Finalrentals - Ammar Akhtar

Platfform bwcio i logi ceir yw’r cwmni technoleg ariannol, Finalrentals ym Mhenarth. Mae’r dechnoleg yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am brisiau llogi ceir gan amrywiaeth o gwmnïau mewn lleoliad penodol, a’u cymharu.

Sefydlwyd y cwmni yn 2019 ac mae nifer y staff, nifer y cleientiaid a’r refeniw gros wedi treblu dros y 12 mis diwethaf, diolch i’w strategaeth allforio.

Gwerthiannau rhyngwladol sydd i gyfrif am 100% o fasnach Finalrentals, ac mae’r cwmni’n allforio i dros 30 o wledydd yn Ewrop, Gogledd Affrica, Gogledd America, y Caribî a’r Dwyrain Canol.

Yn dilyn llwyddiant diweddar yn Ewrop gyda chontractau newydd gwerth tua £500,000 y flwyddyn yng ngwlad Groeg, Portiwgal a gwledydd y Balcan, mae’r cwmni wedi gosod ei olygon ar ehangu ymhellach yn Ewrop, â’r nod o dreblu nifer ei gleientiaid i 100 erbyn 2025.

Mae’r cwmni wedi mynd o fod yn gwmni hollol newydd i un sy’n dibynnu’n llwyr ar farchnadoedd rhyngwladol mewn cwta pedair blynedd, a chyflymwyd llwyddiant allforio Finalrentals diolch i’r cymorth a gafodd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cymorth hwn wedi cynnwys cymorth ariannol i ymuno â Thaith Fasnach i Arfordir Gorllewin UDA, ac mae cyfleoedd ar y gweill i ymweld â marchnadoedd mewn rhanbarthau targed allweddol fel y Dwyrain Canol a De-ddwyrain Asia. Mae’r cymorth yma wedi arwain yn uniongyrchol at fusnes newydd ar gyfer y cwmni, ac wedi agor y drws i ddarpar-gleientiaid newydd mewn rhanbarthau allweddol.

Mae Finalrentals yn rhan o raglen Clwstwr Allforio Llywodraeth hefyd. Mae’r rhaglen yn tynnu cwmnïau ar draws pum sector allweddol, gan gynnwys technoleg, ynghyd fel y gallant ddysgu oddi wrth ei gilydd, rhannu arferion gorau, cael cyngor arbenigol ar allforio a datblygu galluoedd allforio ar y cyd.

Dywedodd Ammar Akhtar, sylfaenydd a Phrif Weithredwr Finalrentals: “Doedd allforio ddim yn rhan o’r cynllun twf ar y cychwyn, ond pan darodd y pandemig, fe edrychon ni ar gyfleoedd ar gyfer twf y tu hwnt i’r farchnad ddomestig. Dyna oedd y catalydd ar gyfer ein hehangiad, ac arweiniodd hynny at ein contract allforio cyntaf ym Malta.”

“Dramor, mae’r galw am ein gwasanaethau wedi tyfu eto fyth ers hynny, felly fe benderfynon ni i addasu ein strategaeth a chanolbwyntio ein hymdrechion yn llwyr ar farchnadoedd rhyngwladol. Daw 100% o’n busnes o allforion erbyn hyn, a dydyn ni ddim yn gweld y galw’n arafu yn y dyfodol agos.”

"Mae Llywodraeth Cyrmu wedi chwarae rhan arbennig yn nhwf ein hallforion dros y blynyddoedd diwethaf. Trwy ein Hymgynghorydd Masnach Ryngwladol pwrpasol, rydyn ni wedi cael ein cyflwyno i gysylltiadau a chyfleoedd newydd, ac wedi cael cyngor lleol gan agor y drws i farchnadoedd lleol ar gyfyr ein busnes. Rydyn ni wedi cael cymorth hefyd i fynychu teithiau masnach ac arddangosfeydd rhyngwladol, sydd wedi arwain yn uniongyrchol at gwsmeriaid newydd i Finalrentals.”

“Rydyn ni eisoes yn gweld llwyddiant mawr yn Ewrop, yn arbennig yn Serbia ac Albania, ac erbyn hyn rydyn ni’n bwriadu ehangu ein presenoldeb mewn marchnadoedd eraill yn Nwyrain Ewrop wrth i dwristiaeth gynyddu yn y rhanbarthau hynny. Mae Singapore a rhannau o dde-ddwyrain Asia yn farchnadoedd targed allweddol hefyd i ni o 2024 ymlaen. Rydyn ni’n cynllunio ac yn agor marchnadoedd newydd trwy gymryd rhan mewn sioeau masnach a digwyddiadau ym mhedwar ban y byd lle gallwn ni gwrdd â chysylltiadau posibl yn y rhanbarthau hyn.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen