Hanes llwyddiant

O’r ddesg weinyddol i’r ystafell fwrdd: sut mae’r Rhaglen Cyflymu Twf yn helpu Abbey Glass i adeiladu busnes cryfach, mwy strategol

Abbey Glass team photo

"Helpodd y Rhaglen Cyflymu Twf ni i gamu’n ôl, gweld y busnes yn glir ac adeiladu ar sylfaen gryfach o lawer.”

Mae Abbey Glass, sydd wedi'i leoli yn y Porth, wedi bod yn creu gwaith gwydro masnachol pwrpasol ers dros 30 mlynedd. Gan arbenigo mewn lletygarwch pen y farchnad, manwerthu ac ailwampio ar raddfa fawr, mae'r cwmni'n rheoli popeth o ddylunio a gweithgynhyrchu ymlaen i osod. Mae ei bortffolio yn cynnwys gwaith ar gyfer lleoliadau bwytai megis The Ivy, Sexy Fish a San Carlo Cicchetti. Gyda thîm o 40 a throsiant o £6 miliwn, y Rheolwr Gyfarwyddwr Angela Worgan sy’n arwain y busnes. Ymunodd bron dau ddegawd yn ôl fel cynorthwyydd gweinyddol rhan-amser, ac ym mis Mawrth 2022, dyma hi’n cwblhau pryniant gan y rheolwyr (MBO) gyda Banc Datblygu Cymru, gan ddod yn berchennog arno. Gyda chymorth gan Raglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, mae Angela yn adeiladu busnes sy'n tyfu mewn maint a chryfder.

Sut mae RCT wedi bod o gymorth i Abbey Glass, a beth oeddech chi'n gobeithio ei gyflawni?

Fe wnaethon ni ymwneud yn gyntaf â'n Rheolwr Perthnasoedd RCT, Carmel Gahan, pan oedd y busnes yn tyfu, ond nid oedd ein strwythur mewnol yn datblygu i’r un graddau. Y nod oedd cryfhau strategaeth, gwella effeithlonrwydd gweithredol a sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa i dyfu mewn modd cynaliadwy.

Ehangder y cymorth a wnaeth y gwahaniaeth mwyaf. Mae RCT wedi gweithio gyda ni ar draws strategaeth farchnata, proffil brand, llif cynhyrchu, datblygu allforion, Polisi Gwaith Teg a'n Cynllun Lleihau Carbon, y mae pob un yn cyfrannu i greu busnes cryfach a mwy cydlynol. Mae cysoni prosesau mewnol â'n huchelgeisiau o ran twf wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i berfformiad o ddydd i ddydd: rydyn ni’n adweithio’n llai, yn cynllunio’n fwy ac yn gweithredu gyda gwelededd llawer gwell.

Mae hanes eich gyrfa chi yn Abbey Glass yn rhyfeddol. Allwch chi ei rannu e â ni?

Dechreuais i mewn rôl weinyddol ran-amser, ar ôl newydd gael fy ail fab, heb gefndir yn y diwydiant a heb gynllun clir, dim ond yr ymdeimlad fy mod i eisiau gwneud rhywbeth â fi fy hun. Es i ati i ddatblygu trwy swyddi gwerthu, Rheolwr Prosiect a Chyfarwyddwr Masnachol cyn dod yn Rheolwr Gyfarwyddwr ym mis Rhagfyr 2019. Ym mis Mawrth 2022, cwblheais i bryniant gan y rheolwyr gyda Banc Datblygu Cymru, sef moment allweddol yn fy ngyrfa ac un rwy'n hynod falch ohoni. Gobeithio bod fy nhaith yn dangos nad oes un llwybr sefydlog i'r brig.

Beth fu'r heriau mwyaf wrth dyfu'r busnes?

Cynnal rheolaeth wrth dyfu fu'r her fwyaf, yn enwedig o ran ansawdd, cyflawni rhaglenni a rheoli costau. Rydyn ni wedi mynd i'r afael â hynny drwy fuddsoddi mewn prosesau cryfach a dull mwy strwythuredig o arwain, gan symud o fodel adweithiol i un sydd wedi'i gynllunio, sy'n seiliedig ar ddata ac sy'n gyson. Rydyn ni hefyd wedi gwneud penderfyniad bwriadol i ddod â mwy o allu yn fewnol yn hytrach na dibynnu ar isgontractwyr. Mae'n rhoi rheolaeth dynnach inni ar ansawdd a phrofiad y cleient, gan greu mwy o sefydlogrwydd a chyfleoedd datblygu i'r tîm. Mae'r ffocws hwnnw ar adeiladu gallu mewnol yn hytrach na mynd ar ôl maint hefyd wedi gwella elw.

Ydy gwaith RCT ar frand a marchnata wedi trosi'n ganlyniadau masnachol?

Rydyn ni’n gweld newid clir yn y ffordd y mae cleientiaid yn ymgysylltu â ni. Bu cynnydd mewn ymholiadau uniongyrchol a chyfranogiad cynt mewn prosiectau, a dyna'r union ddau faes lle rydyn ni’n ychwanegu'r gwerth mwyaf. O'i gymharu ag ychydig flynyddoedd yn ôl, rydyn ni’n llai dibynnol ar gyfleoedd adweithiol ac yn lle hynny rydyn ni’n adeiladu piblinell fwy rhagweithiol ac sydd wedi’i thargedu’n fwy.

Allwch chi ddweud mwy wrthym am y cymorth caffael meddalwedd a ddarparwyd gan RCT?

Fel llawer o fusnesau sy'n tyfu, roedden ni'n gwybod nad oedd modd ehangu ein systemau etifeddol, ond gyda thîm bach, roedd hi'n anodd neilltuo amser i fynd i'r afael â hyn yn iawn. Dechreuodd RCT gyda mapio prosesau, gan ein helpu ni i egluro beth oedd angen i'n systemau ei gyflawni cyn edrych ar unrhyw atebion. Roedd y dull strwythuredig hwnnw'n golygu y gallem ni ddewis meddalwedd sy'n gweddu i’r dim i'r busnes yn y tymor hir. Y canlyniad yw gwell gwelededd, gwell effeithlonrwydd a phrosesau cryfach ar gyfer gwneud penderfyniadau ar draws y busnes.

Beth nesaf i Abbey Glass a pha gyngor byddech chi'n ei roi i fusnesau eraill sy'n ystyried dod yn rhan o RCT?

Rydyn ni’n canolbwyntio ar dwf cynaliadwy, gan gryfhau ein marchnadoedd craidd wrth ehangu mewn modd dethol i sectorau a rhanbarthau newydd a pharhau i fuddsoddi mewn gallu mewnol, peiriannau, systemau a phobl. Mae'n golygu busnes sydd nid yn unig yn fwy o faint, ond hefyd yn fwy gwydn.

Fy nghyngor i eraill yw bod yn glir ynglŷn â beth rydych chi am ei gyflawni a bod yn agored i her. Po fwyaf y byddwch chi'n canolbwyntio ar eich nodau, y mwyaf i gyd fydd y gwerth a gewch chi o’r cymorth. I ni, y budd go iawn oedd cael camu'n ôl i feddwl yn strategol yn hytrach nag ymladd tanau o ddydd i ddydd. Dyw'r rhaglen ddim yn golygu atgyfnerthu beth rydych chi eisoes yn ei wneud; mae'n eich helpu chi i nodi bylchau, gan gynnwys y rhai sydd heb fod yn amlwg.

Dysgwch ragor am sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf gynorthwyo eich busnes chi.

Dysgwch ragor am Abbey Glass.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.