Mae lled-ecwiti, neu lled-gyfalaf fel y’i gelwir hefyd, yn fath o ddyled sy’n rhannu rhai nodweddion gydag ecwiti.
Mae’r nodweddion yn cynnwys telerau ad-dalu hyblyg neu ddyled israddol. Golyga hyn fod lled-ecwiti naill ai’n ansicredig neu’n cael llai o flaenoriaeth na dyled arall.
Pryd mae lled-ecwiti’n cael ei ddefnyddio?
Mae lled-ecwiti’n cael ei ffafrio fel ffynhonnell gyllid pan nad yw cyfalaf cyfranddaliadau a chyllid dyled yn bosibl, e.e. oherwydd strwythur cyfreithiol y sefydliad. Mae strwythur y lled-fuddsoddiad yn seiliedig ar y llif arian a ragamcanir i’r busnes.
Yn wahanol i fenthyciadau, mae lled-ecwiti yn dibynnu ar berfformiad y cwmni yn y dyfodol. Golyga hyn, os nad yw’r fenter yn cyflawni’r perfformiad ariannol sydd wedi’i ragamcanu iddi, y gallai’r buddsoddwyr gael ychydig iawn o adenillion, os o gwbl. Ar y llaw arall, os bydd y sefydliad yn perfformio’n well na’r disgwyl, bydd y benthycwyr yn cael adenillion ariannol uwch.
Gall unrhyw gwmni ddefnyddio lled-ecwiti, ond mae’n fwyaf buddiol i fentrau cymdeithasol nad allant gynnig cyfranddaliadau, neu mewn sefyllfa lle byddai benthyciad yn rhy fentrus. Prif fantais lled-ecwiti o’i gymharu â dewisiadau eraill yw dosbarthiad cytbwys risg a gwobr rhwng y benthyciwr a’r buddsoddwr.
Mae stoc benthyg, bondiau a dyledebau yn enghreifftiau o led-ecwiti;