Concrete Canvas - Company photo

Mae Concrete Canvas, cwmni gweithgynhyrchu o Bont-y-clun, yn cynhyrchu ffabrig concrit hyblyg sy’n cael ei ddefnyddio mewn prosiectau adeiladu a pheirianneg sifil ar draws y byd.

 

Sefydlwyd y cwmni yn 2005, a gosododd Concrete Canvas ei olygon ar ehangu’n rhyngwladol yn gynnar yn y broses, gan ddiogelu ei gontract allforio cyntaf, yn Asia, yn 2009.

Er taw defnydd gwreiddiol y cynnyrch oedd helpu i leddfu effeithiau trychinebau, agorodd ymweliadau a marchnadoedd tramor y drws i ddiddordeb rhyngwladol mewn defnyddio'r deunyddiau mewn meysydd eraill, gan gynnwys adeiladu llochesi a phrosiectau rheoli dwr. Ar ol datblygu cynnyrch arleosol y cwmni, CCX, a ddyluniwyd yn benodol i leinio camlesi er mwyn a atal erydiad a lleihau colledion trwy dryddiferu, mae Concrete Canvas wedi cael mwy o y waith ym maes y seilwaith dwr.

Ers hynny, mae diddordeb y sector peirianneg sifil yng nghynnyrch Concrete Canvas wedi cynyddu’n fawr, gan arwain at dwf cyflym gartref a thramor. Erbyn hyn, mae’r busnes yn cyflogi 70 o aelodau staff llawn-amser yn ei bencadlys ym Mhont-y-clun a disgwylir iddo ragori ar £15 miliwn o refeniw allforio eleni.

Allforion sydd i gyfrif am 85%o fasnach Concrete Canvas, gyda’r cwmni’n gweithio mewn dros 80 o wledydd ar draws Awstralia, Gogledd America, Ewrop a De-ddwyrain Asia.

Gyda thwf sylweddol mewn allforion i UDA dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys penodi 12 o ddosbarthwyr newydd, mae Concrete Canvas yn disgwyl treblu ei werthiannau yng Ngogledd America erbyn 2025, a bydd hynny i gyfrif am 30% o’i allforion byd-eang.

Yr allwedd i lwyddiant allforio Concrete Canvas yw ei bresenoldeb rheolaidd mewn sioeau masnach ac ar deithiau masnach gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Mae’r cymorth yma wedi caniatáu i’r cwmni gwrdd â darpar-gwsmeriaid newydd ym mhedwar ban y byd, gan arwain yn uniongyrchol at fusnes newydd.

Mae’r cwmni’n defnyddio Hyb Allforion  arlein Busnes Cymru’n rheolaidd i gyflawni ymchwil i’r farchnad a dilysu gwybodaeth, gan gynnwys tariffau mewnforio. Yn ogystal, mae’r cwmni’n aelod o’r ‘rhaglen Clwstwr Allforio’, sy’n tynnu cwmnïau o bum sector allweddol ynghyd, gan gynnwys Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel, er mwyn dysgu oddi wrth ei gilydd, rhannu arferion gorau, cael cyngor arbenigol ar allforio a datblygu galluoedd allforio ar y cyd.

Dywedodd Will Crawford, cyfarwyddwr Concrete Canvas:“Mae hi wedi bod yn anhygoel gweld sut mae allforio wedi trawsnewid ein ffrydiau refeniw yn llwyr. Erbyn hyn mae gennym tua 60 o ddosbarthwyr ar draws y byd sydd â chontractau unigryw i werthu ein cynnyrch. Mae cael rhwydwaith byd-eang wedi cyflymu ein twf, ac rydym  yn gryfach nawr i wrthsefyll unrhyw broblemau yn y farchnad.

Rhan bwysig o’n llwyddiant yw dod o hyd i’r partneriaid gwerthu cywir ar lawr gwlad mewn marchnadoedd newydd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol wrth ein helpu ni i gyflawni hyn. Mae mentro i farchnadoedd rhyngwladol newydd yn gallu bod yn her, yn arbennig wrth addysgu’r farchnad am y deunyddiau newydd ac arloesol rydym yn eu cynhyrchu. Mae cael pobl ar lawr gwlad wedi bod yn amhrisiadwy wrth agor drysau i ni, ac wrth fagu hyder yn ein cynnyrch mewn tiriogaethau newydd.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen