Mae pa fath o sefydliad yw’ch busnes cymdeithasol yn dibynnu ar y ffordd rydych chi’n ystyried eich menter ac yn ei chyflwyno i’r byd.
Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng y math o sefydliad a’r ffurf gyfreithiol, sef sut mae’r fenter yn cael ei hystyried yn ôl y gyfraith.
Er enghraifft, mae menter gymdeithasol yn fath o sefydliad a allai ddefnyddio cwmni, cymdeithas, cwmni budd cymunedol neu bartneriaeth fel ei ffurf gyfreithiol.
Mathau o sefydliadau menter gymdeithasol
Rhestrir isod rai o’r mathau cyffredin o sefydliadau a ddefnyddir gan fusnesau cymdeithasol:
Menter Gymdeithasol
Busnes sydd ag amcanion cymdeithasol yn bennaf. Mae’r elw’n cael ei ailfuddsoddi yn y busnes neu’r gymuned at ei gilydd, yn hytrach na’i gynyddu i’r eithaf ar gyfer cyfranddalwyr a pherchnogion. Mae Menter Gymunedol hefyd yn fath o gwmni menter gymdeithasol a berchnogir ac a gynhelir gan gymuned ddaearyddol neu gymuned sydd â diddordeb a rennir.
Busnes cydweithredol
Cymdeithas ymreolaethol o unigolion sydd wedi’u huno mewn menter a berchnogir ar y cyd ac a reolir yn ddemocrataidd (diffiniad y Gynghrair Gydweithredol Ryngwladol). Maen nhw’n gweithio’n wirfoddol i fodloni anghenion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cyffredin. Gellir rhannu busnes cydweithredol yn nifer o is-gategorïau:
- Mae cwmnïau cydweithredol gweithwyr yn cael eu perchen a’u cynnal gan eu gweithwyr
- Mae cwmnïau cydweithredol tai yn cael eu perchen a’u cynnal gan eu tenantiaid
- Mae cwmnïau cydweithredol defnyddwyr yn cael eu perchen a’u cynnal gan eu cwsmeriaid
- Mae consortia cydweithredol yn cael eu perchen a’u cynnal gan fusnesau eraill sy’n defnyddio gwasanaethau’r fenter
- Mae cwmnïau cydweithredol aml-randdeiliad yn gallu bod yn gymysgedd o unrhyw un neu bob un o’r uchod
Mathau eraill o gwmnïau menter gymdeithasol
Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol - sefydliad a grëwyd i ddal tir fel ased i’w ddefnyddio gan y gymuned.
Undeb Credyd yn - sefydliad ariannol nid er elw a berchnogir ac a weithredir yn gyfan gwbl gan ei aelodau.
Ymddiriedolaeth Ddatblygu – menter gymunedol sy’n sicrhau ac yn rheoli asedau cymunedol.
Cwmni Cymdeithasol – busnes sydd wedi ymrwymo i greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer y bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur.
Cychwyn menter gymdeithasol
Gall unigolyn fasnachu at ddiben cymdeithasol fel unig fasnachwr o hyd a’i alw ei hun yn fusnes cymdeithasol. Yn wir, nid oes llawer o ddeddfwriaeth na rheoleiddio ynglŷn â defnyddio mathau o sefydliadau wrth frandio neu farchnata busnes. Gallech fod â sawl math o sefydliad, ond dim ond un ffurf gyfreithiol.
Pan fyddwch wedi ymgyfarwyddo â’r gwahanol fathau o fusnesau cymdeithasol, mae’n bryd dewis ffurf gyfreithiol ar gyfer eich busnes cymdeithasol.
Mae gwefan Busnes Cymru yn cynnig mwy o adnoddau ar fathau o sefydliadau mentrau cymdeithasol.