Dulas - Catherine McLennan

Mae cwmni Dulas o Fachynlleth yn datblygu ac yn gweithredu atebion ynni adnewyddadwy i gynorthwyo cymunedau yn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig y byd.

Mae ei gynnyrch technoleg cadwyn oer, sy’n cynnwys oergelloedd solar i gadw brechiadau ar y tymheredd cywir, yn cynorthwyo rhaglenni brechu ar draws y byd er mwyn sicrhau eu bod ar gael i bawb.

Sefydlwyd y cwmni cyfranddaliadaeth sydd ym mherchnogaeth ei weithwyr ym 1982. Mae ganddo dros 60 o aelodau staff parhaol yn ei bencadlys yn y canolbarth, a’r llynedd, llwyddodd i werthu gwerth dros £7 miliwn o nwyddau’n rhyngwladol diolch i’w strategaeth allforio.

Allforion sydd i gyfrif am 60% o fasnach Dulas, ac mae’r cwmni’n allforio ei gynnyrch i dros 80 o wledydd ac i rai o fannau mwyaf anghysbell y byd, mewn ardaloedd fel America Ladin, Asia, y Dwyrain Canol ac Affrica Is-Sahara.

Yn dilyn llwyddiannau diweddar, fel ennill nifer o gontractau newydd yng Ngorllewin Affrica, gan gynnwys archeb gwerth dros £1.5 miliwn gan sefydliad anllywodraethol rhyngwladol, mae bryd y cwmni ar ehangu eto fyth, â’r nod o gynyddu ei werthiannau a chryfhau ei gapasiti lleol ar draws y rhanbarth.

Mae allforion Dulas wedi tyfu mewn blynyddoedd diweddar diolch i’r cymorth ymchwil a datblygu y mae’r cwmni wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi ei gynorthwyo i gynyddu ei bortffolio o gynnyrch ac ennill achrediad PQS manwl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Mae bodloni’r safonau hyn yn caniatáu i Dulas barhau i ddarparu systemau rheweiddio solar ar gyfer cymunedau ym mhedwar ban y byd.

Mae hyn wedi cynnwys cymorth ariannol i ymweld a marchnadoedd newydd er mwyn targedu gwledydd fel Kenya, Dubai a Phanama, sydd wedi arwain un uniongyrchol at fusnes newydd i'r cwmni, a chysylltiadau a phartneiriaid a chleientiaid newydd mewn gwledydd allweddol. 

Dywedodd Catherine McLennan, Arweinydd Masnachol Dulas: “Mae cefnogaeth a chyngor Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant allforio. Maen nhw wedi helpu i godi ymwybyddiaeth am ein brand mewn rhanbarthau newydd, ac wedi ein galluogi ni i ddod o hyd i wybodaeth newydd a pherthnasol am y farchnad.

Mae’r teithiau masnach wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i ni, gyda sylw ar lawr gwlad yn arwain yn uniongyrchol at bartneriaethau lleol newydd. Y brif her gyda’n hallforion yw’r  logisteg o gael ein cynnyrch i’r lleoliad perthnasol. Mae ein cynnyrch yn cael ei ddefnyddio yn rhai o ardaloedd mwyaf anghysbell y byd, ac yn aml mae angen iddynt gael eu cludo ar awyren, cwch, tryc neu hyd yn oed â llaw er mwyn teithio’r ‘filltir olaf’ yna.

“Mae hi’n hanfodol i’n busnes fod gennym bartneriaid â gwybodaeth leol arbenigol yn y wlad o dan sylw, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ein cynorthwyo ni i feithrin partneriaethau sy’n caniatáu i ni ehangu ein rhwydweithiau a darparu cynnyrch ar gyfer ein cleientiaid.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen