Mae Hexigone Inhibitors, cwmni gweithgynhyrchu yn ne Cymru, yn mynd i'r afael â phroblem fyd-eang â chost o sawl triliwn o bunnoedd gyda'i gynhyrchion patent. Yn dilyn darganfyddiad a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r cwmni’n cychwyn ar ei siwrnai allforio yn dilyn blynyddoedd o waith ymchwil a datblygu. 

Mae Hexigone wedi llwyddo i ddiogelu ei gleientiaid allforio cyntaf ac mae'r cwmni ar y trywydd iawn i gadarnhau nifer o gytundebau rhyngwladol dros y misoedd nesaf. Mae'n rhagweld twf aruthrol yn y busnes dros y flwyddyn sydd i ddod o ganlyniad i'w strategaeth allforio.

Mae Hexigone Inhibitors, cwmni gweithgynhyrchu yn ne Cymru, yn mynd i'r afael â phroblem fyd-eang â chost o sawl triliwn o bunnoedd gyda'i gynhyrchion patent. Yn dilyn darganfyddiad a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r cwmni’n cychwyn ar ei siwrnai allforio yn dilyn blynyddoedd o waith ymchwil a datblygu. 

Mae Hexigone wedi llwyddo i ddiogelu ei gleientiaid allforio cyntaf ac mae'r cwmni ar y trywydd iawn i gadarnhau nifer o gytundebau rhyngwladol dros y misoedd nesaf. Mae'n rhagweld twf aruthrol yn y busnes dros y flwyddyn sydd i ddod o ganlyniad i'w strategaeth allforio.

Mae Hexigone Inhibitors ym Maglan yn arbenigo mewn technoleg micro-gronfa sy'n cael ei ychwanegu at baent a chaenau amddiffynnol er mwyn atal rhwd.

Gall amrywiaeth eang o ddiwydiannau, gan gynnwys y diwydiannau adeiladu, olew a nwy, morwrol ac awyrofod, fanteisio ar atalwyr rhwd Hexigone am eu bod yn helpu i atal y difrod y mae cyrydiad yn ei achosi i gychod, llongau, awyrennau, tanciau olew, adeiladau a llawer iawn mwy.

Ddeg gwaith yn fwy effeithiol

Sylfaenwyd Hexigone ym 2016 yn sgil darganfyddiad gwyddonol Dr Patrick Dodds. Roedd Dr Dodds yn ymchwilio i'r deunydd mewn ymateb i alw cynyddol o’r byd diwydiant am ddewis diogel yn hytrach nag ïon cromad chwefalent – yr ataliwr rhwd mwyaf cyffredin – a gafodd ei wahardd yn Ewrop yn 2019 oherwydd peryglon i iechyd pobl a'r amgylchedd. 

Mae ïon cromad chwefalent yn garsinogenaidd, ac mae’n achosi problemau iechyd difrifol i weithwyr sy'n dod i gysylltiad ag ef.  Er y caniateir ei ddefnyddio’r tu hwnt i'r UE o hyd, y disgwyl yw y bydd gwledydd eraill yn ei wahardd o dipyn i beth, gan greu bwlch yn y farchnad am ddeunyddiau effeithiol heb gromadau.

Gyda gwaharddiad yr UE ar y gorwel, bu Dr Dodds yn cydweithio â byd diwydiant i ddatblygu atalwyr diogel a mwy cynaliadwy. Y canlyniad oedd cynnyrch sydd wedi profi i fod dros ddeg gwaith yn fwy effeithiol na'r dewisiadau gorau eraill sydd ar y farchnad, ac mae hi hyd yn oed wedi rhagori ar berfformiad ïon cromad chwefalent ei hun.

Diddordeb mawr dramor

Corfforwyd Hexigone yn swyddogol yn 2016 ar ôl i Dr Dodds dderbyn Gwobr Menter Deunyddiau'r Gofaint Arfau a Phres.  Dechreuodd y busnes weithredu yn 2017, gan droi'r darganfyddiad yn y  labordy’n gwmni masnachol.  Ar ôl cyflawni llu o astudiaethau hyfywedd, rhoddwyd strategaeth datblygu busnes rhyngwladol ar waith.

Am fod cyrydiad yn costio triliynau i economi'r byd bob blwyddyn, ac am fod y diwydiant atalwyr rhwd gwerth dros £5.6bn, mae'r farchnad dramor a allai fod yn agored i'r cwmni Cymreig yn anferth. 

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Hexigone wedi bod yn anfon samplau allan at gynhyrchwyr caenau ym mhedwar ban y byd am fod angen i bob cwmni gyflawni eu prosesau dilysu technegol eu hunain. Â'r cyfnodau dilysu'n dod i ben ar ddechrau’r flwyddyn hon, anfonodd Hexigone ei archebion allforio cyntaf at gleientiaid yn India, UDA ac i nifer o gwmnïau yn Asia a De America. Mae trafodaethau masnachol ar y gweill gyda chwsmeriaid yng Nghanada, yr Almaen, Awstria, Denmarc a'r Iseldiroedd hefyd.

Disgwylir i Asia fod yn farchnad twf allweddol ar gyfer y cwmni sydd ar fin cwblhau cytundebau pwysig gyda dau gwmni caenu â throsiant gwerth biliynau o bunnoedd yn y rhanbarth. Ffrwyth nifer o deithiau masnach i'r ardal gyda chymorth a chyllid Lywodraeth Cymru yw’r cytundebau hyn. Bydd yr archebion, y disgwylir iddynt gael eu cwblhau dros y misoedd nesaf, yn hwb anferth i strategaeth allforio werthfawr Hexigone.

Yn seiliedig ar y trafodaethau sydd ar y gweill â llu o gwsmeriaid ym mhedwar ban y byd, mae Hexigone yn disgwyl i 69% o'i fasnach ddod o allforion yn 2021, ac mae'n rhagweld y bydd ganddo 50 o gwsmeriaid rhyngwladol erbyn 2022, gyda'r gwaharddiad disgwyliedig ar gromadau mewn rhanbarthau y tu hwnt i Ewrop yn rhoi hwb pellach i’w werthiannau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu amrywiaeth o gymorth i Hexigone dros y ddwy flynedd diwethaf er mwyn cynorthwyo'r busnes i gychwyn ei siwrnai allforio. Mae ymgynghorwyr allforio Llywodraeth Cymru wedi darparu'r cymorth ariannol a'r cyfleoedd i’r cwmni fynychu teithiau masnach go iawn i wledydd ar draws y byd, gan gynnwys De Corea, Japan a Tsieina, yn ogystal ag arddangosfeydd rhithiol gyda Dubai a Chanada, gan ei alluogi i feithrin cysylltiadau a pherthnasau â darpar gwsmeriaid a phartneriaid yn y marchnadoedd targed. 

Dywedodd Dr Patrick Dodds, Rheolwr Gyfarwyddwr Hexigone Inhibitors: “Mae disodli ïon cromad chwefalent yn sialens wirioneddol ym mhob rhan o’r diwydiant caenu ar draws y byd, am ei fod yn cael ei orfodi i newid ei brosesau.  Mae'r tîm yn Hexigone wedi gweithio'n galed dros y blynyddoedd diwethaf i ddarparu dewisiadau mwy diogel a mwy amgylcheddol gyfeillgar sy'n cydymffurfio â Rheoliadau'r UE, a hynny heb gyfaddawdu ar berfformiad.

“Mae'r farchnad fyd-eang ar gyfer ein technoleg Intelli-ion® yn aruthrol, ac mae'n gyfle pwysig dros ben i ni. Bydd allforion yn chwarae rhan sylweddol yn nhwf ein busnes wrth i ni symud ymlaen. Rydyn ni ar bwynt critigol yn ein cynllun busnes lle mae ymarferion dilysu hirfaith yn cael eu cyflawni gyda darpar-gleientiaid ar draws y byd i gyd, a bydd hyn yn llywio’r cam nesaf yn ein strategaeth allforio. Rydyn ni'n teimlo'n gyffrous i weld ein harchebion rhyngwladol cyntaf yn dod i mewn ac i weld ein cangen allforio’n tyfu dros y flwyddyn nesaf.

“Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod hwn wedi bod yn hynod o werthfawr, ac wedi agor drysau yn llawer o'r rhanbarthau rydym ni'n allforio iddynt erbyn hyn. Teithiau masnach Llywodraeth Cymru – y rhai wyneb yn wyneb a'r rhai rhithiol – sydd wedi ein galluogi ni i gwrdd â llawer o'r cwmnïau sy’n gobeithio dod yn gwsmeriaid i ni yn 2021/22.”
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen