchnogion a gweithwyr elwa o gytundebau perchnogaeth gan weithwyr.

Buddion treth perchnogaeth gan weithwyr ar gyfer perchnogion busnes

Mae’n bosibl y gallai rhai trawsnewidiadau busnes sy’n golygu symud rheolaeth ar y busnes i Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr gael eu heithrio’n llwyr rhag treth enillion cyfalaf. Dylai perchnogion busnes sy’n ystyried hyn gael cyngor gan gyfrifydd cymwysedig neu arbenigwr ar dreth.

Buddion treth perchnogaeth gan weithwyr ar gyfer gweithwyr

Gallai gweithwyr busnes a reolir gan Ymddiriedolaeth Budd Gweithwyr fod wedi’u heithrio o dreth incwm ar rai taliadau bonws. (Fodd bynnag, ni fyddant wedi’u heithrio o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.) Mae hyn yn creu cymhelliad ariannol syml i weithwyr a fydd yn elwa o lwyddiant eu cwmni heb y goblygiadau treth sy’n gysylltiedig â derbyn difidendau ar gyfranddaliadau.

Dylai grwpiau gweithwyr sy’n defnyddio’r ymagwedd perchnogaeth gan weithwyr gael cyngor gan gyfrifydd cymwys neu arbenigwr ar dreth hefyd yn rhan o’r broses drawsnewid. 

Ar gyfer trosolwg manwl o Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr a’u gofynion cyfreithiol, cymhellion treth a buddion perchnogaeth gan weithwyr, darllenwch yr erthygl hon ar Berchnogaeth gan Weithwyr gan yr arbenigwr cyfreithiol, Graeme Nuttall.


Ewch i wefan HMRC i gael rhagor o fanylion am fuddion treth perchnogaeth gan weithwyr. 


A hoffech chi wybod mwy ynglŷn â pherchnogaeth gan weithwyr?

Er mwyn darganfod a allai eich busnes ddod yn eiddo i weithwyr, cysylltwch â Busnes Cymdeithasol Cymru drwy ffonio 03000 6 03000 gan ddyfynnu ‘EO2016’. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.