Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Welsh Government
  • EN
  • CY
Business Wales Home
  • Business Wales Hafan
  • Pencadlys Newyddion
  • Mwy
Business Wales - Accelerated Growth Programme
Toggle navigation
  • Cartref
  • Beth yw'r Rhaglen Cyflymu Twf?
  • A yw fy musnes yn gymwys?
  • Astudiaethau Achos a Newyddion
  • Proffiliau hyfforddwyr twf
  • Cysylltwch â ni
  1. Home
  2. Case Studies and News
  3. 2023

2023 Case Studies and News

Revolancer Logo
Astudiaeth Achos

Revolancer: Ailddiffinio gwaith llawrydd ar blatfform cyfnewid sgiliau chwyldroadol.

18 December 2023
|

"Bu'r Rhaglen Twf Carlam yn drobwynt ar ein taith, gan roi dealltwriaeth ac adnoddau gwerthfawr a'n helpodd ni i ehangu ein gweledigaeth drwy'r byd."

Ers ei lansio yn 2021, mae Revolancer wedi newid byd gweithwyr llawrydd trwy ddatblygu ecosystem ar gyfer cyfnewid sgiliau. Mae'r platfform yn cynnig rhyddid i weithwyr llawrydd gyda'u gyrfa ac yn gweddnewid y ffordd y mae gwaith llawrydd yn cael ei weld a'i gyfnewid. Mae hefyd yn grymuso pobl hunangyflogedig i dyfu eu busnesau heb gyfyngiadau ariannol. Syniad Karl Swanepoel yw'r platfform, ac mae taith Karl fel entrepreneur yn ddim llai na rhyfeddol. Gan ddechrau...
WGD Logo
Astudiaeth Achos

Rhyddhau Potensial Technolegol: Taith WeGetDesign o Fusnes Newydd i Arweinydd Technoleg.

11 December 2023
|

“Diolch i gymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, rydym wedi gweld twf aruthrol mewn refeniw a'n gallu i greu atebion meddalwedd effeithiol.”

Daeth WeGetDesign, o Gaerdydd, i'r amlwg ar ddiwedd 2017 fel busnes technoleg bach newydd gyda gweledigaeth eang. Gan arbenigo mewn Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS) a all ehangu a seilwaith swyddfa gefn, mae'r cwmni wedi tyfu i 14 aelod o staff llawn amser a sawl contractwr allanol. Gyda chyfradd twf drawiadol flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae WeGetDesign wedi datblygu'n chwaraewr o bwys yn y diwydiant technoleg. Mae'r Rheolwr Gyfarwyddwr Omar Moulani yn egluro sut y gwnaeth...
PSELogo
Astudiaeth Achos

Pro Steel: Llwyddiant Peirianneg Trwy Arloesi a Chydweithio.

11 December 2023
|

"Mae'r arweiniad a'r gefnogaeth gan y Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn ganolog wrth lunio llwybr Pro Steel, gan ein galluogi i fynd i'r afael â heriau'r diwydiant gyda strategaethau arloesol a gweledigaeth glir."

Yn 2012, cychwynnodd Richard Selby a Justin Marriott ar fenter i drawsnewid y diwydiant dur. Eu nod oedd sefydlu cwmni oedd yn blaenoriaethu gwasanaeth eithriadol ac atebion arloesol. Dechreuodd taith Pro Steel Engineering yn syml yn ystafell flaen Selby, gan gynyddu'n gyflym i gwmni mawr gyda throsiant o dros £10m. Mae llwybr twf y cwmni yn dangos ei hymrwymiad i arloesi, gan groesawu ac addasu yn gyson i heriau newydd yn y farchnad. Heddiw, mae...
PCF Logo
Astudiaeth Achos

Fforwm Arfordir Sir Benfro: Llywio Tuag at Arfordir a Môr Mwy Cynaliadwy.

7 December 2023
|

"Mae ein partneriaeth gyda'r Rhaglen Cyflymu Taf wedi ein galluogi i ganolbwyntio, datblygu, ac aros yn hyblyg a pherthnasol. O hyfforddiant wedi'i deilwra i becynnau gwaith pwrpasol, mae'r gefnogaeth a gynigwyd i ni wedi bod yn gonglfaen ein twf

Yn sgil heriau amgylcheddol ac economaidd cynyddol ar arfordir Sir Benfro, ffurfiodd grŵp o arweinwyr â gweledigaeth Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF) yn 2000. Bellach yn rym blaenllaw mewn rheoli arfordirol cynaliadwy, mae PCF yn enghraifft o bŵer cydweithredu a meddwl arloesol wrth drawsnewid heriau amgylcheddol yn gyfleoedd ar gyfer twf a chynaliadwyedd. Yma, mae Jetske Germing, Rheolwr Gyfarwyddwr PCF, yn rhannu taith drawsnewidiol y sefydliad. Mae hi hefyd yn esbonio sut mae Rhaglen Cyflymu...
MS Logo
Astudiaeth Achos

O fewnforiwr i allforiwr byd-eang: Sut y daeth Milking Solutions yn hyrwyddwr yr economi gylchol

6 November 2023
|

"Gyda chefnogaeth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru a Cyllid Cymru, rydyn ni wedi trawsnewid ein model busnes ac rydyn ni bellach yn chwarae rhan sylweddol yn yr economi gylchol."

Yn swatio yn nhref hardd Trefynwy, mae hynt Milking Solutions wedi bod yn rhyfeddol, gan fynd o fod yn gwmni mewnforio sy'n gwasanaethu'r DU i fod yn wneuthurwr ac allforiwr byd-eang o fri sy'n cyflenwi darnau peiriannau godro. Heddiw, mae ystod cynhyrchion y cwmni yn cynnwys offer godro ar gyfer gwartheg, defaid, geifr a chamelod. Yma, mae Kevin Graham, y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn rhannu'r daith ddifyr a drawsnewidiodd fusnes bach yng Nghymru yn arweinydd byd-eang...
SimplyDo Logo
Astudiaeth Achos

Ar flaen y gad ym maes tai cymdeithasol cynaliadwy gyda Gwybodaeth SimplyDo am Arloesi

2 October 2023
|

"Mae bod yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi'n helpu i dyfu ac mae, ar yr un pryd, wedi ysgogi newidiadau cadarnhaol i wasanaethau cyhoeddus."  

Mae SimplyDo o Gaerdydd yn gwmni sydd ar flaen y gad ym maes arloesi. Mae'n ymrwymedig i ddatrys yr heriau mawr sy'n ein wynebu wrth inni fynd ati i drawsnewid, ac mae'n dod â phobl a phlatfformau digidol blaengar at ei gilydd i greu dulliau newydd arloesol o ddatrys problemau. Yn ddiweddar, bu'r cwmni'n defnyddio'i arbenigedd i helpu i ddatrys un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r sector tai cymdeithasol. Yma, mae Lee Sharma, Prif Swyddog...
Corgi Hosiery Logo
Astudiaeth Achos

Gwarchod traddodiad a chroesawu’r dyfodol: Sut y daeth Corgi Hosiery yn frand byd-eang cynaliadwy

26 September 2023
|

"Gydag arweiniad Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, rydyn ni wedi mireinio’n strategaeth fusnes, wedi croesawu trawsnewid digidol, ac wedi ehangu’n fyd-eang.”

Mae hanes diwydiannol Cymru wedi cael ei ailddiffinio dro ar ôl tro. Mae ailddiffiniad o’r fath i’w weld yn Corgi Hosiery yn Rhydaman, sy’n fusnes pumed genhedlaeth lle mae’r crefftwaith traddodiadol gorau ac arferion cynaliadwy modern yn dod ynghyd. Mae’r brand, a gafodd ei sefydlu yn 1892, wedi esblygu’n raslon o gyflenwi sanau i lowyr i ddod yn arweinydd byd-eang yn y farchnad dillad gwau moethus. Heddiw, mae’r cwmni’n cyflogi 65 o bobl ac yn...
2buy2 Logo
Astudiaeth Achos

2buy2.com: Y busnes yng Nghymru yn arbed miliynau i sefydliadau eraill drwy gaffael doethach.

3 July 2023
|

"Mae bod yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi newid ein busnes. Mae'r cymorth, yr hyfforddiant a'r adnoddau a ddarperir wedi sbarduno ein twf ac wedi agor drysau i gydweithrediadau gwerthfawr."

Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, mae 2buy2.com yn gwmni caffael blaenllaw sy'n arbenigo mewn cefnogi sefydliadau ffydd, busnesau, elusennau a'r sector addysg i arbed arian trwy gaffael doethach. Mae'r cwmni'n cynllunio twf sylweddol diolch i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP) a Rhaglen Arloesedd a Dysgu Sefydliad Technoleg Massachusetts (ILP). Mae hefyd wedi derbyn gwybodaeth werthfawr i ddiogelu ei fusnes gwasanaethau pwrpasol yn y dyfodol. Yma mae Rob Kissick, Prif Swyddog Gweithredol 2buy2.com, yn rhannu sut...
Quadrip logo
Astudiaeth Achos

Quadrip: Llwyfan ffasiwn ar-lein Cymru yn chwyldroi steilio personol drwy gysylltu steilwyr a chleientiaid yn fyd-eang.

3 July 2023
|

"Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy wrth arwain ein taith ddatblygu."

Mae e-fasnach ac arloesedd digidol yn parhau i chwyldroi gwahanol sectorau ledled y byd. O ffasiwn i gyllid, mae llwyfannau digidol wedi chwalu rhwystrau ac wedi creu cyfleoedd i weithwyr llawrydd, entrepreneuriaid a defnyddwyr. Mae Quadrip, llwyfan steilio personol ar-lein yng Nghymru, yn enghraifft wych o'r chwyldro hwn. Wedi'i lansio ym mis Mai 2023 gan Gabriele Sidekerskyte, myfyriwr economeg o Lithwania ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Quadrip yn cysylltu steilyddion llawrydd â chleientiaid sy'n chwilio am...
TBD
Astudiaeth Achos

Astudiaeth achos peilot lleihau carbon y Rhaglen Cyflymu Twf. Cleient: TB Davies

24 April 2023
|

“Fel busnes bach, roeddem yn awyddus i leihau allyriadau carbon ond roedd angen cymorth arnom i ddatblygu cynllun realistig a manwl. Roedd y rhaglen hon yn hynod o ddefnyddiol ac wedi’i chynllunio i helpu busnesau fel ein un ni i wynebu’r her sydd o’n blaenau.” 

Mae TB Davies, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, yn fusnes teuluol pedwaredd genhedlaeth a sefydlwyd yn y 1940au. Erbyn heddiw mae’n un o brif gyflenwyr offer mynediad yn y DU. Mae’r cwmni’n cynhyrchu ac yn dosbarthu amrywiaeth eang o gynnyrch dringo, gan gynnwys grisiau, ysgolion, tyrrau, a phodia ar gyfer defnyddwyr proffesiynol, masnachol a domestig. Mae’n ymfalchïo ei fod wedi aros un cam ar y blaen drwy arloesi ers iddo ddod yn un o’r cwmnïau...

Pagination

  • Page 1
  • Next page >>

Archive

  • May 2025 (1)
  • April 2025 (5)
  • March 2025 (5)
  • February 2025 (10)
  • January 2025 (1)
  • December 2024 (3)
  • November 2024 (3)
  • March 2024 (2)
  • January 2024 (1)
  • December 2023 (4)
  • November 2023 (1)
  • October 2023 (1)

Cysylltwch â ni

Facebook Icon LinkedIn Icon Twitter Icon Youtube Icon Instagram Icon

Tanysgrifio i ebost

Tanysgrifiwch i dderbyn e-gylchlythr

Tanysgrifio

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03000 6 03000

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg

  • Darganfyddwch fwy Amdanom ni
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Cwcis
  • Hawlfraint
  • Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Datganiad Iaith Gymraeg
Llywodraeth Cymru | Welsh Government

Mae'r holl gynnwys ar gael yn Open Government Licence, oni noder yn wahanol

Busnes Cymru. Llywodraeth Cymru © 2025