Creating Enterprise CIC

Man setting up a fence

Rhagoriaeth mewn effaith, dyluniad a thwf

Rydym yn cynnig model cyflwyno unigryw i unrhyw sefydliad sydd angen gwaith cynnal a chadw ac adeiladu

  • £1.5m rhagolygon ar gyfer trosiant masnachu am ddwy flynedd

  • 40 y swyddi newydd a grëwyd yn y flwyddyn gyntaf

  • Gynnig cyflogaeth a sgiliau newydd i denantiaid di-waith Cartrefi Conwy

  • Cynaliadwy? Nid ydym yn ddibynnol ar gyllid grant. Mae ein holl waith yn seiliedig ar dermau masnachol, a rhaid iddo fodloni safonau ansawdd, cael ei gyflwyno ar amser ac o fewn y pris

"Roeddem yn falch iawn o ennill gwobr mor glodwiw, a hynny er syndod mawr i ni, gan fod safon y gystadleuaeth mor uchel. Roedd ennill y wobr yn hwb mawr i bob un ohonom sy'n ymwneud â'r sefydliad, ac roeddem i gyd yn hynod falch o'r gydnabyddiaeth. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y dyfodol, ac mae gennym lawer o ddatblygiadau newydd yn yr arfaeth. Mae ein tîm yn tyfu'n gyflym wrth i ni ennill gwaith newydd, ac rydym yn gallu cynnig mwy o gyfleoedd am swyddi i bobl sy'n ddi-waith yn ein hardal leol".

Sharon Jones, Cyfarwyddwr Busnes a Phartneriaethau

Two men setting up a fence

 


Os hoffech arweiniad ar greu gweledigaeth a chynllunio twf, dolenni i gysylltiadau gwerthfawr ac, yn bwysicaf oll, seinfwrdd digynnwrf, gall tîm Busnes Cymdeithasol Cymru gyflawni hyn oll, a mwy.

I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.