Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio ag Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd yn Rotterdam, yr Iseldiroedd.
Pam Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd?
Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd yw'r Digwyddiad Hydrogen penodedig mwyaf yn y byd.
Ymunwch ag arbenigwyr byd-eang o fewn y diwydiant i gyfnewid syniadau allweddol a meithrin cysylltiadau newydd a fydd yn sbarduno'r don nesaf o brosiectau hydrogen yn y 2030au.
Mae Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd yn denu dros 15,000 o weithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant, 2,000 o gynrychiolwyr a thros 350 o siaradwyr.
Uwchgynhadledd ac Arddangosfa Hydrogen y Byd
Pam dod gyda ni?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y sector yma.
Trwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:
• Ffordd gost-effeithiol o ymweld â'r gynhadledd.
• Cyfle i rwydweithio a siarad â busnesau a phpbl dylanwadol o fewn y farchnad
• Cyfle i rannu gwybodaeth gyda phobl eraill sy’n cymryd rhan
• Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiantaeth deithio benodedig
Y Pecyn a’r Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo* cwmnïau i gymryd rhan yn yr arddangosfa hon.
Pecyn ymwelydd – £900 (eich cyfraniad ar gyfer un cynrychiolydd fesul cwmni)
• Hedfan allan ac yn ôl
• Trosglwyddiadau yn y farchnad (os yn teithio’r ddwyffordd gyda’r grŵp craidd)
• Llety am 4 noson gan gynnwys brecwast (Dydd Mawrth – Dydd Iau)
• Stondin cyd-arddangos ar Bafiliwn Cymru
• Pas ymwelydd 3 diwrnod
• Mynychu digwyddiadau yn y farchnad
• Cael eich cynnwys yn llyfryn marchnata a hyrwyddo Llywodraeth Cymru
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata eraill
Manylion y Digwyddiad
Pryd – 19 – 22 Mai 2026
Sectorau – Hydrogen
Ble – Rotterdam, yr Iseldiroedd
Amserlen
19 Mai – Gadael am Rotterdam
20 – 21 Mai – Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd / cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd
22 Mai – Dychwelyd i Gymru.
Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig help un o’n hymgynghorwyr busnes i drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Os hoffech fanteisio ar y gwasanaeth hwn, rhaid i chi gyflwyno eich cais o leiaf 10 wythnos cyn ymadael.
Os byddwch yn cyflwyno eich cais ar ôl 6 Mawrth 2026, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
6 Mawrth 2026 (Teithio a llety, gyda chyfarfodydd dewisol wedi'u trefnu ymlaen llaw)
17 Ebrill 2026 (Teithio a llety yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost, cysylltwch â'r blwch post masnach - internationaltrade@llyw.cymru
*Os bydd lle ar gael.