Dechreuodd Teddington Engineered Solutions, busnes peirianneg yn ngorllewin Cymru, a oedd yn arfer cyflenwi darnau i gadw awyrennau Spitfire yr RAF yn yr awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dargedu marchnadoedd rhyngwladol yn rhan o'i strategaeth twf.


 

Erbyn hyn mae mwy na 66% o fasnach y cwmni’n dod o dramor, gan gynorthwyo Teddington i wireddu gwerthiannau a throsiant uwch nag erioed.

Mae Teddington Engineered Solutions yn Llanelli, sy'n cyflogi mwy na 100 o bobl, yn dylunio ac yn gweithgynhyrchu chwyddgymalau ar gyfer amrywiaeth o ddiwydiannau gan gynnwys y diwydiannau awyrofod, morwrol, adeiladu, ynni niwclear ac amddiffyn. Mae'r cymalau'n cyfadfer ar gyfer symudiadau mewn pibellwaith oherwydd newid mewn tymheredd, pwysau neu ddirgryniant.

Dyddiadu cynnar

Sefydlwyd y cwmni yn Teddington, de-orllewin Llundain, yn yr ardal yr enwyd y cwmni ar ei hôl, nôl yn y 1920au, a’i bwrpas gwreiddiol oedd cyflenwi meginau dan batent ar gyfer y diwydiant awyrennau.

Ym mlynyddoedd cynnar y rhyfel, bu Teddington yn gyfrifol am wneud cydrannau hanfodol ar gyfer awyrennau Prydeinig fel y Spitfire, a'r rôl hanfodol yma a berodd i'r Llywodraeth symud y cwmni o Lundain i dde Cymru, am ei bod yn teimlo y byddai'n gymharol ddiogel rhag bomiau'r Almaenwyr yma.

Ar ôl y rhyfel, ehangodd Teddington i amrywiaeth o farchnadoedd eraill, gan gynnwys y sector ynni, gan agor drysau newydd iddo werthu ei chwyddgymalau ym mhedwar ban y byd.

Marchnadoedd a sectorau newydd

Heddiw, gwerthiannau rhyngwladol sydd i gyfrif am 66% o archebion Teddington, ac mae'r cwmni wedi allforio i dros 90 o wledydd ers 2003. Er bod rhyw 7% o'r gwerthiannau'n dal i fod i'r byd awyrofod, mae dros 30% bellach yn mynd i'r byd ynni, a'r lleill at ddefnydd morwrol, y farchnad nwy naturiol hylifedig (LNG), a gweithfeydd dur ymysg eraill.

Mae Tsieina a'r Dwyrain Canol ymysg marchnadoedd mwyaf y cwmni y tu hwnt i'r UE. Teddington oedd y cwmni cyntaf i gyflenwi meginau ar gyfer y tanceri LNG sy'n cael eu hadeiladu yn Tsieina ar hyn o bryd, ac mae'n gyflenwr allweddol i'r diwydiant niwclear yn y wlad hefyd.

Yn y Dwyrain Canol, mae Teddington wedi bod yn gysylltiedig â phrosiectau blaenllaw iawn. Yn Dubai yn unig, mae'r cwmni wedi cyflenwi maes awyr Dubai, y system metro, y Burj Khalifa, canolfan siopa'r Dubai Mall a llawer o'r adeiladau ar Palm Jumeirah.

Ffocws cadarn Teddington ar fasnach ryngwladol sydd wedi peri iddo lwyddo i gyflawni twf o 18% yn ei drosiant dros y ddwy flynedd diwethaf yn unig. Mae’r cwmni wedi gweld cynnydd o 30% ym maint ei weithlu ers 2014 hefyd diolch i werthiannau allforio.

Dywedodd Jason Thomas, Cyfarwyddwr Masnachol Teddington Engineered Solutions:

“Mae ein harchebion wedi cynyddu'n sylweddol dros y ddwy flynedd diwethaf, cymaint felly ein bod ni wedi torri pob record oedd gennym. Ac mae'r cyfan diolch i allforion, ac ennill contractau gyda chleientiaid newydd.

“Rydyn ni wedi bod yn ceisio torri cwys yn y diwydiant gwneud dur arbenigol o'r enw Rhydwytho Haearn Uniongyrchol ers sawl blwyddyn bellach, ac felly mae llwyddo i gyflawni'n hynny wedi bod yn dipyn o gamp i ni. Rydyn ni eisoes wedi cyflawni tri chontract ers Ebrill y llynedd, ac rydyn ni wedi cael sicrwydd taw ni yw'r ymgeisydd dethol ar gyfer contractau yn y dyfodol.

“Dros y pymtheg mis diwethaf, rydyn ni wedi defnyddio Llywodraeth Cymru gyda'i hopsiynau lu am gymorth, gan gynnwys teithiau masnach, arddangosfeydd, a chyfleoedd masnachol i gael cymorth i'r farchnad, a chyngor ar bob maes o allforio gan bobl hynod wybodus a phrofiadol o fewn y tîm allforio. Heb os nac oni bai, mae hyn wedi cyflymu’r twf yn ein hallforion dros y blynyddoedd, ac ni fyddai’r fath lwyddiant wedi bod yn bosibl heb y cymorth hwn. Am hynny, rydyn ni'n hynod ddiolchgar."

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen