Y Cyfeiriadur Clystyrau Allforio – Cynhyrchion Defnyddwyr

O'r doreth o roddion mae cefn gwlad Cymru yn eu darparu daw amrywiaeth syfrdanol o fusnesau mor amrywiol â'r tir o'u cwmpas. Mae llechweddau a thraethau'n darparu perlysiau gwyllt a gwymon sy'n cael eu defnyddio i wneud sebonau a chynhyrchion harddwch â dawn a chariad; mae coedwigoedd Cymru yn cynhyrchu coed ynn a choed derw, sy'n cael eu trawsnewid yn fedrus yn eitemau addurniadol ac ymarferol; mae crefftau traddodiadol fel gwehyddu a lliwio yn cael eu hadfywio gyda naws fodern.  Mae diwydiannau budr yn ildio i grefftwyr medrus sy'n llunio unrhyw beth o feiciau i emwaith, gan harneisio technolegau oesoedd a fu a thechnoleg fodern, ac mae stiwardiaeth ofalus yn troi hobïau yn fusnesau ffyniannus, gan ddarparu swyddi i'w cymunedau.

Mae'r cwmnïau a welir yma'n arddangos gwlad fach sydd â chalon fawr a dyfodol hyd yn oed yn fwy.

Mae'r rhaglen clwstwr allforio yno i helpu cwmnïau o Gymru i ddatblygu eu capasiti a'u gallu wrth allforio, gyda'r nod o greu twf cynaliadwy ac economi gref yng Nghymru sy'n edrych tuag allan.

CompanySubsectorDescription
AbakhanRhoddion a Ffordd o FywMae Michael Abakhan Limited yn fusnes teuluol tair cenhedlaeth oed yn y diwydiant defnydd, edafedd a chrefftau. Mae'r cwmni'n allforio i hen gwsmeriaid yn Sgandinafia ac i'w is-gwmni yng ngwledydd y Baltig, yn ogystal â chyfanwerthu yn y DU. Mae'n gobeithio ehangu ac allforio i farchnadoedd cyfanwerthu yn Ewrop, ac i farchnadoedd manwerthu yn Ewrop ac America
Airflo fishingNwyddau ChwaraeonMae Airflo yn cynhyrchu offer pysgota o bolywrethan, deunydd anadweithiol, sefydlog sy'n gallu cael ei ailgylchu'n llwyr.
Airshot Nwyddau ChwaraeonMae Airshot yn cynhyrchu pympiau ar gyfer teiars beics di-diwb.
Art on ScarvesFfasiwn ac AtegolionSefydlwyd Art on Scarves gan yr artist Lucy Hay, sy'n byw yn y Gogledd.  Roedd Lucy yn chwilio am ffordd i arddangos ei darluniau a'i phaentiadau gwreiddiol a thrwy ddamwain, printiodd ddelwedd ar sgarff!  A dyna eni Art on Scarves.  
Atherton BikesNwyddau ChwaraeonLansiodd Atherton Bikes eu brand beiciau yn 2019. Ers hynny maent wedi ennill 3 Chwpan y Byd a chyrraedd podium Cwpan y Byd sawl gwaith. Maen nhw wedi gwerthu mwy na 170 o feiciau i gwsmeriaid mewn 16 gwlad ac maen nhw newydd lansio gwefan gwerthu uniongyrchol gyda dau feic mynydd yn ogystal ag ystod o nwyddau.
BaastoolNwyddau i'r CartrefStolion troed, celfi ac ategolion i'r cartref, o groen dafad
BearhugNwyddau ChwaraeonYn 2014 roedd sylfaenydd Bearhug yn brwydro gydag anaf tymor hir i'w figwrn a oedd yn bygwth dod â'i ddyddiau fel chwaraewr rygbi cystadleuol i ben. Ac yntau ddim yn un i ildio'n rhwydd na chael ei drechu, aeth ati i chwilio'r byd am help fyddai'n ei gael allan ar y cae chwarae unwaith eto. Ddwy flynedd yn diweddarach a dyma ollwng yr arth; dychwelodd i chwarae a chafodd Bearhug ei eni.
BibadoFfasiwn ac AtegolionMae plant yn creu annibendod!  Aeth Bibado felly ati i ddylunio ystod o ddillad babi, ategolion ac offer sy'n troi gwaith dannedd a dechrau bwyta bwyd caled yn hwyl, gan ganiatáu i'r babi archwilio sut i fwyta.
BSC ToolsNwyddau ChwaraeonMae BSC (Bicycle Service Centre) yn arbenigo mewn offer beic o ansawdd gweithdy proffesiynol. Maent yn gwerthu eu cynnyrch i UDA ac Awstralia.
CatipillaNwyddau i'r CartrefSefydlwyd Catipilla yn 2016 i werthu ystod newydd o gynhyrchion yn y farchnad celfi cathod. Mae'r holl gynhyrchion yn hyrwyddo iechyd a lles cathod, gan ddefnyddio peirianneg arloesol, dulliau cynhyrchu o ansawdd uchel a gwaith dylunio hardd - i gyd am bris fforddiadwy.
CES-SportNwyddau ChwaraeonCES-Sport hand crafts bicycle wheels and other bicycle components.
Conscious SkincareCynnyrch Cosmetig a LlesMae Conscious Skincare yn cynhyrchu â llaw y cynnyrch organig o'r ansawdd gorau ar gyfer y wyneb a'r corff ac yn eu cymysgu'n arbennig i siwtio gwahanol fathau o groen.
Corgi Ffasiwn ac AtegolionMae Corgi Hosiery Ltd yn wneuthurwr sanau a dillad gwau moethus, yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Gan ddefnyddio peiriannau a thechnegau gwau gwreiddiol, ynghyd â thechnolegau modern, mae ffatri Corgi yn cael ei rhedeg gan y teulu, ac erbyn hyn yn 5 cenhedlaeth oed.
Cultech / ProvenCynnyrch Cosmetig a LlesMae'n cael ei gydnabod trwy'r byd fel arloeswr a chynhyrchydd o ansawdd uchel o fewn y diwydiant atchwanegion maeth.
Dr ZigsRhoddion a Ffordd o FywTeganau eco- a figan-gyfeillgar ar gyfer gwneud swigod gyda deunydd pacio y gellir ei ailgylchu.
EYM NaturalsNwyddau i'r CartrefPersawrau cwbl naturiol heb unrhyw gynhwysion synthetig.  O ffynonellau a chyda deunydd pacio cynaliadwy.
First of MarchRhoddion a Ffordd o FywCasgliad o ofaint, cerflunwyr, seramegwyr, chwythwyr gwydr a gwneuthurwyr celfydd sy'n arddangos creadigrwydd a harddwch arteffactau cywrain a wnaed yn falch yng Nghymru.  Mae'r artistiaid medrus hyn yn cynhyrchu darnau unigryw, yn aml i gomisiwn, neu fel rhediad byr o eitemau sy'n canolbwyntio ar edrychiad penodol o ran dyluniad.
ForivorNwyddau i'r CartrefWedi'i ysbrydoli gan eu cariad at lyfrau plant a chan eu cefndir mewn hanes celf, mae darluniau Forivor yn mynd â phlant ar daith o ddydd i nos, lle mae'r annisgwyl a gweddnewidiad yn bethau i'w disgwyl. Mae Forivor wedi adeiladu model ar gyfer y dyfodol, gan wau'n gain eu straeon mewn dillad gwely i'w cadw am byth.
Frog BikesNwyddau ChwaraeonSefydlodd Jerry a Shelley Lawson Frog Bikes yn 2013. Helfa beiciau di-ffrwyth i'w dau blentyn oedd yr ysbrydoliaeth iddynt adael eu gyrfaoedd corfforaethol a chreu beiciau yn arbennig ar gyfer plant. Wrth greu beiciau plant ysgafn, fforddiadwy ac o safon, cafodd Frog Bikes ei eni. Saith mlynedd yn ddiweddarach ac mae'r ffordd mae Frog Bikes yn rhoi'r plentyn yn gyntaf wedi ennyn clod o bedwar ban; gwobrau'r diwydiant am Arloesi a Dylunio, ffatri arobryn, tua 1,800 o fanwerthwyr ledled y byd a phartneriaethau ffyniannus.
GarthenorFfasiwn ac AtegolionMae ein cenhadaeth yn un syml: gwneud heb gyfaddawd dim byd ond edafedd 100% organig, y gellir ei olrhain, sy'n gwbl bositif o ran yr hinsawdd ac yn eithriadol o organig.
Ni oedd y cwmni cyntaf yn y byd i wneud edafedd organig, o'r ddafad i'r siop, a dydyn ni erioed wedi rhoi'r gorau i fod yn arloeswyr sy'n caru'r blaned.
GCRS (General Compliance and Regulatory Services)Gwasanaethau YmgynghorolDarparu arweiniad a chymorth i gwmnïau ar bob mater sy'n ymwneud â Iechyd a Diogelwch; GDPR; GPSR. Gweithio ar draws gwledydd DU, UE, UDA, Asia a’r Môr Tawel a Chyngor Cydweithredol y Gwlff i sicrhau bod nwyddau sy'n cael eu mewnforio a'u hallforio yn cyd-fynd â rheoliadau rhanbarthol a chenedlaethol.
Hair SyrupIechyd a HarddwchOlewau harddwch naturiol ar gyfer cyflyrau gwallt a croen y pen wedi'u difrodi.
Health and HerCynnyrch Cosmetig a LlesDechreuodd stori Health and Her yn 2019, pan benderfynodd ei sylfaenwyr, Kate Bache a Gervase Fay, ei bod yn bryd cael gwared ar y dryswch ym myd iechyd menywod a chynnig rhywbeth fyddai'n grymuso menywod i feddiannu'u menopos eu hunain. Mae Health & Her yn arbenigwyr ar y perimenopos a'r menopos. Trwy eu ap a'u gwefan, gallwch brynu atchwanegion sydd wedi'u creu gan arbeingwyr a chael cyngor eu tîm o arbenigwyr i'ch tywys trwy'r menopos.
The House Name Plate CompanyNwyddau i'r CartrefSefydlwyd cwmni House Nameplate ym 1986 gyda'r syniad o greu arwyddion, rhifau a blychau llythyrau hardd wedi'u crefftio â llaw ar gyfer cartrefi pobl.
Ickle BubbaRhoddion a Ffordd o FywYn teimlo’n rhwystredig oherwydd systemau teithio i blant, oedd yn anymarferol ac yn rhy ddrud, sefydlodd Fran a Veronica Ickle Bubba dros ddeng mlynedd yn ôl er mwyn creu detholiad steilus o offer ar gyfer teuluoedd ifanc. Wedi dechrau gyda phramiau a chadeiriau gwthio, mae Ickle Bubba bellach yn cynnig catalog cynhwysfawr o eitemau fforddiadwy i’r feithrinfa ar gyfer pob math o gyllideb . Mae Ickle Bubba yn gwerthu drwy fanwerthwyr ar y stryd fawr ledled y DU ac yn croesawu ymholiadau gan fanwerthwyr tramor sy’n dymuno gwerthu eu  cynnyrch ar-lein ac mewn siopau.
Mallows Beauty Cynnyrch Cosmetig a LlesBrand disglair, di-flewyn-ar-dafod sy'n dathlu'r amherffaith ac yn addysgu'r defnyddiwr am groen, yn hytrach na gwerthu breuddwydion ffug o 'berffeithrwydd' ac 'atebion cyflym'.
Melin TregwyntNwyddau i'r CartrefMae Melin Tregwynt yn ymddiriedolaeth sy'n eiddo i'r gweithwyr, sy'n cyfuno traddodiadau'r grefft o wehyddu ar frethyn dwbl â lliwiau hardd a dylunio modern arloesol. Heddiw mae brethyn Tregwynt i'w weld mewn gwestai a siopau â safonau dylunio uchel ledled y byd ac ar ffilm a theledu.  Dros y blynyddoedd, maent wedi gweithio gyda chwmnïau mor amrywiol â John Lewis, Muji, y BBC, Designers Guild, Tate Britain, The V&A, Comme des Garcons a Mulberry sydd i gyd wedi comisiynu ystod egscliwsif. 
MijMojNwyddau i'r CartrefAnrhegion personol dan arweiniad dylunio ac ategolion cartref yn bennaf mewn pren caled, wedi'u dylunio a'u saernïo yng Nghymru. Rydym hefyd yn cynnig ystod rhoddion corfforaethol premiwm yn ogystal â gwasanaeth dylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch pwrpasol.
Montagne JeunesseCynnyrch Cosmetig a Lles

Montagne Jeunesse yw un o brif gwmnïau teuluol harddwch a gofal croen y DU sy'n gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion i dros 90 o gwmnïau ledled y byd.  Mae Montagne Jeunesse, sy'n gyfeillgar i lysieuwyr a feganiaid, wedi bod yn cynhyrchu cynhyrchion wedi'u hysbrydoli gan blanhigion ers 1985. Maent yn aelodau sefydlu Cosmetics Industry Coalition for Animal Welfare  ac yn cefnogi nifer o fudiadau bywyd gwyllt.

My FlawlessCynnyrch Cosmetig a LlesMae My Flawless yn gwmni gofal croen, di-greulondeb a figan annibynnol sy'n eiddo i fenywod yn y Gogledd. Lansiwyd eu cynnyrch diwastraff yn 2019 wrth iddynt weld effeithiau llygredd plastig ar draws y byd. 
Milford CollectionNwyddau i'r CartrefMae Milford Collection wedi bod yn cyflenwi anrhegion o safon ar gyfer y cartref a'r ardd ers 1985. Mae'r rhan fwyaf wedi'u gwneud o wydr.
NaissanceNwyddau i'r CartrefMae Naissance yn cynhyrchu cynhyrchion cosmetig organig, fegan-gyfeillgar a digreulondeb o gynhwysion naturiol, gyda threftadaeth Affricanaidd.
Olew HairCynnyrch Cosmetig a LlesMae Olew yn frand gofal gwallt naturiol sydd wedi'i gynllunio i ymhyfrydu yn eich gwallt naturiol!  Elinor Davies-Farn wnaeth greu Olew, ar ôl buddsoddi dim ond £100 yn ei busnes gofal gwallt ei hun a ddechreuodd yn ei chegin, gan ddefnyddio cynhwysion naturiol a'r rhyngrwyd.
Onboard SportsNwyddau Chwaraeon

Arbenigwyr mewn Dillad ar gyfer timau chwaraeon bwrdd.

Pembrokeshire Seaweeds LtdCynnyrch Cosmetig a LlesMae Really Wild Soaps yn naturiol, mwyn, ysgafn eu persawr a maethlon i'r croen. Mae'r cynhwysion gwyllt yn cael eu casglu â llaw o berthi, arfordir a thraethau ardal Tyddewi. Mae rhai o'r sebonau yn cynnwys mêl a chwyr gwenyn.
Pharma GroupCynnyrch Cosmetig a LlesCynhyrchion sy'n gofalu am les y cwsmer, gan arbenigo mewn cymysgeddau naturiol a chynaliadwy a chynhwysion arloesol.
Phytopet/ Herbal Remedies for AnimalsCynnyrch Cosmetig a LlesAtchwanegion llysieuol a thrwythi naturiol ar gyfer anifeiliaid ac anifeiliaid anwes. 100% o'r holl gynhwysion yn naturiol ac o radd addas i bobl.
PromixxNwyddau ChwaraeonErs ei lansio yn 2012, mae Promixx wedi creu technoleg Vortex Mixing ac X-Blade. Mae eu cynnyrch yn cynnwys poteli ysgwyd protein a chymysgwyr maeth.
Radical Tea TowelRhoddion a Ffordd o FywAnrhegion radical a ffeministaidd i’r cartref wedi'u hysbrydoli gan gymeriadau hanesyddol o ddigwyddiadau cymdeithasol mawr y gorffennol.
Rapport of LondonFfasiwn ac AtegolionBydd cynhyrchion horolegol Rapport Llundain yn helpu i gadw ac ymestyn oes eich wats/cloc. Rydym yn gwmni teuluol sy'n defnyddio llawer o draddodiadau a thechnegau'r crefftwyr yr oeddem yn eu harfer dros 120 mlynedd yn ôl pan gawsom ein lansio.
Rhug Wild BeautyCynnyrch Cosmetig a LlesMae Rhug Wild Beauty yn cynhyrchu cynnyrch gofal croen a chorff moethus sydd wedi'u gwneud o gynhwysion organig, naturiol a gwyllt effeithiol ar Ystâd Rhug yn y Gogledd.
Road Safety DesignRhoddion a Ffordd o Fyw

Offer rhybuddio LED ar gyfer modurwyr.

SnoapCynnyrch Cosmetig a LlesMae Snoap yn cynhyrchu peiriannau sebon gan ddefnyddio cacennau sebon caled sy'n cael eu malu'n bowdwr mân.  Mae bariau sebon traddodiadol yn well i'r amgylchedd, yn well i'ch croen, yn fwy hylan ac yn rhatach - ond gallant fynd yn flêr ac yn annymunol i'w defnyddio. Yn hawdd eu gosod ar y wal, mae peiriannau Snoap yn ddelfrydol ar gyfer ardaloedd cyhoeddus prysur yn ogystal ag o amgylch y cartref gan y gellir eu hail-lenwi'n hawdd.  Mae gwasanaeth tanysgrifio yn eich galluogi i dderbyn bariau sebon yn rheolaidd.
SPORTTAPENwyddau ChwaraeonMae SPORTTAPE yn fusnes teuluol, gyda chwaraeon yn ei DNA. Ei nod yw cynnal miliwn o athletwyr yr wythnos â thapiau y gallant ymddiried ynddynt. Daeth SPORTTAPE o'r angerdd i helpu athletwyr i gael llai o anafiadau ac i ymadfer yn gynt. Roedden nhw am iddyn nhw deimlo manteision tâp cinesiolegol.
StashedNwyddau ChwaraeonA hwythau am greu'r systemau storio gorau ar gyfer perchnogion beiciau ym mhobman, mae Stashed yn gwneud ystod o offer modiwlaidd i storio nifer o feiciau mewn lleoedd cyfyng. Yr un mor gartrefol yn y tŷ, mewn garej neu mewn siopau bach, nid yw dyluniadau Stashed yn aberthu ansawdd, estheteg na dyfeisgarwch.
Tarian DrumsRhoddion a Ffordd o FywMae Tarian yn dewis yr argaenau gorau o bren Cymreig i greu eu drymiau a wneir yn fanwl â llaw.  Yn wahanol i’r rhan fwyaf o wneuthurwyr modern, mae Tarian yn defnyddio’r dull o gywasgu oer y maent yn ei gredu sy’n gwarchod cyfanrwydd y deunyddiau a ddefnyddir ac yn ychwanegu at donyddiaeth eu hofferynnau. Yn cael eu gwerthfawrogi gan ddrymwyr ledled y byd, mae citiau Tarian yn prysur ddatblygu enw da i’w hunain ymysg y gymuned ddrymio a tharo.
Timber Kits / MachinationsRhoddion a Ffordd o FywMae Timberkits yn gwmni teuluol a gafodd ei sefydlu yn 1993, ym mherfeddion y Canolbarth. Maent yn dylunio, yn prototeipio ac yn cynhyrchu modelau newydd bob blwyddyn ac yn gwasanaethu cwsmeriaid ledled y byd.
Tyre GliderNwyddau ChwaraeonAmcan Tyre Glyder yw gwneud y broses o newid teiar beic mor hawdd a hwylus â phosibl trwy ddefnyddio'n dyfais chwyldroadol ac arloesol - y Tyre Glider.
Twmpa cyclesNwyddau ChwaraeonNod Twmpa Cycles yw dylunio ac adeiladu'r beiciau graean gorau yn y DU, gyda fframiau pren sy'n sefyll allan, sy'n reidio'n galed ac yn troi pennau.
Unite Components LtdNwyddau ChwaraeonMae Unite yn fusnes ifanc llewyrchus a'i gartref ar y ffin rhwng Cymru a Sir Amwythig lle maen nhw'n cynhyrchu rhannau ar gyfer beiciau. Mae Unite yn cynhyrchu rhannau sy'n cynnig y math o fanteision na all gweithgynhyrchwyr eraill eu darparu – i gyd yn yr un lle. Maent wedi ymrwymo i ddarparu cynhyrchion syml, gwreiddiol o ansawdd.
War World Ltd (wwscenics)Rhoddion a Ffordd o FywAtegolion wedi'u gwneud â llaw ar gyfer dioramas gemau a rheilffyrdd
Wales PerfumeryCynnyrch Cosmetig a LlesMae Wales Perfumery yn cynhyrchu amrywiaeth o beraroglau wedi'u gwneud o gynhwysion lleol o ffynonellau cyfrifol sy'n adlewyrchu harddwch ac amrywiaeth cefn gwlad Cymru.  Wedi'u cymysgu'n fedrus gan y perchennog a'r prif bersawrydd Louise Smith, mae'r cwmni'n magu enw da am bersawr unigryw ar gyfer pen moethus y farchnad.
ZEAL INNOVATION LTD (Litelok)Nwyddau ChwaraeonMae Litelok® yn gwneud cynhyrchion premiwm ar gyfer atal lladron beiciau, e-feiciau, sgwteri a beiciau modur gan ddefnyddio deunyddiau arloesol ac ysgafn, peirianneg dylunio arbenigol a thechnoleg flaengar ym Mhrydain.