Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â WindEurope yn Copenhagen, Denmarc.
Pam WindEurope?
WindEurope yw un o arddangosfeydd a chynadleddau mwyaf Ewrop sy’n canolbwyntio ar y sector ynni gwynt ar y tir ac ar y môr.
Mae WindEurope wedi ymuno eto â dinas Copenhagen a'i phartneriaid o Ddenmarc i ddarparu cynulliad eang arall i’r diwydiant - Digwyddiad Blynyddol WindEurope 2025 yn Copenhagen.
Denmarc yw man geni ynni gwynt ac mae pobl Denmarc yn dal i dorri tir newydd yn y maes pŵer gwynt. Denmarc yw'r unig wlad yn Ewrop i ddefnyddio gwynt ar gyfer mwy na hanner ei thrydan - hyd at 55%. Cafwyd y presenoldeb mwyaf erioed yn WindEurope yn 2023 gyda bron i 16,000 o gyfranogwyr ac mae’n disgwyl y duedd hon yn 2025.
Pam Mynd ar yr Ymweliad?
Rydym yn ymuno â rhanbarthau eraill y DU i greu pafiliwn y DU, gan arddangos yr hyn sy'n gwneud Prydain yn arweinydd byd-eang o ran ynni gwynt ar y tir ac ar y môr.
Ni fydd gan gwmnïau eu lle unigol yn y pafiliwn ond, fel Cynrychiolydd Cenhadaeth Cymru, byddwch yn cael eich rhestru yng nghatalog sioe WindEurope, a bydd gennych ddefnydd llawn o'r ardal gyfarfod a rennir, gan ei gwneud hi'n hawdd cwrdd â hen gleientiaid a rhai newydd.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:
• Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
• Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
• Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
• Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
• Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi* cwmnïau i gymryd rhan yn WindEurope.
Y gost yw £750 sy’n cynnwys:
• Hedfan allan ac yn ôl a throsglwyddiadau yn y farchnad (os yn teithio’r ddwyffordd gyda’r grŵp craidd)
• 3 noson o lety gan gynnwys brecwast (Dydd Llun – Dydd Ian)
• Tocyn ymwelwyr 3 diwrnod
• Cofnod ar-lein/catalog
• Mynychu digwyddiadau yn y farchnad
• Cael eich cynnwys yn llyfryn hyrwyddo pafiliwn y DU a marchnata Llywodraeth Cymru
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
• Defnydd o gofod a rennir pafiliwn y DU
Mae’r cynnig hwn ar gael i un gynrychiolydd o bob cwmni.
Manylion y Digwyddiad
Pryd - 7-11 Ebrill 2025
Sectorau – WindEurope
Ble – Copenhagen, Denmarc
Trefn
7 Ebrill – Gadael am Copenhagen
8-10 Ebrill – WindEurope / cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd
10 Ebrill – Dychwelyd i Gymru.
Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig help un o’n hymgynghorwyr busnes i drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Sylwch, os hoffech y gwasanaeth hwn, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn ymweliad y farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael.
Os cyflwynir eich cais ar ôl yr amser hwn 24 Ionawr 2025, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
24 Ionawr 2025 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
7 Chwefror 2025 (Teithio yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru
*Os bydd lle ar gael.