Mae Zip-Clip, cwmni arobryn o’r canolbarth, yn dylunio ac yn gweithgynhyrchu systemau gwifrau a rhaffau crogiannu ac angori o safon uchel ar gyfer amrywiaeth gynyddol o ddefnyddiau a sectorau, gan gynnwys meysydd trydanol, mecanyddol, gwres, awyru, adeiladu a seismig.


Mae’r cwmni o’r Trallwng, a sefydlwyd bron i ugain mlynedd yn ôl, wedi gweithio ar brosiectau blaenllaw, gan gynnwys Gemau Olympaidd Llundain 2012, stadia Cwpan y Byd, Canolfannau Data Amazon a Llysgenhadaeth newydd UDA yn Llundain.

Mae’r cwmni’n allforio i dros 40 o wledydd ym mhedwar ban y byd, ac allforion sydd i gyfrif am 50% o’i drosiant. Mae disgwyl i’r ffigur yna gyrraedd 70% erbyn 2026, gydag India’n disodli Ewrop fel marchnad allforio fwyaf y cwmni.

Dros y misoedd diwethaf, mae’r cwmni wedi llofnodi nifer o gytundebau allforio mewn gwledydd ar draws y byd, a chrëwyd cynnyrch hollol newydd yn benodol ar gyfer rhai o’r marchnadoedd hynny, sy’n esiampl nodweddiadol o sut mae allforio’n gyrru arloesi o ran cynnyrch.

Yn Seland Newydd, mae Zip-Splice+ system newydd Zip-Clip a lansiwyd yn ddiweddar, wedi cael ei gaffael gan grŵp ategion mwyaf y rhanbarth, Fletcher Reinforcing.

System sbleisio gryf iawn yw Zip-Splice+ a ddyluniwyd yn benodol i gysylltu cewyll ategu pyst parod, sy’n cael eu defnyddio i gryfhau colofnau concrit. Mae’n cyflymu’r broses gosod, ac yn allweddol, yn dileu’r angen am i weithredwyr roi eu dwylo yn y gawell yn ystod y broses gosod.

Mae Zip-Clip eisoes wedi ennill Gwobr y Frenhines am ragoriaeth ym maes masnachu rhyngwladol, ac mae’n bwriadu cyflwyno Zip-Splice+ am Wobr Menter y Brenin.

Mae’r cwmni wedi cyflenwi cynnyrch newydd ar gyfer systemau taenellu dŵr hefyd. Dyluniwyd y cynnyrch yn benodol ar gyfer marchnad Seland Newydd, a hynny mewn cydweithrediad ag arbenigwyr profi ac ardystio Element ym Mhrifysgol Bryste.  Mae AON, un o gwmnïau yswiriant mawr y byd, bellach wedi rhestru system newydd yr IEEE Seismic Sprinkler.

Mae Zip-Clip wedi bod yn cyflawni nifer o brosiectau amddiffyn seismig yn Ynysoedd Gogleddol a Deheuol Seland Newydd hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynorthwyo Zip-Clip ar ei siwrnai allforio ers 2009 pan darodd y dirwasgiad byd-eang drosiant yn sylweddol.
 

“Mae eu cymorth allforio wedi ein helpu ni i ymchwilio i nifer o farchnadoedd allforio, ac mae’n ein cynorthwyo ni i ddod o hyd i’r bobl gywir i siarad â nhw o fewn y gwahanol farchnadoedd,” meddai Cyd-brif Weithredwr Zip-Clip, Steve Goldsworthy. “Rydyn ni wedi cael cymorth ariannol i ymweld â marchnadoedd newydd a mynychu teithiau masnach hefyd. Mae eu cymorth wedi bod yn amhrisiadwy.

“Fe gyfrifais i’n ddiweddar ein bod ni wedi gwneud £8 miliwn mewn busnes ychwanegol o ganlyniad uniongyrchol i’w rhaglenni cymorth.”
 

Yn 2021, sefydlodd Zip-Clip ganolfan ddosbarthu yn Lyon yn Ffrainc yn sgil rheoliadau’r Brexit caled, a oedd yn golygu bod angen canolfan Ewropeaidd ar y cwmni er mwyn sicrhau ei ddyfodol yn ei farchnad allforio fwyaf.

 

“Gwnaeth y newidiadau mewn telerau masnachu yn sgil Brexit hi’n hanfodol i ni fel busnes sefydlu hyb dosbarthu Ewropeaidd i barhau â’r safon uchel o wasanaethau y mae ein cwsmeriaid yn ei ddisgwyl”, esboniodd Matthew Clay Michael, Cyd-brif Weithredwr Zip-Clip. “Ond cwmni Cymreig ydyn ni i’r carn o hyd. Mae’r mwyafrif o’n cynnyrch yn cael ei wneud yng Nghymru a bydd yn parhau i gael ei ddatblygu o’n cyfleuster yn y Trallwng yn y canolbarth.   Rydyn ni’n arloesi, yn dylunio ac yn cynhyrchu i safonau rhyngwladol a byddwn ni’n parhau i chwifio’r faner dros beirianneg a gweithgynhyrchu Cymru ar draws y byd i gyd.”

 

“Rydyn ni’n teithio i bedwar ban y byd i gwrdd â chwsmeriaid newydd, mynychu arddangosfeydd a theithiau masnach, ac i asesu prosiectau sydd ar droed.  Ein hallforion yw maen clo ein busnes, ac maen nhw’n tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn.  O fewn ychydig flynyddoedd, rydyn ni’n disgwyl iddynt gyfrif am y mwyafrif helaeth o’n trosiant am fod marchnadoedd sy’n datblygu, fel India, yn cynnig cyfleoedd sydd bron a bod yn ddi-ben-draw.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen