Workplace Worksafe Managing Director Rhian Parry

 

Mae Workplace Worksafe o Ruthun, Sir Ddinbych, yn gyflenwr blaenllaw o gyfarpar diogelu personol (PPE), dillad gwaith a gwisgoedd corfforaethol  wedi'u brandio.  Maent hefyd yn cyflenwi nwyddau ar gyfer amddiffyn cydrannau hanfodol i’r diwydiant ynni adnewyddadwy.

Ers ei sefydlu gan y wraig fusnes  Rhian Parry yn 2005, mae Workplace Worksafe a Rhian wedi ennill gwobrau lu ac maent bellach yn cyflogi 15 o bobl.
 

Erbyn hyn, mae gwerthiannau rhyngwladol y cwmni yn ffurfio tua thraean o'i fasnach ac mae'n gobeithio dyblu ei allforion dros y 18 mis nesaf.

Mae gan y cwmni restr dda o gleientiaid ar draws y sectorau adeiladu, peirianneg ac ynni, gan gynnwys RWE, Siemens Energy, Jones Bros, GE Vernova, Orsted, a Deutsche Windtechnik.  Maent hefyd yn gwasanaethu nifer o sefydliadau'r sector cyhoeddus. Gwerthir ei gynnyrch ledled y DU ac Ewrop, ac mae cynlluniau ar y gweill i ehangu i America.

Trwy ei is-adrannau 'Component Safe' a 'Windfarm Worksafe', mae'r cwmni'n dylunio systemau amddiffynnol ar gyfer cydrannau hanfodol a ddefnyddir mewn tyrbinau gwynt, fel cydrannau trydanol sensitif. Mae’r  cynnyrch hwn yn gallu gwrthsefyll amodau eithafol, gan  ddiogelu'r cydrannau, y technegwyr sy'n gweithio arnynt, yn ogystal â'r tyrau tyrbinau gwynt wrth iddynt gael eu cludo, eu gosod a’u cynnal. O ganlyniad, arbedwyd cannoedd o oriau gosod bob blwyddyn yn ogystal â chostau sylweddol trwy atal difrod i’r cydrannau, sy’n costio mwy na £25,000 i’w newid.

Adran diogelu cydrannau'r cwmni yw’r rhan o'r busnes sy'n tyfu gyflymaf ac yn agor mwy o gyfleoedd rhyngwladol i'r cwmni.

 

Datblygiad mewn Allforio

Dechreuodd Workplace Worksafe allforio yn 2011 ar ôl cysylltu â Llywodraeth Cymru i gael cymorth i ehangu ei bresenoldeb rhyngwladol. Penodwyd Cynghorwyr Masnach Ryngwladol i roi cyngor arbenigol i’r cwmni.

 

Ers hynny, mae'r busnes wedi elwa o amrywiaeth o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys teithiau masnach i Ddenmarc, Canada ac America; ymchwil marchnad i farchnadoedd targed; cyflwyniadau i gysylltiadau mewn rhanbarthau allweddol; a chyllid gan Gronfa Datblygu Busnesau Tramor, a hwylusodd gyfarfodydd rhwng Workplace Worksafe a darpar gleientiaid yn ystod cynhadledd yn Las Vegas.

Yn ystod 2022-2023, penderfynodd Workplace Worksafe fynd ati i dyfu ei allforion ac mae ymdrech y cwmni bellach wedi dwyn ffrwyth.  18 mis yn ddiweddarach, mae’r cwmni wedi datblygu perthynas dda gyda chwsmeriaid mewn rhanbarthau targed gan gynnwys America.

Dywedodd Rhian Parry, Rheolwr Gyfarwyddwr Workplace Worksafe:

 "Fel busnes, mae allforio yn cynnig cyfleoedd gwych i ni ac mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'n twf. Mae wedi ein rhoi ar blatfform ariannol cadarn, gan ein helpu i amrywio ein marchnadoedd a rhoi hwb i’n trosiant. Mae’r busnes yn mynd o nerth i nerth.

 

“Pan ddechreuais allforio am y tro cyntaf, roeddwn i’n ofnus ofnadwy gan ei fod mor newydd i mi ac nid oeddwn eisiau ei wneud yn anghywir, ond rwy'n falch fy mod wedi cymryd y cam a chael help i ddechrau oherwydd nawr rydyn ni'n dechrau elwa o'n strategaeth allforio. 

 

“Rydym yn gwerthu ein cynnyrch ledled y byd ac mae gennym gynlluniau cyffrous i dyfu a dosbarthu mewn mwy o wledydd, gan gynnwys rhannau eraill o Ewrop, Canada a ledled America. Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r tîm masnach yn Llywodraeth Cymru sy'n ein helpu i ganfod marchnadoedd newydd y gallwn fanteisio arnynt. Maent hefyd yn trefnu cyfarfodydd i ni, ac yn rhoi cyngor ar sut i fynd ati'n llwyddiannus."

Yn ogystal ag ehangu yn yr Unol Daleithiau, mae Workplace Worksafe hefyd yn bwriadu tyfu ei bresenoldeb mewn marchnadoedd pwysig fel yr Almaen, Denmarc ac Ewrop.

 

Amyneddgarwch yw'r allwedd

Ar gyfer busnesau eraill sy'n edrych i allforio, mae Rhian yn argymell canolbwyntio ar un farchnad ar y tro a bod yn amyneddgar. Ychwanegodd: "Fel busnes bach sydd wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru, mae'n anhygoel faint rydyn ni wedi tyfu ac rydym yn edrych ymlaen at ehangu ymhellach. Fy nghynllun yw targedu un wlad ar y tro yn hytrach na thrio taclo nifer o farchnadoedd ar yr un pryd. Mae’r ffordd o gynnal busnes yn wahanol ym mhob gwlad felly mae angen teilwra eich strategaeth yn unol â hynny.

 

"Mae datblygu perthnasoedd yn allweddol i fasnachu’n rhyngwladol ac mae’n wir hanfodol i ymweld â'ch marchnad darged i ddeall sut maent yn cynnal busnes yno ac i gwrdd â phobl . Mae cyfarfodydd ar-lein yn ddechrau da ond nid oes unrhyw beth tebyg i gwrdd â darpar gwsmer wyneb yn wyneb i daro bargen."

 

“Mae hefyd yn bwysig cofio fod allforio yn brosiect tymor hir ac mae rhaid bod yn realistig am beth ydych am ei gyflawni.  Ni allwch ddisgwyl cael llwyddiant yn syth bin, mae’n rhaid gweithio arno.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen