Outside Lives 

Image removed.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Outside Lives yn fenter gymdeithasol dan arweiniad y gymuned a gafodd ei sefydlu ‘gan y bobl, ar gyfer y bobl’. Mae’n mynd ati i gysylltu aelodau o’r gymuned â’i gilydd drwy gyd-ddiddordebau, gweithgareddau a digwyddiadau sydd wedi eu seilio ar gynaliadwyedd a’r amgylchedd. Nod y sefydliad yw diogelu’r ddaear drwy gefnogi lles a thwf personol drwy gyfrwng natur.

 

Pam ei fod yn bwysig?

Mae Outside Lives yn gweithio drwy aelodau ei gymuned a’i bartneriaid i lunio a chreu gweithgareddau ar y cyd sy’n ystyrlon a phwrpasol ac sy’n helpu i gryfhau perthnasoedd a ffurfio rhwydweithiau.

 

Mae’r fenter wedi ei seilio ar ddathlu ac amddiffyn y byd naturiol, gan ofalu am y Ddaear drwy gynyddu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o’r byd naturiol. Ei gweledigaeth glir yw darparu lle a gweithgareddau paramaethu awyr agored sy’n hyrwyddo technegau a dulliau o fyw cynaliadwy i ysbrydoli’r aelodau i gyfyngu eu hôl troed carbon. Mae’n darparu addysg i grwpiau am fwyd, lloches a strwythurau cymdeithasol i bobl ar y cyrion a’u teuluoedd.

 

Gwneir hyn i gyd gydag ymrwymiad i feithrin cynhwysiant a diwylliant o amrywiaeth sy’n cynnig cyfleoedd dilys i bawb, waeth beth yw eu hoedran, hil, rhywedd neu allu, ac sydd â syniadau a diddordebau cyffredin, gan arwain at berthnasoedd newydd a gwell iechyd a lles cyffredinol.

 

Sut rydym wedi helpu

Cysylltodd Outside Lives â Busnes Cymdeithasol Cymru i ofyn am gefnogaeth gydag ehangu eu cyflogaeth a nifer eu gwirfoddolwyr. Aeth y tîm ati i gomisiynu Easy Read UK i gynhyrchu fersiynau hawdd eu darllen o dri pholisi (Polisi Disgyblaeth, Polisi Gweithdrefn, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a’r Polisi Iechyd a Diogelwch).

Bu Busnes Cymdeithasol Cymru hefyd yn helpu i gynhyrchu fersiynau fideo wedi’u hanimeiddio o’r polisïau a’r gweithdrefnau hyn i gysylltu’n well â phobl sydd ag anableddau dysgu. Yn ogystal, bu Busnes Cymdeithasol Cymru’n helpu Outside Lives i wneud cais am gyllid grant i gynhyrchu hysbyseb recriwtio, disgrifiad swydd a ffurflen gais mewn fformat hawdd ei ddarllen i’w galluogi i gyflogi pobl sydd ag anableddau dysgu.

 

Effaith y gefnogaeth

Mae’r cymorth hwn wedi helpu Outside Lives i greu llwybrau mwy cynhwysol i aelodau o’r gymuned sy’n agored i niwed fel y gallant gymryd rhan yn y prosiect, gan ostwng y rhwystrau i gynhwysiant a helpu mwy o’r gymuned i gysylltu nag erioed o’r blaen. Roedd y Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Lucy Powell yn llawn canmoliaeth am Fusnes Cymdeithasol Cymru a dywedodd, “Am ein bod ni’n newydd i’r busnes, mae ein Cynghorydd Busnes Jacqui Cross wedi rhoi gwasanaeth hynod o werthfawr i mi ac i’r busnes ac ni fyddem yn y sefyllfa yr ydym ynddi heb ei chyfraniad hi.

Mae’n rhoi tawelwch meddwl mawr i mi bod Jacqui yno i’n tywys ni drwy’r prosesau ac mae’n rhoi hyder i mi i ddysgu a thyfu fel Cyfarwyddwr menter gymdeithasol. Mae Jacqui yn ased i Fusnes Cymdeithasol Cymru ac rwy’n argymell ei gwasanaethau i bobl pan fyddaf yn gweld bod eu hangen.”

 

Ariennir Busnes Cymdeithasol Cymru gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei ddarparu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.