Practis Deintyddol Gateway
Bod yn berchen ar ein dyfodol
I gadw ein dyfodol mewn practis sy’n ceisio cyrraedd rhagoriaeth glinigol o fewn y GiG
-
Pob un o’n haelodau staff eu gwobrwyo am eu cyfraniad i’r busnes presennol, a chael perchnogaeth gyfartal o’i ddyfodol
-
10,000 = Nifer y cleifion rydym yn eu gwasanaethu
-
100 canran cyfrannau’r cwmni sy’n perthyn i’r gweithwyr
-
Rydym o’r farn y dylai practisau iechyd eraill yng Nghymru fabwysiadu’r model ymddiriedolaeth perchnogaeth gweithwyr er mwyn sicrhau sefydlogrwydd i’r GiG yn y dyfodol
“Roedd Busnes Cymdeithasol Cymru yn ffynhonnell amhrisiadwy o gymorth a chefnogaeth ar ddechrau ein taith at ddod yn bractis deintyddol dan berchenogaeth gydweithredol cyntaf Cymru, ac mae'r cymorth a'r gefnogaeth wedi parhau trwy gydol y broses hyd yma. Credwn y bydd ein profiad yn fodel ar gyfer practisau gofal iechyd cynaliadwy yn y dyfodol".
Hannah Hutchison, Practis Deinyddol Gateway
Mae llawer o fusnesau llwyddiannus yn methu oherwydd nad yw olyniaeth yn cael ei drafod yn ddigonol. Gall hyn arwain at golli swyddi, colli contractau cyflenwyr a busnesau’n cau. Mae gan Busnes Cymdeithasol Cymru arbenigedd mewn cynllunio olyniaeth ac arwain busnesau trwy’r broses brynu gan weithwyr.
I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.