Cambrian Aquatics
Plymio i gyfnod newydd
Flwyddyn yn on, cwblhnawyd trosglwyddiad asedau Pwll Nofio Cei Connah o Gyngor Sir y Fflint, ac mae pethau wedi mynd o nerth i nerth.
- Rydym wedi ymestyn darpariaeth y pwll, gyda rhaglenni nofio anabl a pherfformiad uchel, ac rydym ar y ffordd i fod yn brif sefydliad dysgu nofio'r ardal.
-
27 o swyddi wedi eu creu ar ôl y trosglwydd
-
64 o chwaraeon dŵr yn cael eu darparu
-
Rydym eisiau cynnig llwybr go iawn i bobl ifanc allu adeiladu gyrfa yn y diwydiant hamdden
“Mae Cambrian Aquatics yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth y mae wedi ei chael gan Busnes Cymdeithasol Cymru, ar ôl iddo ein cynghori ar strwythur ein busnes a'n tywys trwy'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol. Mae'r gefnogaeth wedi parhau dros oes ein busnes, ac rydym wedi cael cymorth ym maes Adnoddau Dynol, yr amgylchedd, a modelu busnes, er mwyn helpu i greu menter gymdeithasol gynaliadwy”.
Simon Morgan, Cadeirydd Cambrian Aquatics
Mae busnesau cymdeithasol yn fodel credadwy i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Os yw eich cymuned yn awyddus i ddod â gwasanaeth cyhoeddus i berchnogaeth gymunedol, mae gan Busnes Cymdeithasol Cymru'r arbenigedd i’w wneud yn realiti.
I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru.