Mae ymchwil a datblygu yn hanfodol i greu Cymru fwy ffyniannus a chystadleuol. Mae’r gweithgareddau hyn yn aml yn canolbwyntio ar sector addysg uwch y wlad sydd gyda’r gorau yn y byd. Dim ond un enghraifft yw Hexigone, sydd wedi’i leoli ym Mhort Talbot, o allu sefydliadau addysg uwch i ddatblygu technoleg newydd a hybu lles economaidd. Sylfaenydd Hexigone yw Dr Patrick Dodds a ddatblygodd dechnoleg i atal metel rhag cyrydu drwy ei waith ymchwil...
O lawr y ffatri i sedd y Rheolwr Gyfarwyddwr: Pennaeth cwmni drysau diwydiannol yn sôn am ei daith drwy rengoedd y cwmni.
Mae’n swnio fel chwedl o’r byd busnes – y prentis sy’n dechrau ar lawr y ffatri cyn dod yn rheolwr gyfarwyddwr yn y pen draw. Ond dyna yn union a ddigwyddodd yn Industrial Door Services (IDS), sydd wedi ei leoli yng Nghasnewydd, pan ddaeth Floyd Manship i reoli’r cwmni ar ôl dringo drwy’r rhengoedd i arwain y busnes pan wnaeth sylfaenydd y cwmni gamu i lawr. Wedi ei sefydlu yn 1987, dechreuodd IDS weithgynhyrchu drysau...
Arbenigwyr posteri addysgol yn targedu marchnad yr UD.
Mae sawl elfen ynghlwm wrth y broses o greu amgylchedd dysgu egnïol. Un o ddarnau y jig-so addysgol yw amgylchynu disgyblion ysgol gydag adnoddau gweledol ar gyfer eu hastudiaethau. Mae Daydream Education yn gwmni sydd wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae’n arbenigo yn yr elfen hollbwysig hon o’r ystafell ddosbarth fodern. Mae’r cwmni yn dylunio posteri a ddefnyddir gan athrawon yn fyd-eang er mwyn helpu disgyblion i ddeall pynciau allweddol. Yn ogystal, mae’r...
Astudiaeth achos cynllun peilot lleihau allyriadau carbon Rhaglen Cyflymu Twf. Cleient: Totally Welsh
Mae Totally Welsh sydd wedi’i leoli yn Hwlffordd yn cyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth Cymreig o safon i’r sector cyhoeddus a chwsmeriaid corfforaethol a domestig ledled y DU. Yn gwmni a sefydlwyd ym 1990, mae’n defnyddio llaeth Cymreig o wartheg Cymreig, a hynny o fewn cwmpas 40 milltir o’i safle potelu. Mae cwsmeriaid Totally Welsh yn cynnwys archfarchnadoedd, ysbytai, ysgolion a manwerthwyr annibynnol. Mae’r cwmni hefyd yn cynnig gwasanaeth danfon i’r drws yn ne Cymru...
Y cwmni storio dŵr arloesol sy’n cynnig atebion ar gyfer argyfyngau’r dyfodol.
Un o’r heriau mwyaf sylweddol a grëwyd gan newid hinsawdd yw prinder dŵr. Fel y gwelsom yn ystod y sychder yn Ewrop yn 2022, mae hon yn broblem gynyddol y mae gwledydd ar draws y byd yn ei hwynebu. Fodd bynnag, mae un cwmni arloesol sydd wedi ei leoli ym Mhont-y-clun yn Ne Cymru wedi dyfeisio technoleg er mwyn helpu â phroblemau prinder dŵr byd-eang. Mae Deploy Tech wedi datblygu technoleg tanciau dŵr parod i’w...
Mae sylfaenydd Something Different Wholesale yn rhannu ei stori o lwyddiant entrepreneuraidd.
O ddechrau cyffredin mewn gwerthiannau cist car ar benwythnosau i fod yn un o brif gwmnïau anrhegion cyfanwerthu'r DU, mae Something Different Wholesale yn stori lwyddiant wirioneddol entrepreneuraidd. Mae'r cwmni o Abertawe yn dylunio, datblygu a dosbarthu miloedd o anrhegion sy'n gwerthu'n gyflym a chynnyrch poblogaidd i fanwerthwyr o bob maint yn y DU a ledled y byd. Mae llwyddiant y cwmni yn adlewyrchu gwaith caled ac arweinyddiaeth ei sylfaenydd, Jane Wallace-Jones, a balchder ei...
Egin fusnes dillad gwaith y gegin yn targedu gweithwyr proffesiynol benywaidd yn y sector bwyd.
Mae’r ysbrydoliaeth o ran syniad am fusnes yn aml yn deillio o brofiad personol. Ac roedd hynny’n wir i Vicky North, sefydlydd Bird Kitchen, sy’n cyflenwi dillad gwaith i fenywod sy’n gweithio’n y diwydiant bwyd a diod. Cafodd y brand ei eni pan sylweddolodd y perchennog caffi, Vicky, fod y dillad neillryw a gyflenwyd yn y sector fel arfer wedi’u dylunio ar gyfer dynion. Ar ôl sylweddoli hyn, dechreuodd ei busnes, sydd bellach ar daith...
Cwmni powdr metel o ansawdd yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.
Ymdrech gyfunol yw'r dasg o ddiwallu anghenion sgiliau Cymru mewn economi sy'n newid. Mae gan fusnes rôl hanfodol i'w chwarae wrth sicrhau bod gweithlu'r genedl yn barod ar gyfer y dyfodol. Mae'r gwneuthurwr powdr metel o Sir Gaerfyrddin, LSN Diffusion, yn enghraifft wych o hyn. Nid yn unig y mae'n darparu cyflogaeth sy’n gofyn am lefel uchel o sgiliau yn ei gymuned leol, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i weithwyr wella a chynyddu eu...
Cwmni stripio weiar yn cynhyrchu cynnyrch ar gyfer cwmnïau uwch-dechnoleg ledled y byd.
Prin fod llawer yn meddwl am y peirianneg manwl sydd ei angen i gynhyrchu’r rhannau mewn cynnyrch trydanol. Un o’r prosesau angenrheidiol hynny yw stripio weiars – sef tynnu’r haen allanol o blastig oddi ar weiars trydan. I sicrhau cysylltiadau trydanol diogel a da, rhaid stripio’r weiar yn lân ac yn gywir. A hwythau wedi chwyldroi’r diwydiannau meddygol, data a moduron, diolch i’w technoleg arloesol, mae Laser Wire Solution o Bont-y-pridd yn geffylau blaen yn...
Cwmni gwirodydd a photelu teuluol o Dde Cymru yn croesawu twf o 900%.
Mae'r farchnad ar gyfer gwirodydd o safon uchel yn un sy'n tyfu. Gwerth y farchnad wirodydd yn y DU oedd tua £15 biliwn yn 2021, gyda modelau'n rhagweld twf parhaus yn y sector. Caiff y twf hwnnw ei yrru gan arloesi i raddau helaeth, gan ganolbwyntio ar ansawdd ac arallgyfeirio i wirodydd alcohol isel a dim alcohol. Ymhlith y distyllfeydd yng Nghymru sy'n dod yn amlwg yn y sector, sy'n mwynhau twf ac yn manteisio...