Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio ag Tokyo, Japan. Bydd y genhadaeth fasnach hon yn cyd-daro â Sioe Gemau Tokyo, 13-21 Medi 2026.

Pam Japan?
Japan yw’r drydedd economi fwyaf yn y byd a’r bedwaredd wlad fwyaf o ran masnachu rhyngwladol. Mae’n farchnad hynod o ddatblygedig, gyda seilwaith modern ac mae’n cael ei gweld fel pwerdy economi uwch-dechnoleg Asia.  

Mae Japan yn farchnad amrywiol, gyda lefel uchel o wariant defnyddwyr, ac mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau o Gymru.

Pam Mynd ar yr Ymweliad? 
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.

Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
•    Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad. 
•    Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
•    Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
•    Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
•    Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad

Pecyn a Chostau
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi* cwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad â’r farchnad allforio hon. Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni. Mae’r gost yn £2,200 (eich cyfraniad). Mae hyn yn cynnwys:

•    Hedfan allan ac yn ôl
•    Trosglwyddiadau o fewn y farchnad (os yn teithio’r ddwyffordd gyda’r grŵp craidd)
•    Llety am 6 noson gyda brecwast
•    Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.

Manylion y Digwyddiad
Pryd: 12-21 Medi 2026
Ble:  Tokyo
Sectorau: Pob sector
 

Trefn
•    12 Medi – Gadael am Tokyo
•    14 – 19 Medi– Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Tokyo 
•    20 Medi – Dychwelyd i Gymru

Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gall un o’n hymgynghorwyr busnes eich helpu trwy drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi. Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gynnwys yn y costau uchod.

Sylwch, os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, rhaid i chi gyflwyno’ch cais 8 wythnos cyn i’r ymweliad neu'r arddangosfa ymadael. Os bydd eich cais yn cyrraedd ar ôl 4 Gorffennaf 2026, yna ni allwn warantu y bydd digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
4 Gorffennaf 2026 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
15 Awst 2025 (Teithio yn unig)

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn hyn, cysylltwch â'r blwch post masnach - internationaltrade@llyw.cymru

*Os bydd lle ar gael.