Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio ag Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd yn Rotterdam, yr Iseldiroedd.

Pam Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd? 
Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd yw'r Digwyddiad Hydrogen penodedig mwyaf yn y byd.

Ymunwch ag arbenigwyr byd-eang o fewn y diwydiant i gyfnewid syniadau allweddol a meithrin cysylltiadau newydd a fydd yn sbarduno'r don nesaf o brosiectau hydrogen yn y 2030au.

Mae Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd yn denu dros 15,000 o weithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant, 2,000 o gynrychiolwyr a thros 350 o siaradwyr.

Uwchgynhadledd ac Arddangosfa Hydrogen y Byd

Pam dod gyda ni?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y sector yma.

Trwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:

•    Ffordd gost-effeithiol o ymweld â'r gynhadledd. 
•    Cyfle i rwydweithio a siarad â busnesau a phpbl dylanwadol o fewn y farchnad
•    Cyfle i rannu gwybodaeth gyda phobl eraill sy’n cymryd rhan
•    Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiantaeth deithio benodedig

Y Pecyn a’r Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo* cwmnïau i gymryd rhan yn yr arddangosfa hon.

Pecyn ymwelydd – £900 (eich cyfraniad ar gyfer un cynrychiolydd fesul cwmni)

•    Hedfan allan ac yn ôl 
•    Trosglwyddiadau yn y farchnad (os yn teithio’r ddwyffordd gyda’r grŵp craidd)
•    Llety am 4 noson gan gynnwys brecwast (Dydd Mawrth – Dydd Iau)
•    Stondin cyd-arddangos ar Bafiliwn Cymru
•    Pas ymwelydd 3 diwrnod
•    Mynychu digwyddiadau yn y farchnad
•    Cael eich cynnwys yn llyfryn marchnata a hyrwyddo Llywodraeth Cymru
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata eraill

Manylion y Digwyddiad 
Pryd – 19 – 22 Mai 2026
Sectorau – Hydrogen
Ble – Rotterdam, yr Iseldiroedd

Amserlen 
19 Mai – Gadael am Rotterdam
20 – 21 Mai – Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd / cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd 
22 Mai – Dychwelyd i Gymru.

Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig help un o’n hymgynghorwyr busnes i drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.

Os hoffech fanteisio ar y gwasanaeth hwn, rhaid i chi gyflwyno eich cais o leiaf 10 wythnos cyn ymadael.

Os byddwch yn cyflwyno eich cais ar ôl 6 Mawrth 2026, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
6 Mawrth 2026 (Teithio a llety, gyda chyfarfodydd dewisol wedi'u trefnu ymlaen llaw)
17 Ebrill 2026 (Teithio a llety yn unig)

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost, cysylltwch â'r blwch post masnach - internationaltrade@llyw.cymru

*Os bydd lle ar gael.