Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Money 20/202, Amsterdam.

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cymorth i fusnesau bach a mawr i fanteisio ar y cyfle cyffrous hwn fydd yn cynyddu’u hallforion trwy feithrin cysylltiadau yn y sector technoleg ariannol o bob rhan o’r byd.


Pam Money 20/20? 
Mae Money 20/20 yn dod â phawb sy’n cyfri yn y byd technoleg ariannol ynghyd, o arweinwyr rhyngwladol i fentrwyr newydd, ac o’r cwmnïau mwyaf i fusnesau bach sy’n tyfu.

Yn 2024, daeth dros 8500 o bobl i Money 20/20 o dros 100 o wledydd i glywed dros 350 o siaradwyr. Bydd y gynhadledd yn llawn o syniadau blaengar, areithiau i’ch ysbrydoli, y Goreuon Erioed (GOATs) ac Egni heb ei debyg.

https://europe.money2020.com/

Pam dod gyda ni?

Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y sector hon.
Trwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:

•    Ffordd rad o ymweld â'r gynhadledd. 
•    Rhwydweithio a siarad â busnesau a phenderfynwyr pwysig y farchnad
•    Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
•    Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiantaeth deithio benodedig

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth* i gwmnïau sydd am fynd i Money 20/20.

£1,600* yw’r gost. Mae hyn yn cynnwys:

•    Hedfan yno ac yn ôl
•    Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
•    Llety am 3 noson gyda brecwast
•    Tocyn mynediad i Money 20/20
•    Eich rhestru fel arddangoswr
•    Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad

Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.

Manylion Y Digwyddiad
Pryd: 2-6 Mehefin 2025
Sector: Technegol ariannol a thechnoleg
Ble: Amsterdam, Yr Iseldiroedd

Trefn
2 Mehefin – Gadael am Amsterdam
3-6 Mehefin – Money 20/20
6 Mehefin – Nôl i Gymru

Gwasanaeth Trefnu Cyfardodydd 
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.

Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa.

Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 4 Ebril 2025 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
4 Ebrill Mawrth 2025 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
4 Ebrill 2025 (Teithio yn unig)

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru

*Dim ond i’r rheini sy’n gymwys.