Allied Construction Consortium Ltd (ACC Ltd)
Yn gryfach gyda’n gilydd trwy weithio fel consortia
Mae ACC Ltd, yng Nghaerffili, yn gonsortiwm o dri BBaCh sydd â sgiliau ac adnoddau ategol cyfunol er mwyn cystadlu â chwmnïau adeiladu llawer mwy. Mae ACC Ltd eisoes wedi elwa ar yr ymagwedd gydweithredol hon, gyda chontract adnewyddu allanol yn Nhredegar Newydd, gwerth £1.2m, yn cael ei gyflawni gan y consortia eleni.
“Mae meddwl tua’r dyfodol gan Gyngor Bwrdeistref Caerffili a Chanolfan Cydweithredol Cymru a dyhead i fanteisio ar ganllaw gwneud cais ar y cyd Llywodraeth Cymru wedi creu cyfle gwerthfawr i dri BBaCh lleol dyfu eu busnesau fel cwmnïau unigol.”
Steve Jones, Allied Construction Consortium Ltd
Gall consortiwm â strwythur da eich helpu i dyfu eich busnes a datblygu llifoedd incwm ffres ar gyfer pob partner cysylltiedig. Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn arbenigwyr mewn helpu masnachwyr unigol, BBaChau, a chwmnïau mawr i ddatblygu consortia cydweithredol.
I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru