Mae cyllid cadwyn gyflenwi’n canolbwyntio ar leihau’r arian parod sy’n cael ei ddal gan eich cyflenwyr, sydd yn glwm mewn stoc neu’n disgwyl cael ei ryddhau gan gwsmeriaid.
Mae hyn felly’n mwyhau’r swm o arian parod yr ydych chi’n ei ddal.
Hwyrach mai cyllid cadwyn gyflenwi yw’r math mwyaf cyffredin o gyllido a ddefnyddir gan fusnesau cymdeithasol. Os byddwch yn mwyhau’r swm o arian yn eich busnes, efallai na fydd angen ichi ystyried ffynonellau allanol o gyllid.
Gan edrych ar gylch arian i arian menter nodweddiadol, gallwn weld bod costau staff a chostau deunydd yn cael eu talu allan cyn cael arian i mewn gan gwsmeriaid. Mae’r gofyniad cyfalaf gweithio i fenter yn cynnwys yr arian sydd yn glwm mewn stoc a gwaith ar ei hanner yn ogystal â’r hyn sy’n ddyledus gan gwsmeriaid am ddosbarthiadau cynharach.
Po fwyaf y bydd menter yn ehangu, mwyaf y bydd ei throsiant a’i gofyniad cyfalaf gweithio. Mae llawer o fentrau wedi methu drwy ddiystyru’r pwynt syml hwn. Er iddynt weithredu’n broffidiol a marchnata’n llwyddiannus, ni fuont yn gallu codi’r arian i dalu am fewnbynnau, gan arwain at afleoliad, cynhyrchaeth isel, a cholled.
Gellir cadw cyfalaf gweithio mor isel â phosibl drwy reoli’n dda. Gweithiwch tuag yn ôl o gwmpas y cylch arian i arian i weld ymhle allwch chi gael effaith. Isod, edrychwn ar y gwahanol agweddau ar y gadwyn gyflenwi a nodwn ffyrdd y gallwch wneud yr elw mwyaf posibl ym mhob cam:
Mae rheoli credyd ar ddyledwyr yn amlwg yn faes gwaith pwysig iawn. Mae telerau masnachu clir a statws cyflenwr bach arbennig gyda’r cwsmeriaid corfforaethol ymhlith yr elfennau allweddol.
Dylech hefyd geisio magu perthynas dda ag adrannau cyllid eich cwsmeriaid, gan sicrhau y byddant yn cael eu dilyn os bydd eu taliadau’n hwyr. Er mwyn rheoli credyd gymaint ag sy’n bosibl, trefnwch ddisgowntiau am daliad prydlon (wedi’u cynnwys yn y pris gwreiddiol wrth gwrs) a chosbau am daliad hwyr (a’r cyfan wedi’u cefnogi gan eich dogfennaeth telerau masnachu).
Mewn masnachau lle rhoir anfonebau mawrion a lle mae cyfnod hir yn mynd heibio fel arfer cyn talu, gall fod yn werth ystyried ffactoreiddio. Bydd cwmni ffactoreiddio’n talu cyfran fawr o werth yr anfoneb (fel arfer tuag 85%) yn syth ac yna’n casglu’r arian gan gwsmeriaid gan anfon unrhyw weddill ymlaen ar ôl didynnu ffioedd.
Mae hyn yn cymryd rheolaeth ar gredyd oddi wrthych chi ac yn ei rhoi i arbenigwyr - mae hefyd yn troi llawer o falans y dyledwr yn syth yn arian parod lle mae ei angen arnoch, ond mae’n costio arian. Bydd y llif arian yn gwella ar unwaith, ond y gost yn mynd ymlaen am byth, oherwydd ni fentrwch chi byth gefnu ar y system a cholli mis o lif arian. Meddyliwch yn ofalus iawn cyn mynd yn gaeth.
Gall anfonebu fod yn faes llwyddo neu fethu. Mae cywirdeb yn bwysig iawn. Gellir sylwi ar godi gormod, gan arwain at anfodlonrwydd cwsmeriaid ac oedi cyn talu. Ar y llaw arall, gall taliadau rhy isel arwain at golli delwedd neu ddileu elw drwy beidio â thynnu’ch sylw iddynt.
Mae’r dull anfonebu yn gallu gwneud gwahaniaeth pwysig i’r balansau arian. Gofynnwch y cwestiynau canlynol ichi’ch hunain: A yw’r cyswllt rhwng y sawl sy’n gyfrifol am y prosiect a’r sawl sy’n cynhyrchu’r anfonebau yn berffaith? A yw’r sawl sy’n codi anfonebau bob amser yn gwybod y funud y bydd y prosiect wedi gorffen a’r nwyddau wedi’u dosbarthu? Ai cael yr anfoneb allan ar unwaith yw ei brif flaenoriaeth mewn bywyd? Cafwyd achosion o anfonebau’n dihoeni ar ddesgiau a staff yn cael eu sieciau talu yn hwyr. A ydy’r sawl sy’n codi’r anfoneb yn cael gwybod yn dda pryd y gellir anfonebu am daliadau cyfnod? Amser yw arian a llif arian yw’r flaenoriaeth bennaf.
A ydy’r lefel o stoc yn ddigonol i fodloni galw (ni allwch wneud elw ar yr hyn nad yw ar gael i’w werthu) neu a yw’r lefel yn rhy uchel? Mae cyfradd gywir a phriodol lle dylai cynnyrch droi drosodd neu ni ddylid ei gadw mewn stoc. Yn ôl pob tebyg, dylai enghreifftiau presennol gael eu troi’n ôl yn arian hyd yn oed am bris gostyngedig clirio stoc.
Mae lefel gywir a phriodol, ar sail galw yn erbyn cyfradd gynhyrchu neu amser archebu, ar gyfer lefel stoc unrhyw eitem. Diogi yw mynd heibio’r lefel hon, a’r canlyniad yw bod arian ynghlwm mewn lle wedi’i wastraffu. Wrth reswm, mae amser rheoli hefyd yn costio. Gallai rhaglen gyfrifiadurol syml neu drefn gartref fod o gymorth.
Hwn yw gwerth darnau o waith a gwblhawyd yn rhannol lle mae gennych arian a gwerth ychwanegol, ond nid ydych wedi rhoi anfoneb eto. Mae’n anoddach ymyrryd yn y man hwn o safbwynt ariannol. Efallai bydd eich rheolwr cynhyrchu eisoes wedi ystyried y ffordd orau o ddefnyddio gweithlu, cyfarpar a lle. Ni fyddai ymyrraeth gan y tîm rheoli ariannol yn ddim ond baich.
Gall anfon y neges fod cwblhau darnau o waith ac anfonebu amdanynt yn flaenoriaeth gael goblygiadau anferthol ar gyfer llif arian. Hefyd, gall gwaith fod yn sownd ar ei hanner, am nad oes neb wedi llwyddo i godi anfoneb werthu na symud prosiect yn ei flaen. Dylai cael yr anfoneb allan yn gyflym ddod â’r arian i mewn yn gynt a rhyddhau arian sy’n sownd yn y cylch arian i arian.
Mae cadw mewnbynnau mewn stoc yn aml yn fan gwan. Sicrhewch fod pawb yn deall egwyddor ‘mewn union bryd’. Dylai cyflenwad fod yno pan fydd ei angen arnoch, ond ni ddylech ei gadw rhag ofn y bydd ei angen arnoch rywbryd.
Mae cario stoc deunydd yn aml yn arwydd o ddiffyg ymdrech. Trefnwch fod pethau’n cyrraedd pan fydd eu hangen. Yn aml, nid yw’r disgownt am archebu swmp yn werth yr arian na’r lle y mae’n ei lyncu.
Mae rheoli credydwyr yn faes gweithgarwch yr un mor bwysig â rheoli dyledwyr. Dylai menter bob amser geisio bod yn gwsmer anrhydeddus a thalu cyfrifon pan fyddant yn ddyledus. Gwerthfawrogir ymddygiad moesegol fel arfer ac mae’n gwneud synnwyr menter da. Byddwch yn cael sylw cyn y mentrau nad ydynt yn ymddwyn cystal â chi. Byddwch yn bendant wrth gael y telerau masnach gorau posibl gan gyflenwyr a chadwch y rhain yn destun adolygiad.
Trefnwch eich bod yn delio â phopeth ar gyfrif gymaint â phosibl, er enghraifft cyfrif gyda garej lleol yn hytrach na llenwi’r tanc gan ddefnyddio arian parod. Os oes rhaid i bobl deithio ar fusnes, rhowch gerdyn credyd cwmni iddynt. Golyga hyn y gallwch dalu eu biliau teithio a gwesty dros fis mewn ôl-ddyled, yn hytrach na rhoi arian parod ymlaen llaw.
Llwythwch i lawr ein canllaw i lif arian busnes am arddangosiad o gyllid cadwyn gyflenwi:
