Mae Heroes Rights CIC yn fusnes cymdeithasol sy’n helpu teuluoedd i ddelio â materion fel trais domestig, camddefnyddio sylweddau a salwch meddwl. Roedd y tîm o gwnselwyr hyfforddedig eisoes yn darparu cymorth hanfodol i deuluoedd oedd yn profi argyfwng, ond roedd yn awyddus i fynd gam ymhellach a datblygu canolfan gymorth gymunedol benodedig. Mae cymorth gan Fusnes Cymdeithasol Cymru wedi’u helpu i gymryd y camau cyntaf tuag at wireddu’r nod uchelgeisiol hon.

Pam?

Caiff Heroes Rights CIC ei redeg gan Tammi Owen a Max Chadwick, sef cwnselwyr hyfforddedig ac ymarferwyr lles sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda theuluoedd sy’n cyrraedd pen eu tennyn. Maen nhw’n gweithio gyda phobl y mae eu perthnasoedd yn mynd trwy gyfnod o argyfwng, ac yn rhoi cymorth iddyn nhw roi’r gorau i ymddygiad camdriniol fel trais domestig, hunan-niweidio, troseddu a chamddefnyddio sylweddau.

Roedd Tammi a Max eisiau datblygu eu dull o dan un to trwy sefydlu canolfan gymorth gymunedol. Gofynnon nhw i Fusnes Cymdeithasol Cymru eu helpu i ddatblygu cynllun busnes i’w galluogi i ddechrau siarad â phartneriaid a darparwyr cyllid.

Sut?

Gweithiodd Busnes Cymdeithasol Cymru gyda’r Cyfarwyddwyr i gynhyrchu cynllun busnes llawn, yn ogystal â hyfforddi’r Cyfarwyddwyr cymunedol newydd ynghylch yr hawliau a chyfrifoldebau sydd ynghlwm â bod yn Gyfarwyddwr ar gwmni.

Effaith

Mae’r cynllun busnes eisoes wedi helpu Heroes Rights i ddenu cymorth gan bartneriaid lleol fel y Gymdeithas Rotari a’r Siambr Fasnach.

Mae’r ddau Gyfarwyddwr yn teimlo’n hyderus am eu cynlluniau ac maen nhw wrthi’n cyd-drafod â’r awdurdod lleol a’r Gronfa Loteri Fawr i’w helpu i sicrhau safle addas.

Gallwn helpu eich busnes hefyd


Llenwch y ffurflen hon a dywedwch wrthym am eich nodau busnes a byddwn yn dweud wrthych sut y gallwn helpu