Canolfan Hamdden Treffynnon
Cymorth Busnes Cymdeithasol Cymru yn helpu i achub canolfan hamdden a’i gweithlu
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Canolfan Hamdden Treffynnon wedi wynebu’r posibilrwydd o gau yn sgil toriadau gan Gyngor Sir y Fflint. Roedd y staff a oedd yn gweithio yno eisiau achub y cyfleuster a’u swyddi, felly roeddent eisiau archwilio’r opsiwn o drosglwyddo asedau cymunedol, fel yr oedd Cambrian Aquatics (Canolfan Hamdden Cei Connah) gerllaw wedi’i wneud. Daeth grŵp at ei gilydd i archwilio’r opsiynau posibl, gan gynnwys bwrdd o ymddiriedolwyr, rhai ohonynt â phrofiad busnes, ond heb unrhyw wybodaeth am drosglwyddo asedau cymunedol.
Cysylltodd aeld o dîm rheoli’r Ganolfan â Busnes Cymdeithasol Cymru i weld a oedd cwmpas i ddatblygu’r cyfleuster fel menter a fyddai’n cael ei rhedeg gan y gymuned, neu y byddai’r gweithwyr yn berchen arni.
Rhoddodd Busnes Cymdeithasol Cymru gyngor i Ganolfan Hamdden Treffynnon ar y broses trosglwyddo asedau, er mwyn gallu ei symud o berchnogaeth yr awdurdod lleol. Yn sgil hyn, trosglwyddwyd y staff trwy broses TUPE (Rheoliadau Trosglwyddo – Diogelu Cyflogaeth), gan y teimlwyd yr oeddent yn ganolog i lwyddiant y sefydliad. Cyn i hyn allu digwydd, fe wnaeth Busnes Cymdeithasol Cymru gynorthwyo rheolwyr y Ganolfan i gadw hawliau’r gweithwyr a rhoi model busnes effeithiol ar waith. O ganlyniad i drosglwyddo asedau cymunedol a phroses TUPE process, diogelwyd 47 o bobl rhag colli eu swyddi.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae llond llaw o staff llanw wedi derbyn hyfforddiant ac wedi ennill cymwysterau sy’n eu rhoi nhw mewn sefyllfalle gallai eu swyddi fod yn rhai parhaol yn y dyfodol agos. Byddai hyn yn amlwg yn hybu nifer y staff, ond bydd hefyd yn cynyddu lefel hyglygrwydd o ran darparu gwasanaeth, oherwydd y gall nifer o aelodau o staff fod yn gyfrigol am nifer o dasgau a rolau yn y Ganolfan, fel gweithlu aml-fedrus.
Yn ogystal â chanolfan hamdden â nifer o weithgareddau a dosbarthiadau dan do ac awyr agored, mae llyfrgell a chaffi ar y safle, man cyfarfod, clwb crefftau a chlwb llyfrau. Mae hyn yn golygu bod y Ganolfan yn cael ei hystyried yn hwb gymunedol, a chaiff ei thrin felly gan y bobl sy’n byw yn y dref. Mae’r cyfleuster yn y broses o ddatblygu llifoedd incwm newydd, trwy logi’r brif neuadd allan fel lleoliad priodas a chynhadledd. Sylwer bod cynnydd wedi bod yn nifer y teuluoedd ifanc sy’n defnyddio’r Ganolfan. Mae’r Ganolfan yn cynnig rhywbeth i bobl o bob oed.
Roedd cymorth Busnes Cymdeithasol Cymru hefyd yn cynnwys Systemau Rheoli’r Amgylchedd, sydd wedi helpu’r Ganolfan i arbed arian trwy adolygu’r ffordd y mae’n defnyddio ei foeler a’i system wresogi.
Gwnaed dadansoddi TAW yn bosibl trwy gymorth Busnes Cymdeithasol Cymru, a helpu i wneud cynllun busnes y Ganolfan yn bosibl trwy wella maint yr elw. Ac o safbwynt adnoddau dynol, darparwyd cymorth ychwanegol i ddatblygu llawlyfr staff newydd, a oedd yn un o elfennau diwethaf y broses o drosglwyddo o berchnogaeth awdurdod lleol. Roedd y llawlyfr wedi cael ei deilwra hefyd ar gyfer staff heb fod yn rhai TUPE, i’w gwneud hi’n haws i’r ganolfan gyflogi pobl yn y dyfodol.
Tudor Jones, Cadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr, Canolfan Hamdden Treffynnon:
“Roedd yn amlwg o’r dechrau bod gan Busnes Cymdeithasol Cymru llawer i’w gynnig, a bod gennym ni, fel ymddiriedolwyr, lawer i’w ennill. Roedd angen cyngor technegol arnom ar adnoddau dynol, TAW, ac ati. Er enghraifft, roedd angen i ni ddysgu am fuddion TAW - nid oeddem ni’n gwybod beth oedden nhw a sut roedden nhw’n gweithio. Roedd rhaid i ni gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau hefyd. Roedd y cymorth ar gyfer TAW yn mynd i fod yn hanfodol i’n helpu ni i gyflwyno achos busnes dichonadwy ar gyfer y fersiwn newydd ei ffurfio o’r Ganolfan a oedd yn cael ei rhedeg gan y gweithwyr. Byddwn i’n dweud wrthych i ceisio cyngor bob amser, a cheisio cyngor gan bobl ag arbenigedd a phrofiad, a’r ewyllys i’ch cynorthwyo chi ym mhob ffordd posibl. Roedd hyn yn wir am Busnes Cymdeithasol Cymru.”
Eifion Williams, Cynghorydd Busnes, Busnes Cymdeithasol Cymru:
“Roedd yn bleser gweithio gyda Tudor a’r tîm yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon. Maen nhw wedi cyflawni llawer i gyrraedd lle maen nhw ac roedd yn dda gwybod y gallai Busnes Cymdeithasol Cymru eu helpu nhw gyda’r holl bethau i drosglwyddo asedau cymunedol a diogelu’r gweithlu. Fel busnes cymdeithasol, mae’r Ganolfan mewn safle da i barhau i dyfu yn y dyfodol.”