Mae Elusen yn sefydliad cwbl ddi-elw sy’n ymwneud â gweithgareddau yr ystyrir yn gyfreithiol eu bod ‘o fudd i’r cyhoedd’, fel lliniaru tlodi, neu hyrwyddo’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth.
Mae elusennau’n gallu bod yn sefydliadau corfforedig, neu’n sefydliadau anghorfforedig sy’n cael eu hysgogi gan nodau busnes elusennol
Diffiniad busnes elusen
Yn gyffredinol, mae statws elusennol ar wahân i ffurf gyfreithiol a strwythur cyfundrefnol. Mae Sefydliad Corfforedig Elusennol yn elusen yn ôl ei ddiffiniad, ac mae’n gweithredu fel strwythur cyfreithiol corfforaethol gwahanol i gwmni cyfyngedig gwarantedig.
Sylwer nad yw rhai ffurfiau a statws cyfreithiol, fel Cwmnïau Buddiant Cymunedol (CIC), yn gallu bod yn elusen. Fodd bynnag, gallai elusen berchen ar CIC a derbyn asedau ganddo.
Mae’r diffiniad cyfreithiol o elusennau’n gallu amrywio, yn dibynnu ar ble mae eich busnes wedi’i leoli. Yn y Deyrnas Unedig, mae elusennau’n ddarostyngedig i reolaeth awdurdodaeth cyfraith elusennau yr Uchel Lys.
Sut i sefydlu elusen
Er mwyn bod yn gymwys i fod yn elusen, mae’n rhaid i brif ddiben yr holl weithgarwch masnachu ddod o fewn rhestr o ddibenion elusennol. Mae cyfyngiadau sylweddol ar drefniadau llywodraethu elusennau a’u defnydd o incwm ac asedau hefyd.
Gallwch weld trosolwg llawn o sefydlu elusen ar wefan GOV.UK.