Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Mumbai & Bangalore, India.

PAM INDIA?
Mae India yn farchnad fawr sy'n tyfu gyda chyfleoedd amrywiol ar draws nifer fawr o sectorau.

Mae gan India Farchnad Defnyddwyr sy'n tyfu'n gyflym, sy’n gynyddol gefnog ac sy’n awyddus i gael cynhyrchion a gwasanaethau premiwm.

Mae India hefyd yn economi drawsnewidiol sy'n cynnig cyfleoedd cynyddol i fusnesau, yn enwedig ym meysydd technoleg, technoleg ariannol a moduron. Mae India hefyd yn buddsoddi'n helaeth mewn seilwaith a digideiddio. 

Fel dinas fwyaf poblog India, Mumbai yw canolfan ariannol, pwerdy economaidd, a chanolbwynt diwydiannol India. Mae'n gartref i’r Reserve Bank of India, Cyfnewidfa Stoc Genedlaethol India, a phencadlys corfforaethol llawer o gwmnïau Indiaidd a chorfforaethau rhyngwladol. Mae Mumbai yn Ganolfan Ddiwydiannol gyda ffocws ar Drafnidiaeth - yn enwedig moduron, rheilffyrdd ac awyrofod, seilwaith, ynni a thelathrebu. Mae’n gartref i Bollywood ac mae'r ddinas hefyd wedi dod yn un o'r canolfannau celfyddydau creadigol mwyaf bywiog yn India. 

Prifddinas talaith Karnataka, De India, Bengaluru (yn flaenorol, Bangalore) yw'r drydedd ddinas fwyaf poblog yn India ar ôl Mumbai a Delhi, gyda chyfanswm poblogaeth o 13.6 miliwn, a hi yw'r ddinas sy'n tyfu gyflymaf yn Asia a'r Môr Tawel. Mae Bengaluru yn ganolbwynt technoleg a TG ar gyfer India gyda chryfderau pellach mewn Moduron, Awyrofod, Electroneg a Chyfathrebu.

PAM MYND AR YR YMWELIAD? 
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:

  • Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad. 
  • Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad.
  • Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan.
  • Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig.
  • Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad.

Y GOST
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmn. Mae’r gost yn£1,350. Mae hyn yn cynnwys:

  • Hedfan allan ac yn ôl
  • Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
  • Llety am 5 noson gyda brecwast
  • Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

MANYLION Y DIGWYDDIAD
Pryd – 11 – 17 Mai 2024
Sectorau - Aml  
Ble – Mumbai & Bengaluru

GWASANAETH TREFNU CYFARFODYDD
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodtydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.

Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 8 March 2024 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.
 
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 19 Ebrill 2024 (Teithio yn unig)


*Yn amodol ar gymhwystra.