Penderfynodd Zip-Clip, cwmni yng Nghanolbarth Cymru yn cynhyrchu systemau hongian cywrain ar gyfer y diwydiannau trydanol, mecanyddol, twymo ac awyru, ymladd yn erbyn y dirwasgiad yng ngwledydd Prydain drwy dargedu marchnadoedd dramor. Roedd y canlyniadau’n ddramatig, erbyn hyn mae 40% o gynnyrch y cwmni’n cael ei werthu dramor i ddim llai na 23 o wledydd.


Mae’r cwmni arobryn o Bowys yn cyflogi 18 o staff yn llawn amser. Mae ei gynnyrch arbenigol i’w weld dros y byd i gyd mewn prosiectau adeiladu mawr, gan gynnwys Gemau Olympaidd Llundain 2012 lle’r oedd ei systemau’n rhan hanfodol o adeiladwaith canolfan gyfryngau’r Gemau.

Cyn 2008, roedd Zip-Clip yn dibynnu’n gyfan gwbl ar wledydd Prydain am ei farchnad. Achosodd y dirwasgiad ostyngiad o 30% yn nhrosiant blynyddol y busnes – a oedd yn golygu bod yn rhaid iddo chwilio am gwsmeriaid a marchnadoedd newydd.

Cefnogi datblygu dramor

Cafodd y cwmni help mentrau cymorth busnes rhyngwladol Llywodraeth Cymru i fentro i farchnadoedd dramor, gan gynnwys yn yr Almaen, De Affrica ac Awstralia. Roedd y rhaglen Cyfleodd Masnach Rhyngwladol yn talu 75% o gostau canfod darpar bartneriaid masnach dramor a manteisiodd y cwmni ar raglen Ymweliadau Datblygu Busnes Dramor i fynd ar y teithiau masnach pwysicaf i allweddol.

Roedd y teithiau hyn yn cynnwys un daith bwysig i Quatar yn 2013 lle’r agorodd cyfraniad o 50% at gostau teithio a llety gan Lywodraeth Cymru y drws i lond gwlad o gyfleoedd mewn marchnad sy’n tyfu’n eithriadol o gyflym.

Erbyn heddiw, mae gwerthu dramor yn cyfrif am 40% o drosiant blynyddol Zip-Clip sydd hefyd wedi tyfu 40% yn y cyfnod rhwng 2011 a 2013. Yn ddiweddar, enillodd y cwmni wobr Allforiwr y Flwyddyn Powys 2013.

Meddai Steve Goldsworthy, rheolwr gyfarwyddwr Zip-Clip:

“Fel cymaint o gwmnïau ym mhob rhan o wledydd Prydain, effeithiodd y dirwasgiad yn drwm ar ein busnes gan fod cymaint o’n cwsmeriaid yn gorfod cwtogi. Roedden ni mewn lle anodd, ond ein rheolwr banc oedd y cyntaf i awgrymu ateb: roedd gennyn ni gynnyrch, adnoddau a staff gwych, ond roedd yn rhaid i ni allforio.

“Diolch i’r drefn, roedd rhaglenni cymorth Llywodraeth Cymru ar gael. Mae’r cymorth wedi newid holl naws ein busnes ac wedi’n helpu i ymestyn dramor. Roedd cymorth Llywodraeth Cymru yn werth y byd, dylai busnesau eraill sy’n ei dderbyn sylweddoli eu bod yn freintiedig a manteisio i’r eithaf ar bob cymorth a phob taith sydd ar gael.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen