Yellow and Blue (YAB)

Image removed.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r grŵp Yellow and Blue (YAB) yn hyb cymunedol sydd wedi ei seilio yn Wrecsam. Mae’n cynnig cymorth i aelodau mwyaf bregus y gymuned drwy gynnal hyb newydd i unrhyw grŵp o bobl yn y gymuned.

Pam ei fod yn bwysig?

Aeth Pete Humphreys ati i greu YAB fel elusen ar-lein yn dilyn marwolaeth ei dad o ganser y coluddyn, a’i nod dymor hir oedd sefydlu hyb cymunedol i helpu pob math o bobl fregus.

Menter gymdeithasol ddi-elw yw YAB ac mae’n darparu cymorth a gweithgareddau i bobl fregus, gan chwarae rôl hanfodol fel canolfan weithgareddau a safle gweithdai yn ystod y dydd a bistro cymunedol gyda’r nos.

Mae’r prosiect wedi darparu lle cyfarfod diogel i bobl sydd â salwch terfynol, problemau iechyd meddwl, anawsterau dysgu ac unigolion sy’n ddigartref. Mae hyn wedi cael effaith gymdeithasol enfawr ar aelodau o’r gymuned – ar sail ei genhadaeth gymdeithasol i ‘Esgyn drwy Godi Eraill’

 

Sut rydym wedi helpu

Cafodd YAB ei gefnogi ar y cychwyn gan raglen ‘Dechrau o’r Newydd’ Busnes Cymdeithasol Cymru ond cafodd ei drosglwyddo i’r rhaglen ‘Twf’ ym mis Hydref 2020 pan oedd yn gobeithio ehangu i safleoedd newydd yng nghanol Wrecsam. Darparodd Busnes Cymdeithasol Cymru gyngor a chefnogaeth yn ystod yr ehangiad hwn a bu’n helpu i ddatblygu a chydlynu strategaeth wirfoddoli a chynllun fframwaith gweithredol i fyddin fach YAB o wirfoddolwyr brwd.

 

Effaith y cymorth

Mae’r cynllun gweithredol a’r strategaeth a gynhyrchwyd ym mis Mawrth 2021 wedi darparu dull pragmatig i YAB ddarparu ei wasanaethau dyddiol, gan ganiatáu i Reolwyr Prosiect a gwirfoddolwyr allweddol gymryd cam yn ôl ac hefyd sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio, eu cefnogi a’u gwerthfawrogi’n iawn yn yr hyb.

 

Meddai Rheolwr y Prosiect Pete Humphreys “Rydw i wedi elwa’n enfawr o’r gwasanaeth a’r gefnogaeth gan Fusnes Cymdeithasol Cymru. Mae ein Cynghorwr Busnes, Jacqui, yn rhywun y gallaf ymddiried ynddi a galw arni, a hi sydd wedi dod â mi i’r sefyllfa rwyf ynddi heddiw. Byddai’n amhosibl gwerthfawrogi’r cymorth mewn ffordd ariannol; mewn geiriau syml, mae wedi bod o gymorth enfawr i mi. Diolch o galon.”

 

Mae dylanwad y fframwaith cadarn hwn ar y gymuned ehangach yn ystod y pandemig wedi bod yn ddirfawr, yn enwedig i un gŵr digartref oedd yn gwirfoddoli yn yr hyb. Bob bore, byddai’n helpu drwy sandio a pheintio cadeiriau i’w huwchgylchu, ac yn aml iawn byddai’n cael bwyd gyda gwirfoddolwyr YAB. Rhoddodd hyn gyfle iddo dderbyn cymorth gyda materion personol a gweddnewid ei fywyd yn llwyr.

Heddiw, mae wedi llwyddo i drefnu ei bensiwn, symud oddi ar y strydoedd a chael swydd ym myd masnach. Nid yn unig hynny, ond mae wedi rhoi teledu mawr yn hael iawn i’r hyb o’i daliad pensiwn fel bod pobl gydag anawsterau dysgu’n gallu gwylio’r teledu pan fyddan nhw’n ymweld â’r lle. Mae profiad y gŵr hwn o’r hyb wedi gwyrdroi ei fywyd yn llwyr ac mae hynny’n dangos mor rymus yw mentrau cymorth cymunedol fel YAB a’u heffaith gymdeithasol.

 

Ariennir Busnes Cymdeithasol Cymru gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei ddarparu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.