Mae cardiau debyd a chredyd yn fath o gyllid dyled tymor byr a ddefnyddir ar gyfer trafodion (pryniannau y mae angen talu amdanynt adeg gwerthu). 

Yn erbyn tâl blynyddol am wasanaeth, gall deiliaid cerdyn credyd fanteisio ar gredyd hyd at derfyn a gymeradwywyd gan roddwr y cerdyn (e.e. banc neu ddarparwr gwasanaeth). Os yw’r trafodyn yn fwy na therfyn credyd cyfrif y deiliad cerdyn, ni chaiff ei gwblhau. Rhaid i ddeiliaid cerdyn dalu am bryniannau cerdyn credyd ymhen 30 diwrnod i osgoi llog a/neu gosbau.                

Defnyddir cardiau debyd hefyd mewn trafodion arian. Yn wahanol i gardiau credyd, mae cerdyn debyd yn tynnu’r arian ar gyfer pryniant o’r balans sydd ar gael yng nghyfrif deiliad y cerdyn. Os nad oes digon o arian ar gael, ni chwblheir y trafodyn.                  

Manteision ac anfanteision cardiau debyd a chredyd i fusnesau cymdeithasol  

Gallai busnes cymdeithasol ochel rhag defnyddio cardiau am fod hyn yn gallu arwain at ddiffyg rheolaeth ar wariant. Bydd llywodraethu da yn helpu i sefydlu canllawiau clir ynghylch gwariant. Cyfunwch hyn â therfyn gwario misol priodol er mwyn cadw rheolaeth ar gostau a llif arian yn eich Adran Gyllid.

Y gyfradd llog uchel os na fyddwch yn setlo’r balans ar y cerdyn ar ddiwedd y mis yw anfantais fwyaf y cardiau credyd. Gall costau gynyddu’n gyflym os byddwch yn defnyddio terfyn credyd y cerdyn credyd, yn y pen draw, yn fath o fenthyciad.             
Gyda chardiau credyd a chardiau debyd, gallwch dalu am nwyddau a gwasanaethau yn gyflym a hawdd heb fynd drwy’r Adran Gyllid. Os oes angen y cerdyn credyd arnoch ar gyfer cyllid dyled y tu hwnt i’r dyddiad ad-dalu misol, awgrymwn ichi geisio mathau eraill o gyllid ar unwaith. 

Cewch wybod rhagor am gardiau debyd a chredyd ar wefan Busnes Cymru


Archwiliwch ragor o fathau o gyllid dyled sy’n addas i’ch busnes cymdeithasol.