Dechreuodd Teddington Engineered Solutions, busnes peirianneg yn ngorllewin Cymru, a oedd yn arfer cyflenwi darnau i gadw awyrennau Spitfire yr RAF yn yr awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dargedu marchnadoedd rhyngwladol yn rhan o'i strategaeth twf.


 

Erbyn hyn mae mwy na 66% o fasnach y cwmni’n dod o dramor, gan gynorthwyo Teddington i wireddu gwerthiannau a throsiant uwch nag erioed.

Mae Teddington Engineered Solutions yn Llanelli, sy'n cyflogi mwy na 100 o bobl, yn dylunio ac yn gweithgynhyrchu chwyddgymalau ar gyfer amrywiaeth o ddiwydiannau gan gynnwys y diwydiannau awyrofod, morwrol, adeiladu, ynni niwclear ac amddiffyn. Mae'r cymalau'n cyfadfer ar gyfer symudiadau mewn pibellwaith oherwydd newid mewn tymheredd, pwysau neu ddirgryniant.

Y cyfnod cynnar

Sefydlwyd y cwmni yn Teddington, de-orllewin Llundain, yr ardal yr enwyd y cwmni ar ei hôl, nôl yn y 1920au, a’i bwrpas gwreiddiol oedd cyflenwi meginau dan batent ar gyfer y  diwydiant awyrennau. 

Ym mlynyddoedd cynnar y rhyfel, bu Teddington yn gyfrifol am wneud cydrannau hanfodol ar gyfer awyrennau Prydeinig fel y Spitfire, a'r rôl hanfodol yma a berodd i'r Llywodraeth symud y cwmni o Lundain i dde Cymru, am ei bod yn teimlo y byddai'n gymharol ddiogel rhag bomiau'r Almaenwyr yma.

Ar ôl y rhyfel, ehangodd Teddington i amrywiaeth o farchnadoedd eraill, gan gynnwys y sector ynni, gan agor drysau newydd i werthu ei chwyddgymalau ym mhedwar ban y byd.

Marchnadoedd a sectorau newydd

Gwerthiannau rhyngwladol sydd i gyfrif am o leiaf 70% o archebion Teddington erioed. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae’r cwmni wedi allforio i dros 100 o wledydd. Mae ei werthiannau’n ymestyn ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau gan gynnwys y diwydiannau awyrofod, ynni, llongau a morwriaeth, cemegolion a phrosesu bwyd, gweithfeydd dur, gyriant a phŵer.

Mae Ewrop yn dal i fod yn farchnad flaenoriaeth i Teddington. Nid yw Brexit wedi tarfu dim ar ei fusnes cyfredol yn yr UE ac a dweud y gwir, mae hi wedi denu nifer o gwsmeriaid newydd yn y cyfnod yn sgil Brexit. Ymhellach i ffwrdd, mae’r Dwyrain Canol yn dal i fod yn farchnad allweddol ar gyfer prosiectau ynni a seilwaith, gyda thwf sylweddol yn America, De-ddwyrain Asia ac yn Affrica yn gynyddol. Teddington oedd y cwmni cyntaf i gyflenwi meginau ar gyfer rhai o’r marchnadoedd diwydiannol mawr, ac mae ganddo enw da ar draws y byd i gyd hyd heddiw.

Yn sgil y mesurau mewn ymateb i Covid, yr amrywiaeth yma ar draws marchnadoedd daearyddol a diwydiannol a gynorthwyodd Teddington i gynnal ei weithlu a’i sgiliau, gan osod y sylfaen iddo fanteisio ar y twf sydd wedi digwydd ers hynny.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Teddington wedi gweld cynnydd o bron i 200% yn ei lyfr archebion allforio, sy’n golygu bod y cwmni wedi bod yn recriwtio am wahanol rolau ar draws ei dimau gwerthu, peirianneg, ansawdd, cynhyrchu a gweinyddu er mwyn cadw i fyny â’r galw.

Dywedodd Jason Thomas, Cyfarwyddwr Masnachol Teddington Engineered Solutions:

“Mae ein llyfr archebion wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae nifer yr ymholiadau sy’n dod i mewn yn tyfu ac yn tyfu hefyd. I allforion mae’r diolch am hynny i raddau helaeth, ac maent dal i fod yn rhan bwysig o’n busnes. Rydyn ni wedi cadw ein holl gwsmeriaid ers cyfnod Covid, ac wrth iddyn nhw ymadfer a thyfu yn sgil hynny, rydyn ni wedi gwneud yr un peth. Ond fyddwn ni byth yn llaesu dwylo, ac rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar ennill contractau newydd a chleientiaid newydd hefyd.

“Un fenter newydd gyffrous i ni yw’r adweithyddion modwlar bychain (SMRs) a fydd yn allweddol at anghenion ynni’r dyfodol yn y sector niwclear. Ni fu’n gyfrifol am gyflenwi’r chwyddgymalau ar gyfer meginau’r adweithydd niwclear cyntaf un yn y 1960au, yn Neuadd Calder yn Sellafield, ac rydyn ni wedi bod yn flaengar yn y diwydiant byth ers hynny.

“Dros yr ugain mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi defnyddio opsiynau cymorth allforio niferus Llywodraeth Cymru, gan gynnwys teithiau masnach, arddangosfeydd, cymorth mewn marchnadoedd penodol a chyngor allforio cyffredinol gan bobl wybodus a phrofiadol dros ben o fewn y tîm allforio. Heb os nac oni bai, mae hyn wedi hwyluso twf ein hallforion dros y blynyddoedd.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen