Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio ag Tokyo, Japan. Bydd y genhadaeth fasnach hon yn cyd-daro â Sioe Gemau Tokyo, 13-21 Medi 2026.
Pam Japan?
Japan yw’r drydedd economi fwyaf yn y byd a’r bedwaredd wlad fwyaf o ran masnachu rhyngwladol. Mae’n farchnad hynod o ddatblygedig, gyda seilwaith modern ac mae’n cael ei gweld fel pwerdy economi uwch-dechnoleg Asia.
Mae Japan yn farchnad amrywiol, gyda lefel uchel o wariant defnyddwyr, ac mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau o Gymru.
Pam Mynd ar yr Ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
• Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
• Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
• Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
• Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
• Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad
Pecyn a Chostau
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi* cwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad â’r farchnad allforio hon. Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni. Mae’r gost yn £2,200 (eich cyfraniad). Mae hyn yn cynnwys:
• Hedfan allan ac yn ôl
• Trosglwyddiadau o fewn y farchnad (os yn teithio’r ddwyffordd gyda’r grŵp craidd)
• Llety am 6 noson gyda brecwast
• Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Manylion y Digwyddiad
Pryd: 12-21 Medi 2026
Ble: Tokyo
Sectorau: Pob sector
Trefn
• 12 Medi – Gadael am Tokyo
• 14 – 19 Medi– Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Tokyo
• 20 Medi – Dychwelyd i Gymru
Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gall un o’n hymgynghorwyr busnes eich helpu trwy drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi. Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gynnwys yn y costau uchod.
Sylwch, os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, rhaid i chi gyflwyno’ch cais 8 wythnos cyn i’r ymweliad neu'r arddangosfa ymadael. Os bydd eich cais yn cyrraedd ar ôl 4 Gorffennaf 2026, yna ni allwn warantu y bydd digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
4 Gorffennaf 2026 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
15 Awst 2025 (Teithio yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn hyn, cysylltwch â'r blwch post masnach - internationaltrade@llyw.cymru
*Os bydd lle ar gael.