O fewnforiwr i allforiwr byd-eang: Sut y daeth Milking Solutions yn hyrwyddwr yr economi gylchol
Yn swatio yn nhref hardd Trefynwy, mae hynt Milking Solutions wedi bod yn rhyfeddol, gan fynd o fod yn gwmni mewnforio sy'n gwasanaethu'r DU i fod yn wneuthurwr ac allforiwr byd-eang o fri sy'n cyflenwi darnau peiriannau godro. Heddiw, mae ystod cynhyrchion y cwmni yn cynnwys offer godro ar gyfer gwartheg, defaid, geifr a chamelod. Yma, mae Kevin Graham, y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn rhannu'r daith ddifyr a drawsnewidiodd fusnes bach yng Nghymru yn arweinydd byd-eang...